Rhybudd ambr am wres yn dod i rym i rannau o Gymru
- Cyhoeddwyd
Daeth rhybudd ambr am dywydd poeth eithriadol i rym ar gyfer rhannau o Gymru fore Sul, wrth i'r wlad baratoi am dymereddau uchel iawn dros y dyddiau nesaf.
Mae disgwyl i'r tymheredd godi i 30 selsiws ac uwch yn ystod y dydd.
Mae gofyn i bobl gadw'n ddiogel wrth i arbenigwyr rybuddio y gallai'r gwres arwain at salwch a marwolaeth, hyd yn oed ymhlith pobl iach a heini.
Mae rhybudd i 15 o siroedd Cymru ddydd Sul:
Blaenau Gwent
Bro Morgannwg
Caerdydd
Caerffili
Casnewydd
Castell-nedd Port Talbot
Merthyr Tudful
Pen-y-bont ar Ogwr
Powys
Rhondda Cynon Taf
Sir Ddinbych
Sir Fynwy
Sir y Fflint
Torfaen
Wrecsam
Fe fydd rhybudd ambr ar gyfer Cymru gyfan ddydd Llun a dydd Mawrth, pan mae disgwyl i'r tymheredd gyrraedd y 30au uchel mewn rhai ardaloedd.
Bydd rhybudd coch i rannau o Loegr am y tro cyntaf erioed - sydd yn golygu fod yna berygl i fywyd - gan y gallai tymereddau gyrraedd 40 selsiws.
"Dydyn ni ddim yn gweld rhybuddion fel hyn yn aml, a dyna pham mae'n bwysig dros ben bod pobl yn ei gymryd o ddifri," meddai'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan.
"Dwi'n poeni'n arbennig am yr henoed a dwi'n poeni am blant ifanc. Mae'n bwysig fod pob un yn yfed digon o dd诺r ac yn cadw allan o'r haul ar yr adegau mwyaf poeth."
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gofyn i gwsmeriaid ond i deithio os yn hanfodol ac i ddisgwyl newidiadau i wasanaethau yn sgil y gwres.
Mae rhai canolfannau brechu yn ail-drefnu apwyntiadau o ganlyniad i'r tymheredd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2022