Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ffermio: Ceisio denu 'gwaed newydd' a newid delwedd
- Awdur, Steffan Messenger
- Swydd, Gohebydd Amgylchedd 大象传媒 Cymru
"Mae'n bosib taw dyma un o'r cyfnodau gorau erioed i fod yn berson ifanc mewn amaeth."
Dyna farn Bryony Gittins, 40, ddechreuodd ei gyrfa ym myd bancio ond sydd bellach wedi cymryd cyfrifoldeb dros y fferm deuluol yn Sir Fynwy.
Mae'r diwydiant yn wynebu costau cynyddol, ansicrwydd dros ddyfodol cymorthdaliadau a dan bwysau yngl欧n 芒'i effaith amgylcheddol.
Ond dywed Bryony bod "cyfnod o newid... yn cynnig cyfle" i genhedlaeth newydd o ffermwyr wneud eu marc.
Yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos hon, mae'r undebau amaeth yn dweud eu bod yn gwneud ymdrech bwrpasol i ddenu "gwaed newydd", a thaclo'r ddelwedd o'u haelodaeth fel dynion sy'n fwy oedrannus.
Mae oed ffermwr, ar gyfartaledd yng Nghymru, wedi bod yn heneiddio - yn codi o 56 i 59 rhwng 2010 a 2017.
Yn ystod yr un cyfnod, gwnaeth cyfran y ffermwyr dan 45 ddisgyn i lai na 10%, yn 么l adroddiad o 2019.
Mae Bryony yn aelod o Gr诺p Cenhedlaeth Nesa' NFU Cymru - 18 ffermwr talentog dan 40 oed, ag 11 ohonyn nhw'n fenywod.
Maen nhw'n cynnal cyfarfodydd ag arweinwyr y diwydiant a gwleidyddion ar faes y Sioe yr wythnos hon a thrwy gydol y flwyddyn i ddod.
Yr her, meddai, yw dangos bod modd i ffermio weithio "law yn llaw ag amcanion eraill" fel gwarchod yr amgylchedd.
"Dwi'n nabod bob cornel o'r ffarm, dwi'n nabod y gwcw sy'n byw yn y goeden yma, y gweision neidr sy'n byw draw fynna - a fi yw'r person gorau i rannu'r wybodaeth yna gyda'r llywodraeth neu pwy bynnag sydd angen clywed."
'Cydbwysedd yn bwysig'
Mae'r syniad o wobrwyo ffermwyr a chymorthdaliadau ar sail y gwaith maen nhw'n ei wneud i helpu atal colledion ym myd natur a thaclo newid hinsawdd "yn addawol iawn", meddai Bryony.
"Dwi'n credu bod unrhyw un sy'n flaengar yn deall bod angen symud i ffwrdd o ddulliau dwys [o amaethu] ac yn edrych am fwy 'na hynny.
"Cael y cydbwysedd sy'n bwysig rhwng dulliau ffermio iach, cynhyrchiol a phroffidiol tra'n hybu bioamrywiaeth a'r amgylchedd - a does dim rheswm pam 'na all Cymru gyflawni hynny."
Roedd hi hefyd yn gobeithio codi pryderon yngl欧n 芒'r heriau sy'n wynebu pobl ifanc wrth gael mynediad i dir a thai fforddiadwy yn eu cymunedau.
Ymysg y ffermwyr ifanc sy'n rhan o'r gr诺p mae Awel Mai Hughes, 34, sy'n cadw gwartheg a defaid ger Corwen ac yn bartner a chyfreithwraig hefyd gyda chwmni Agri Advisor.
"Mae'n gyfnod cyffrous iawn i ni fel amaethwyr yng Nghymru," meddai.
"Mae'r cynllun newydd [o ran cymorthdaliadau] yn dod mewn ac mae'n bwysig bod gyda ni gyfle i leisio barn yngl欧n 芒'r hyn sy' mynd i fod ynddo gan mai ni sy'n mynd i fod yn ei weithredu am ddegawdau i ddod.
"Mae'n gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i lunio cynllun sy'n gweithio i ni fel busnesau fferm."
Un sy'n cytuno a hynny yw Jessica Williams, 38, o Fryncrug, Gwynedd.
Mae hi a'i g诺r yn arbenigo mewn magu bridiau cynhenid Cymreig o wartheg a defaid, ac wedi lansio busnes bocsys cig yn ddiweddar.
"Mae wedi mynd yn really dda, ac mae pobl leol yn mwynhau gallu prynu cig lleol o'r bridiau cynhenid i Gymru sydd wedi cael eu geni a'u magu yma," meddai.
"Dwi'n meddwl mai'r adeg yma yn y diwydiant ffarmio yw un o'r adegau pwysica' i fod yn rhan o'r gr诺p cenhedlaeth nesa' efo NFU Cymru - mae polis茂au'n newid a ma' hwn yn gyfle i ni fel gr诺p ifanc i allu rhoi be da ni'n feddwl drosodd.
"Mae'n bwysig bod pobl ifanc yn cael mynediad i ffermydd a mynediad mewn i amaeth a bod hwnna yn cael ei edrych ar ei 么l - bod cwmn茂au mawr ddim yn cymryd drosodd - a bod 'na gyfle i ni fel pobl ifanc i gynhyrchu bwyd ac edrych ar 么l y tirwedd a'r ochr amgylcheddol."
Yn y cyfamser, mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn dweud ei fod yn gwneud ymdrech bwrpasol eleni i ddenu cynulleidfa ifancach i'w rhaglen o ddigwyddiadau - gan gynnwys gigs ar eu stondin a derbyniad i ffermwyr ifanc.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n cael cenhedlaeth newydd i ymddiddori yng ngwaith yr undeb a pholisi amaeth er mwyn bod y diwydiant yn gallu mynd o nerth i nerth," meddai Angharad Thomas, cydlynydd marchnata UAC.
Dywedodd bod gan bobl ddelwedd o waith yr undeb fel rhywbeth ar gyfer ffermwyr h欧n.
"Mae pobl ifanc yn tueddu i fod yn brysur ar 么l gweithio drwy'r dydd a ddim eisiau mynd i gyfarfodydd o reidrwydd," meddai.
"Ond mae'n allweddol ein bod ni'n cael gwaed newydd achos os na fyddwn ni'n gwneud dim yna bydd 'na knowledge gap ac fe allai hynny gael effaith fawr o ran y dyfodol."