Arian ac efydd i Gymru ar ddiwrnod cyntaf Gemau'r Gymanwlad
- Cyhoeddwyd
Mae t卯m Cymru wedi ennill eu medalau cyntaf yng Ngemau'r Gymanwlad 2022 ar y diwrnod cyntaf yn Birmingham.
Llwyddodd y para-seiclwr James Ball i ennill medal arian, cyn i ferched Cymru ennill efydd yn y ras gwibio t卯m.
Neil Fachie o'r Alban a wthiodd Ball i'r ail safle yn y ras yn erbyn y cloc, tandem 1,000m ar gyfer athletwyr sydd 芒 nam ar eu golwg.
Fe wnaeth Ball, a'i beilot Matthew Rotherham, dorri record y gemau gydag amser o ychydig dros funud - 1:00.053 - cyn i Fachie dorri'r record unwaith eto gydag amser o 59.938.
Dyma drydedd medal Ball yng Ngemau'r Gymanwlad, wedi iddo ennill dwy fedal arian yn yr Arfordir Aur yn Awstralia yn 2018.
Ychydig oriau'n ddiweddarach daeth ail fedal i Gymru yn y felodrom, wrth i Rhian Edmunds, Emma Finucane a Lowri Thomas drechu Awstralia i ennill efydd yn y ras gwibio t卯m.
Seland Newydd enillodd yr aur yn y gamp honno, gyda Chanada yn yr ail safle.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022