Elin Jones: 'Gorhawlio' tocynnau Eisteddfod 'wedi'i setlo'
- Cyhoeddwyd
Mae mater "gorhawlio" tocynnau am ddim i'r Eisteddfod Genedlaethol "wedi'i setlo", medd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Elin Jones AS, sydd bellach "wedi symud ymlaen".
Wrth siarad ar ddiwrnod agoriadol y gweithgareddau, dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at brifwyl lwyddiannus iawn yn Nhregaron.
Ddydd Sadwrn yw diwrnod swyddogol cyntaf Eisteddfod Ceredigion 2022, ond nos Wener fe fydd sioe gyntaf y brifwyl - Lloergan - yn cael ei chynnal yn y pafiliwn.
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener dywedodd Elin Jones bod cod ar gyfer teuluoedd difreintiedig a ffoaduriaid yng Ngheredigion wedi'i rannu yn "fwy helaeth na be' oedd fod digwydd" a bod "gorhawlio eitha' difrifol wedi digwydd gan rai".
Dywedodd: "Fe na'th nifer, yn ddiniwed, feddwl bod y cod ar eu cyfer nhw, a'i hawlio fe...
"Fe na'th 'na rai fod tamed bach yn rhy glyfar o bosib a defnyddio'r cod ar gyfer tocynnau am ddim ar gyfer pob diwrnod o'r wythnos."
"Roedd yna nifer, dwi'n cytuno, wedi 'neud cais am y tocynnau yma yn ddiniwed ond do'dd pawb heb, ac o'dd e'n gwbl amlwg erbyn y bore Llun pan edrychodd yr Eisteddfod Genedlaethol ar eu system nhw bythefnos yn ôl bod yna orhawlio eitha' difrifol wedi digwydd gan rai."
Ychwanegodd: "Cynllun oedd hwn ar gyfer pobl yng Ngheredigion ond fe o'dd yna deuluoedd na'th geisio am y tocynnau am ddim o bob rhan o Gymru... o Gaerdydd a Llundain fel mae'n digwydd.
"Felly gorfwyd dod â'r cynllun i ben a chyflwyno cynllun newydd i deuluoedd difreintiedig a ffoaduriaid unwaith eto."
Y penwythnos hwn bydd holl blant cynradd Ceredigion yn cael mynd i'r Eisteddfod am ddim.
'Dewch yn gynnar'
Roedd y brifwyl i fod ei chynnal yn Nhregaron yn 2020 ond bu'n rhaid gohirio ddwywaith yn sgil y pandemig.
Yr hyn sy'n bwysig nawr yw edrych ymlaen wedi gorfod aros mor hir am y brifwyl, ychwanegodd Ms Jones.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Bydden i'n annog pawb i ddod y penwythnos cyntaf wrth i ni ddathlu Dadeni'r Eisteddfod Genedlaethol.
"Bydd perfformiadau byw yn mynd 'mlaen tan hwyr y nos - fe fydd yna syrcas, pob math o oleuo ac wrth gwrs fe fydd Jess, Dafydd Iwan a nifer o bobl eraill yn perfformio ar y penwythnos cyntaf a llawer mwy yn ystod yr wythnos.
"Fe fydden ni'n annog pawb sy'n gallu dod i'r maes y penwythnos cyntaf - peidiwch â'i gadael hi tan y penwythnos olaf achos mae 'na gymaint yn digwydd a hyd yn oed mwy ar y penwythnos cyntaf na'r olaf."
Y Cardis yn codi mwy na'r gofyn
Mae'r pwyllgorau lleol eleni wedi codi rhyw £470,000 ac "wedi codi mwy na'r hyn yr oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn gofyn ac wedi codi mwy na'r ail darged a osodwyd," ychwanegodd Ms Jones.
"Mae pob cymuned o Aberteifi, hyd at ffiniau Machynlleth, wedi cwrdd â'u targed ac felly wedi chwalu y darlun stereotype o'r Cardi."
Dywedodd hefyd ei bod yn falch bod pobl o bob ardal wedi bod yn brysur yn llunio pob math o faneri ac arddangosfeydd i groesawu'r brifwyl.
"Mae pob hewl yn arwain at Dregaron bellach," meddai.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wrth siarad â Radio Wales ychwanegodd Ms Jones ei bod hi'n drist bod rhai pobl allweddol wedi'u colli ers y cyhoeddiad bod y brifwyl yn dod i Geredigion.
Ddydd Iau bydd y brifwyl yn nodi cyfraniad Selwyn Jones - oedd i fod yn lywydd anrhydeddus gyda'i wraig Neli.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2022