大象传媒

Pryder am effaith 'tlodi eli haul' ar iechyd plant

  • Cyhoeddwyd
Plant ysgol gydag eli haul
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ysgolion yn ceisio diogelu y plant rhag yr haul

Mae elusen ganser wedi rhybuddio y gallai'r argyfwng costau byw arwain at broblemau iechyd hir dymor i blant os yw rhai rhieni'n methu fforddio prynu eli haul.

Byddai gostwng Treth ar Werth ar eli haul, sydd ar hyn o bryd ddim yn cael ei ystyried yn offer 'iechyd', yn golygu ei fod yn fwy fforddiadwy yn 么l Tenovus.

Daw hynny wrth i un ysbyty ddweud eu bod nhw eisoes wedi gweld mwy o blant yn dod i mewn i gael eu trin am losgiadau haul eleni.

Dywedodd Ceryn Lawless, sy'n rhedeg cwmni harddwch yng Nghaerdydd, ei fod yn hanfodol i blant cael mynediad at eli haul gan fod "86% o niwed yr haul yn digwydd cyn 18 [oed]".

Mae yna ymgyrch bellach ar droed i geisio dosbarthu eli haul i blant difreintiedig ac annog mwy o addysg am ddiogelwch haul mewn ysgolion.

'Methu fforddio eli haul i'r plant'

Yn 么l Cancer Research mae yna dros 17,000 achos o felanoma, math o ganser y croen, yn y DU bob blwyddyn, ac mae cyfradd yr achosion yn cynyddu'n gynt nag unrhyw fath arall o ganser.

Ond er bod gormod o haul yn gallu cynyddu'r risg o gael canser y croen, mae elusen Melanoma Focus yn dweud bod un o bob wyth person ddim yn defnyddio eli haul am ei fod yn rhy ddrud.

"Yn enwedig efo'r tywydd poeth 'dan ni 'di gael yn ddiweddar, efallai bod 'na bobl sydd methu fforddio cael eli haul i'r plant," meddai Lowri Griffiths o elusen Tenovus.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae eli haul yn hanfodol i gadw'n ddiogel - ond hefyd yn ddrud

"'Dan ni'n gwybod os 'di plant ddim yn defnyddio eli haul a chael rhyw fath o amddiffyniad yn erbyn yr haul pan maen nhw'n ifanc, maen nhw'n fwy tebygol o gael canser y croen wrth i chi dyfu fyny.

"Beth 'dan ni wir yn ei boeni amdano ydi malignant melanoma, ac yn anffodus 'naeth 127 o bobl farw yng Nghymru llynedd efo melanoma, felly 'di o ddim yn rhywbeth allwch chi beidio meddwl amdano, mae rhoi eli haul yn really pwysig."

Mae ymgyrch #SunPoverty yn cael ei redeg gan gwmni harddwch Escentual o Gaerdydd, ac yn darparu eli haul am ddim i blant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ceryn Lawless yn rhedeg ymgyrch i ddarparu eli haul am ddim

"Mae 86% o niwed yr haul yn digwydd cyn 18 [oed], felly mae'n really bwysig i blant gael eli haul," esboniodd Ceryn Lawless o'r ymgyrch.

"Os dydyn nhw ddim yn gallu fforddio cael eli haul mae ein campaign ni'n gallu helpu nhw a'u teulu i gael eli haul ac i fod yn saff pan maen nhw ar yr iard."

'R么l bwysig gan ysgolion'

Un o'r ysgolion sy'n rhan o'r ymgyrch ydy Ysgol Gynradd Ynys y Barri.

Mae'r pennaeth, Matt Gilbert, yn dweud fod rhai rhieni yn rhy "falch" i gydnabod pan mae'r costau byw yn brathu, a bod 'tlodi eli haul' yn gallu bod yn broblem felly.

"Mae gan ysgolion r么l nid yn unig i sicrhau bod plant yn cael eu bwydo'n iawn, ond hefyd o ran diogelwch haul," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Matt Gilbert yn cydnabod fod 'tlodi eli haul' yn broblem

"Mae gennym ni le pwysig i gefnogi teuluoedd gydag adnoddau ychwanegol mewn ysgolion, ar yr iard, a gydag ymweliadau addysgiadol."

Yn Ysgol Crud y Werin yn Aberdaron mae'r plant yn gorfod mynd a'u eli haul eu hunain i'r ysgol, ac felly cyfrifoldeb y rhieni ydy o i sicrhau eu bod nhw wedi eu diogelu.

"Yn y bora 'dan ni'n rhoi eli haul iddyn nhw pan mae'n ddiwrnod braf," meddai Dafydd Myrddin, un o'r rhieni.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dafydd Myrddin, rhiant yn Ysgol Crud y Werin yn rhoi eli haul ar ei blant cyn mynd i'r ysgol

"'Dach chi'm isio iddyn nhw losgi, yn enwedig efo'r [risg] canser 'ma."

Ychwanegodd Hayley Jones nad oedd hi'n teimlo bod yr eli haul yn rhy "gostus".

"Ond mae 'na lot o wahanol fathau i ddewis, mae hynny'n gallu bod yn reit daunting. Mae isio darllen mewn iddyn nhw gynta' cyn prynu nhw," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid yw Hayley Jones yn teimlo bod eli haul yn rhy gostus

Cadw'n ddiogel yn yr haul

Mae'r gwasanaeth iechyd yn dweud y dylai plant wisgo eli haul ffactor 30 neu uwch, a cheisio cadw allan o'r haul yn ystod oriau poethaf y dydd os yn bosib.

Mae ffyrdd eraill o gadw'n saff yn yr haul yn cynnwys gwisgo dillad sy'n gorchuddio'r croen, gan gynnwys hetiau.

Ond yn 么l Bethan Lewis, sy'n nyrs yn uned llosgiadau Ysbyty Treforys yn Abertawe, maen nhw dal wedi gweld mwy o blant yn dod atyn nhw am driniaeth eleni er gwaetha'r rhybuddion.

"Rhywbeth 'dyn ni'n gweld llawer yw pan mae plant yn mynd i nofio, pan maen nhw'n dod mas 'dyn nhw ddim yn rhoi e 'n么l arno, dyna yw'r camgymeriad mae llawer yn 'neud," meddai.

"Gydag eli haul, mae'n gallu mynd mas o ddyddiad, ac mae'n really pwysig bod e mewn dyddiad neu mae llosgiadau'n mynd i ddigwydd."