'Diffyg cynrychiolaeth LHDTC+ mewn llenyddiaeth Gymraeg'
- Cyhoeddwyd
Mae yna brinder o gynrychiolaeth lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol ar gyrsiau llenyddiaeth Gymraeg mewn ysgolion, yn 么l rhai disgyblion.
Mae rhai pobl ifanc wedi dweud wrth Newyddion S4C eu bod yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu cynrychioli yn y testunau maen nhw'n ei astudio.
Ar hyn o bryd mae mwy na 48 testun gosod ar gyrsiau llenyddiaeth Cymraeg TGAU a Lefel A.
Mae unrhyw gyfeiriad amlwg at gymeriadau a them芒u LHDTC+ yn brin.
Dywed corff arholi CBAC y bydd yn comisiynu darnau newydd o lenyddiaeth o fis Medi 2025.
Bydd y darnau, medden nhw, yn ymdrin 芒 them芒u eang, gan gynnwys testunau LHDTC+, fel rhan o'r cwrs TGAU Cymraeg newydd.
Her i ganfod llyfrau addas
Yn 么l Becky Richards, athrawes Bioleg yn Ysgol Gyfun G诺yr yn Abertawe, mae'r diffyg amrywiaeth yn y Gymraeg yn bryder.
"Ma' fe'n bwysig tu hwnt bod gyda nhw'r gynrychiolaeth lawn 'na yn y Gymraeg ac yn y Saesneg," meddai.
"Wrth i nhw dyfu i fod yn bobl ifanc bod nhw'n dod i adnabod falle' pwy ydyn nhw fel unigolion.
"Os nag oes 'da ni'r gynrychiolaeth 'na yn ein llyfrau Cymraeg ni neu yn ein hysgolion Cymraeg, efallai bydd hi'n fwy anodd i'r bobl ifanc yna i ddod i adnabod eu hun fel unigolion unigryw."
Mae Ms Richards wedi dechrau llyfrgell sy'n canolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud 芒 phobl hoyw, deurywiol a thrawsryweddol i'w disgyblion - llyfrgell LHDTC+.
Ond dywedodd ei bod wedi bod yn her i ganfod llyfrau addas yn y Gymraeg.
I rai o'r disgyblion sy'n defnyddio'r llyfrgell, mae'r diffyg cynrychiolaeth yn yr hyn maen nhw'n astudio yn Gymraeg yn rhwystredig.
Dywedodd Rose, sy'n ddisgybl Blwyddyn 12 yn yr ysgol, ei bod hi'n bwysig fod plant ifanc yn gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli.
"Dwi wedi rhoi cwpl o lyfrau fy hun i'r llyfrgell achos fi'n gwybod pa mor bwysig yw hi i blant ifanc yn enwedig weld eu hun a chael eu cynrychioli tu fewn i'r llyfrau yma."
'Mwy diflas' yn y Gymraeg
Ychwanegodd Anna, myfyriwr arall ym Mlwyddyn 12: "Mae 'na ddigon o bobl allan yna i ysgrifennu'r pethau 'ma ond pam dydyn nhw'n cael eu cynnwys ar y cwricwlwm?
"Ni'n astudio'r holl lyfre yma am bopeth arall, o gerddi amdano ffoaduriaid, yr Holocost, ond dim byd am fod yn hoyw neu [LHDTC+]."
Ychwanegodd Eleri, o Flwyddyn 10 bod y diffyg amrywiaeth yn "'neud e'n fwy diflas fi'n meddwl achos yn Saesneg dwi'n meddwl fod e'n fwy hwyl i astudio".
"Does dal ddim representation ond mae'r them芒u yn fwy relevant i ddyddiau yma," meddai.
Un gyfres boblogaidd ar gyfer pobl ifanc yw Y Pump, sy'n trafod amryw o them芒u gan gynnwys trawsrywedd.
Mae'n gasgliad gan 10 o awduron, ac fe enillodd categori Plant a Phobl Ifanc yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni.
Mae un o awduron y gyfres, Leo Drayton yn galw am fwy o lyfrau tebyg.
"Pan o'n i yn yr ysgol roedd y llyfrau o'n i wedi astudio neu'r llyfrau roedd yr athrawon yn hybu ni i ddarllen o'n nhw gyd sort of am yr un cymeriadau a'r un straeon," meddai.
"O'dd 'na ddim lot o diversity a lliwiau gwahanol o bobl.
"Nes i AS Cymraeg. O'dd e'n anodd iawn i fi i deimlo'n gyffrous am yr hyn o'n i'n astudio achos o'n i ddim yn teimlo bod o'n siarad i fi."
'Ydy'r testunau ar gael?'
Mae pennaeth Adran Gymraeg Ysgol Bro Dinefwr yn Llandeilo, Noir Jones, yn dweud mai prinder adnoddau yw'r broblem yn fwyaf.
"Y ddadl hanfodol fan hyn yw argaeledd y testunau," meddai. "Ydy'r testunau ar gael sydd yn cynnwys y pethau yna?
"Dyna'r peth allweddol. Gall CBAC ond cynnwys y pethau hyn os yw'r pethau hyn yn bod.
"Efallai bod e'n her i feirdd ac awduron cyfrwng Cymraeg i gyfansoddi ac ysgrifennu mwy am y pwnc hwn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2022