'Rhoi'r byd yn ei le' wrth ddychwelyd i faes yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
"Croesawgar", "bendigedig", "gwasgaredig", "damp" - blas bach o'r farn yn Nhregaron ar ddiwrnod cyntaf y Brifwyl ers tair blynedd.
Roedd llawer o'r rheiny ar y maes yno i gefnogi'r Eisteddfod yn eu hardal nhw, ac eraill wedi teithio tipyn pellach.
"Mae'n ffantastig yma, mae'n groesawgar. Mae'n biti am y glaw ond 'dan ni'n 'neud y gorau ohono beth bynnag," meddai Eleri Lynn, un o Gymry Llundain.
"Mae'r setting mor lyfli - jyst sefyll yn llonydd ac edrych o gwmpas, mae Tregaron yn beautiful."
Thema gyson ymhlith y rheiny oedd yno ar y dydd Sadwrn agoriadol oedd y gofod y maes - er bod trefnwyr yn dweud ei fod tua'r un maint 芒 meysydd blaenorol, mae'n fwy sgw芒r na rhai hirach y gorffennol ac felly'n teimlo'n fwy i rai.
"Mae hi bach yn damp 'de, ond 'Steddfod 'di Steddfod. Mae'n braf bod 'n么l," meddai Ifan Wyn o Ruthun.
"Mae o'n faes gwasgaredig iawn - digon o le yma i'r plant redeg. Mae'n braf cael lle fflat yn lle mynd fyny a lawr elltydd!"
Cytuno oedd Gerallt Davies o Aberaeron.
"Mae'r maes yn agored iawn, un o'r meysydd gorau dwi'n cofio i ddweud y gwir," meddai.
Gyda'r maes ond dafliad carreg o'i stepen drws, roedd Alice o Flaen Caron hefyd yn gweld "digon o le i bawb".
"Mae pob math o stondinau, digon i'w wneud - bydd Eisteddfod Tregaron yn eisteddfod i'w chofio," meddai.
Roedd trigolion lleol eraill hefyd yno i fanteisio ar gael y brifwyl yn y cyffiniau.
"Mae Rhiannon 'mond 10 diwrnod oed, ond o'n i'n meddwl gan fod e mor lleol, mae'n well bod ni'n dod 芒 hi i'r 'Steddfod," meddai Caryl Hughes, oedd yno gyda'i merch fach.
Doedd Betty Lockyer a Beti James ddim am fethu cyfle i frolio'r lleoliad "perffaith" wrth i'r ffrindiau gael clonc ger y fynedfa.
"I gymharu 芒'r rhai blaenorol - dwi wastad yn mynd i'r 'Steddfod bod blwyddyn - mae hon yn sbesial, mae hi gartre'," meddai Beti James.
"Ni'm 'di gweld ein gilydd ers sbel achos Covid, a nawr ni'n rhoi'r byd yn ei le."
Mae gweld hen ffrindiau'n rhan annatod o'r Eisteddfod i nifer, ond yn arbennig o bwysig eleni yn 么l Maldwyn Pryse o Aberystwyth.
"S'neb wedi gweld ei gilydd ers tair blynedd, ac mae'n cymryd achau i fynd fyny a lawr," meddai.
"Ti'n gweld rhywun, cael sgwrs, mynd dau, dri cam, gweld rhywun, sy'n braf - ni 'di colli'r elfen gymdeithasol yna."
Roedd eraill wedi teithio o tipyn pellach na Cheredigion.
"Rydyn ni ar wyliau yma ac roedd rhaid i ni fynd i'r milfeddyg yn Aberystwyth, ac 'naethon nhw ddweud wrthan ni bod rhaid i ni ddod, mae'n 诺yl fawr," meddai Maina a Hago o K枚ln yn Yr Almaen, oedd yno gyda'u meibion.
"Dydy hi ddim yn brysur iawn yma eto, 'dan ni'n gobeithio am fwy!"
Mae Brooke Martin yn dod o Georgia, yr Unol Daleithiau yn wreiddiol, a bellach yn byw ym Mangor.
"Eisteddfod Caerdydd oedd yr un cyntaf i fi fynd iddo, felly mae hwn yn wahanol iawn - ond dwi'n mwynhau o."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2022