大象传媒

'Angen i Brif Weinidog nesaf y DU roi sylw i Gymru'

  • Cyhoeddwyd
Sunak and TrussFfynhonnell y llun, Getty / Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rishi Sunak neu Liz Truss fydd Prif Weinidog nesaf y DU

Dywed y Ceidwadwyr Cymreig eu bod am i brif weinidog nesaf y DU roi sicrwydd y byddant yn blaenoriaethu Cymru a'i chadw yn rhan o'r DU.

Dywed Sam Kurtz a James Evans, sy'n cynrychioli'r Ceidwadwyr yn y Senedd ym Mae Caerdydd, bod angen i ffermio, sgil effaith HS2 a g诺yl banc ar Ddydd G诺yl Dewi fod yn uchel ar restr y ddau yn y ras.

Mewn cyfweliadau 芒'r 大象传媒 fore Sul dywedodd y ddau bod pwy y maen nhw'n ei gefnogi yn ddibynnol ar sut mae nhw'n ymdrin 芒'r materion hynny.

Rishi Sunak neu Liz Truss fydd prif weinidog nesaf y DU.

Ddydd Iau fe wnaeth y ddau AS ymrwymo i dynhau y rheolau ar fewnfudo i'r DU.

Ond i Mr Kurtz, llefarydd y Ceidwadwyr ar faterion gwledig ac AS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro mae gan Gymru flaenoriaethau eraill.

Yn ystod y Sioe Fawr yn Llanelwedd wythnos diwethaf fe wnaeth arweinydd amaethyddol alw am fwy o gymorth ariannol i ffermydd sy'n ei chael hi'n anodd yn sgil cynnydd mewn costau cynhyrchu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Mr Kurtz bod yn rhaid i'r ddau ymgeisydd "ein sicrhau bod ein penderfyniadau a'n syniadau yn cael eu parchu"

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud na fydd ffermwyr Cymru yn wynebu cystadleuaeth annheg ond dywed Undeb Amaethwyr Cymru bod gwledydd yr Undeb Ewropeaidd yn gwneud mwy i helpu eu ffermwyr.

Dywed Mr Kurtz bod yn rhaid i'r ddau ymgeisydd "ein sicrhau bod ein penderfyniadau a'n syniadau yn cael eu parchu".

"Mae rhaid cael cydweithio rhwng y blaid yn San Steffan, ni ym Mae Caerdydd ac hefyd y blaid lan yn yr Alban," ychwanegodd.

"I fi yn bersonol fyddai yn edrych ar yr ymgeisydd sy'n gallu cydweithio gyda ni yng Nghaerdydd - a byddai'n edrych ar yr ymgeisydd sydd yn gallu ennill yr etholiad cyffredinol nesaf."

Dywedodd AS Brycheiniog a Sir Faesyfed ei fod e wedi cyfarfod 芒 Liz Truss a'i bod hi "ond wedi dweud y bydd hi'n edrych ar y mater".

"Os ydyn nhw'n dymuno cael ein cefnogaeth bydd rhaid i ni gael gwybod yn bendant be' maen nhw'n bwriadu ei wneud dros Gymru - rwy' am weld prif weinidog yn San Steffan sy'n blaenoriaethu Cymru tra'n cadw ni yn y DU hefyd," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Rwy' am weld llywodraeth yn y DU sy'n parchu Cymru," medd James Evans

Ychwanegodd bod Cymru angen "gonestrwydd" tra'n trafod polis茂au a'r heriau sy'n ei hwynebu. "Dy'n ni ddim am fod yn yr un sefyllfa eto," meddai.

"Rhaid i'r ddau ymgeisydd ein tywys drwy gostau byw uchel a delio 芒 thlodi," meddai Mr Evans.

"Mae gweld pobl yn defnyddio banciau bwyd yn gywilydd. Y prif weinidog a fydd yn delio 芒'r materion hynny fydd yr un fyddai yn pleidleisio iddo."

Bydd oddeutu 160,000 o aelodau y Blaid Geidwadol yn derbyn papurau pleidleisio yn ystod yr wythnosau nesaf.

Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 5 Medi.