大象传媒

'Helo Osian, Elton sy' 'ma'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Osian yn siarad gyda Catrin Heledd o Adran Chwaraeon 大象传媒 Cymru

Mae'r taflwr morthwyl o Gaernarfon, Osian Dwyfor Jones, yn brysur yn gwneud y paratoadau terfynol ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham.

Bydd y cyn-ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen yn taflu'r morthwyl ar ddydd Iau 4 Awst, ac yna'n gobeithio mynd ymlaen i'r rownd derfynol ar ddydd Sadwrn 6 Awst. Mae Osian hefyd yn gyd-gapten ar d卯m athletau Cymru gyda Olivia Breen.

  • 'Birmingham 2022: Cymru yn y Gemau': bob nos am 22:00 ar S4C yn ystod y gemau.

Y llynedd fe ddywedodd Osian ei fod yn aelod o'r gymuned LHDTQ+, ac ym mis Ebrill eleni fe siaradodd yn agored am y tro cyntaf am ei rywioldeb mewn podlediad i'r 大象传媒.

Ffynhonnell y llun, Athletau Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Torrodd Osian record daflu morthwyl Cymru gyda'i berfformiad personol gorau, 73.89m.

Y diwrnod wedi iddo drafod hyn ar y podlediad fe gafodd Osian alwad ff么n annisgwyl, gan un o gantorion enwoca'r byd, Elton John.

Mewn cyfweliad gyda Catrin Heledd ar gyfer y rhaglen 'Birmingham 2022: Cymru yn y Gemau' fe soniodd Osian am y dydd pan gafodd yr alwad.

"Es i am goffi efo ffrind yn y p'nawn a wedyn dyma'r ff么n yn mynd a nes i ateb o - 'Hello Osian, it's Elton' medda' fo."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Osian yn cystadlu yn y Gemau yn Glasgow yn 2014.

Doedd Osian ddim yn si诺r iawn sut i ymateb i siarad ag Elton John, fel esbonia: "O'dd o fatha ryw out of body experience, o'n i ddim yn si诺r iawn be oedd yn digwydd.

"'Nath o ofyn i fi sut oedd yr ymateb [i'r podlediad] a sut oedd yr ymarfer yn mynd."

Ydy hyn yn golygu bod gan Osian rif Elton yn ei ff么n? "Ella" meddai Osian gan chwerthin.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Osian yn 7fed yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 yn Awstralia ac mae'n gobeithio gwella ar hynny eleni.

Mae Osian yn rhan o d卯m o 199 o athletwyr fydd yn cynrychioli Cymru yn Birmingham - 100 o fenywod a 99 o ddynion.

Y gobaith ydy y bydd Cymru yn gallu gwella ar y canlyniadau o gemau 2018, ble enillodd y t卯m 10 o fedalau aur.

Hefyd o ddiddordeb: