Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mynediad am ddim i'r Brifwyl i blant cynradd lleol
Mae'r cynllun tocyn am ddim i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron wedi cael ei ehangu fel bod pob disgybl cynradd yng Ngheredigion yn cael mynd i'r maes yn ddi-dâl ar y penwythnos cyntaf.
Bydd plant dan 12 oed o'r sir yn cael hawlio tocyn am ddim ddydd Sadwrn a dydd Sul, 30 a 31 Gorffennaf.
Mae tocynnau teulu hefyd yn parhau am ddim i deuluoedd difreintiedig o Geredigion ynghyd â ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n byw yn y sir.
Wrth rannu'r manylion diweddaraf, mae Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol, Elin Jones wedi ymddiheuro am sylwadau damniol wythnos diwethaf yn beirniadu rhai pobl "farus" oedd wedi hawlio tocynnau am ddim "ar draul plant mewn tlodi a ffoaduriaid".
Dywedodd Ms Jones nos Fawrth: "Ymddiheuriad wrth y Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yma am wylltio braidd ar Facebwc wthnos ddwetha. Taw fydde wedi pia hi Jones."
Ychwanegodd: "Gobeithio nawr gallwn oll edrych ymlaen i fynd i'r Eisteddfod yng Ngheredigion a/neu i groesawu yr holl ymwelwyr i'r sir."
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol bod y trefniadau diweddaraf yn cael eu gweithredu "dan arweiniad Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith".
Ar y ddau ddiwrnod dan sylw, bydd pob plentyn o dan 12 oed yn y sir yn cael hawlio tocyn am ddim a chael "cyfle i ddod i chwarae a mwynhau yn y Pentref Plant ac ar draws y Maes yn Nhregaron".
Ond fe fydd angen i'r plant gyrraedd y Maes cyn 11:00 gydag oedolyn sy'n dal yn gorfod talu am docyn.
Bydd angen rhoi enw, ysgol a blwyddyn ysgol y plentyn i'r staff yn y swyddfa docynnau, a "bydd y manylion hyn yn cael eu gwirio yn erbyn bas data".
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
Dywedodd trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos diwethaf y byddai'n cymryd "oriau o waith" i annilysu'r holl docynnau am ddim a gafodd eu hawlio ar gam, gan fynegi "siom enfawr" ynghylch yr hyn oedd wedi digwydd.
Ond fe fynegodd nifer o bobl siom ynghylch tôn gwreiddiol sylwadau Elin Jones, gan arwain iddi egluro nad oedd yn beirniadu pobl oedd wedi gwneud ceisiadau ar gam am nad oedd yn ymwybodol o'r rheolau.