Tata: Pryder am swyddi dur heb gymorth ariannol
- Cyhoeddwyd
Mae perchenogion cwmni dur Tata wedi dweud ei bod yn bosib y bydd yn rhaid cau safleoedd ym Mhrydain oni bai fod y cwmni yn cael cymorth i adeiladu ffwrnesi trydan ym Mhort Talbot.
Dywed y cwmni fod y ffwrnesi yn rhan o gynllun i'w galluogi i gyrraedd targedau lleihau allyriadau carbon.
Mae'r cwmni, sy'n cyflogi tua 6,600 o weithwyr ym Mhort Talbot, Casnewydd, Llanelli a Shotton yn ceisio am gytundeb o 拢1.5bn gyda Llywodraeth y DU.
Mae Tata am adeiladu dwy ffwrnes trydan newydd - gan ddisodli'r rhai presennol - ym Mhort Talbot er mwyn lleihau allyriadau carbon.
Dywedodd cadeirydd Tata Natarajan Chandrasekaran wrth bapur newydd y Financial Times fod angen dod i gytundeb gyda'r llywodraeth o fewn 12 mis "neu bydd yn rhaid edrych ar gau safleoedd".
Cost y ffwrnesi newydd fydd tua 拢3bn gyda Tata yn gofyn am gymorth o 拢1.5bn oddi wrth Lywodraeth y DU.
Dywed Llywodraeth y DU fod y diwydiant dur "yn chwarae rhan allweddol" yn economi'r DU a bod Tata yn "gynhyrchydd dur o bwys sy'n cael ei werthfawrogi a'u bod yn gyflogwr pwysig".
Fel pob gr诺p diwydiannol sy'n allyrru carbon deuocsid, gofynnwyd i Tata dorri'r rhain, ac mae swyddogion gweithredol wedi bod yn trafod 芒 Llywodraeth y DU.
Ond dywedodd Aelod Seneddol Aberafan, Stephen Kinnock, fod Llywodraeth y DU yn llusgo eu traed ar y mater.
"Does yna ddim diwydiant dur yn y byd fydd yn gallu digarboneiddio heb gymorth sylweddol llywodraeth, felly pam yn y byd fod Rishi Sunak, Liz Truss a gweddill y cabinet wedi bod yn llusgo eu traed mor hir?"
Dywed undeb y GMB eu bod yn pryderu'n fawr am y sefyllfa a bod angen i'r llywodraeth weithredu yn gyflym.
Yn 么l llefarydd ar ran Llywodraeth y DU mae dur yn chwarae "rhan allweddol ym mhob maes o economi'r DU" ac mae Tata yn "gyflogwr sylweddol".
Ychwanegodd: "Mae ein cefnogaeth barhaol wrth gefnogi allyriadau carbon-is i'r sector yn cynnwys 拢289m o gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol a dros 拢1bn i helpu gydag effeithiolrwydd ynni, digarbonieddio ynghyd ag ymchwil a datblygiad."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein ffocws yn parhau i fod ar ymchwilio i bob dull er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus carbon-isel i ddur Cymru.
"Mae'r nod yn un gwbl bosibl, ond mae angen gweithredu gan Lywodraeth y DU.
"Rydym wedi galw yn gyson ar weinidogion y DU i gyhoeddi ar frys pecyn o gymorth i ddiogelu cynhyrchiant dur ym Mhort Talbot.
"Mae swyddogion o Gymru wrthi ar hyn o bryd yn trafod gyda'r cwmni, Llywodraeth y DU a'r undebau er mwyn sicrhau datrysiad brys."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2021