大象传媒

'Disgwyl pethau mawr' wrth i bobl ifanc ddychwelyd i Faes B

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Mae pawb wedi cyffroi yn dod yn 么l i Maes B eleni

Mae trefnwyr Maes B wedi gorfod "ailwerthu'r lle bron 芒 bod" i genhedlaeth newydd o bobl ifanc sydd heb gael profi cornel ieuenctid yr Eisteddfod o'r blaen.

Wrth i'r drysau agos i'r gwersyllwyr cyntaf ddydd Mawrth, dywedodd Elan Evans eu bod nhw "wirioneddol methu aros i groesawu pawb yma i Dregaron".

Gyda digwyddiad Eisteddfod Llanrwst 2019 yn gorfod cael ei ganslo'n gynnar oherwydd y tywydd, a Chaerdydd y flwyddyn gynt yn Brifwyl ddinesig, dyma fydd y tro cyntaf ers pum mlynedd i Faes B gael ei gynnal yn llawn mewn cae traddodiadol.

Mae'n "drist", meddai Elan, fod cenhedlaeth o bobl ifanc felly wedi methu allan ar y profiad - ac felly maen nhw am sicrhau bod profiad eleni hyd yn oed yn fwy "positif a chyffrous".

'Rite of passage' i bobl ifanc

Yn hytrach nag un llwyfan mawr fel sy'n arferol yn y maes ieuenctid, bydd llwyfan ychwanegol eleni ar gyfer bandiau, yn ogystal 芒 phabell arall gyda DJs yn chwarae.

"Ni 'di aros yn hir iawn, iawn am y Maes B yma," meddai Elan Evans.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Elan Evans a'r t卯m yn brysur yn gorffen y paratoadau munud olaf cyn i'r gwersyllwyr gyrraedd

"Ar 么l dwy flynedd lle dyw artistiaid ddim wedi gallu rhannu eu miwsig gyda'u ffans nhw, mae'r ffaith ein bod ni'n gallu cynnig tri llwyfan yn beth really positif a chyffrous.

"Oedden ni'n teimlo bod angen hwnna... i roi'r cyfle i'r bandiau i gyd [fethodd gyfle i chwarae nes eleni]."

Gyda Maes B wedi chwarae rhan gymdeithasol ym mywydau cymaint o bobl ifanc Cymru, meddai, roedd sicrhau bod modd iddyn nhw wneud hynny eto eleni yn hollbwysig.

"Mae'n rite of passage i fynd i Maes B," meddai Elan.

"Fi'n cofio mynd i un cynta' fi pan o'n i'n 16, a hwnna oedd profiad cynta' fi o fod mewn g诺yl ar ben fy hun gyda ffrindie.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Alys (dde) a'i ffrindiau o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth

"Mae'n drist i feddwl bod cymaint o bobl wedi colli'r cyfle cynta' yna pan o'n nhw'n 16.

"Felly mae 'di bod yn dasg o ailddangos Maes B i'r bobl ifanc yma, ailwerthu'r lle bron 芒 bod, achos bod gen ti ddim y bobl yn y blynyddoedd h欧n yn siarad amdano fe yng nghoridorau'r ysgol neu beth bynnag.

"Ond mae'r gwerthiant yn wych eleni, 'dyn ni mor hapus, a mor excited i agor y drysau."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Molly a Mari o Sir F么n wedi dod i Maes B am y tro cyntaf

Bydd artistiaid y prif lwyfan nos Wener i gyd yn fenywod, a phrosiect Merched yn Gwneud Miwsig wedi bod yn rhan fawr o wireddu hynny.

"Fi a'r t卯m yn teimlo'n wirioneddol angerddol dros roi cyfle a llwyfannau i fenywod," meddai Elan.

"Ac roedd e'n hawdd ffeindio artistiaid [i lenwi'r lein yp] achos mae cymaint o fenywod amazing yma yng Nghymru'n creu cerddoriaeth.

"Honestly, fi'n meddwl bydd e'n un o'r Maes Bs gorau sydd 'di bod ers sbel."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llyr, Owen a Morgan o Gaernarfon oedd y cyntaf yn y ciw i fynd fewn

Fe agorodd drysau Maes B toc wedi hanner dydd ddydd Mawrth, a'r rhai cyntaf yn y ciw oedd Llyr, Owen a Morgan o Gaernarfon.

"Dwi'n bach o veteran, felly trio dangos i'r rhai newydd 'ma be' 'di Maes B," meddai Llyr, sydd wedi bod dair gwaith o'r blaen.

Roedd Daniel a Molly wedi teithio i fyny o Gaerdydd, ac yn dod am y tro cyntaf.

"O'n i 'di gweld e pan oedd y 'Steddfod yng Nghaerdydd, ond o'n i rhy ifanc i fynd," meddai Molly.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Awen a Celyn o Gaerdydd ymhlith y cyntaf i gyrraedd Maes B

Roedd Awen a'i ffrind Celyn hefyd wedi teithio o'r brifddinas, a hynny ar 么l bwriadu mynd cyn i'r pandemig daro.

"Dwy flynedd yn 么l o'n i'n mynd i fynd, ond methu achos Covid. Felly ni'n edrych ymlaen," meddai Awen.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn ogystal 芒'r llwyfannau amrywiol mae pabell Lles yno hefyd, i bobl gael mynd am ychydig o saib neu gymorth os oes angen

Dyma fydd trydydd Maes B Alys o'r Bala, a'r tro yma mae hi yno gyda ffrindiau o'r brifysgol yn Aberystwyth.

"'Di disgwyl dipyn, ond edrych ymlaen - gobeithio fydd o mor dda a 'dan ni gyd 'di obeithio fydd o. Expecting big things yn fan 'ma!" meddai.

O Ben Ll欧n mae Cai a Twm wedi teithio - a Twm dan y camargraff fod yna ffair yno.

"Oes 'na reids yma?" gofynnodd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cai a Twm yn gyffrous i fod yma - er gwaethaf y diffyg reids ffair!

"Dwi'n edrych 'mlaen i weld S诺nami nos fory, a Cledrau ac Eden nos Wener. O'n i fod i fynd i Llanrwst, ond gaeth o'i ganslo 'cos o'r glaw."

Mae'r bandiau a'r gerddoriaeth yn atyniad mawr, wrth gwrs - ond beth arall mae'r gwersyllwyr yn edrych ymlaen ato?

"Yr yfed!" meddai Mari o Ynys M么n wrth gyrraedd gyda'i ffrind Molly.

"'Dan ni'n really excited, dyma'n tro cynta' ni yma."