大象传媒

Galw am wneud mwy i atal pobl rhag boddi yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Mark AllenFfynhonnell y llun, Leeanne Bartley
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Mark Allen mewn cronfa dd诺r yn ystod tywydd poeth yn 2018

Mae angen gwneud rhagor i atal pobl rhag boddi yng Nghymru, yn 么l gr诺p o wleidyddion.

Mae cyfradd y bobl sy'n boddi'n ddamweiniol fesul pen o'r boblogaeth yma yng Nghymru oddeutu dwbl y gyfradd ar gyfer y DU gyfan, medd ymgyrchwyr.

Mae'r Pwyllgor Deisebau yn y Senedd wedi bod yn ymchwilio i'r mater, ac mae nawr yn galw am arweinyddiaeth gliriach gan Lywodraeth Cymru.

Dywed y llywodraeth y byddan nhw'n ystyried argymhellion y pwyllgor.

'Gybod sut i'w wneud yn ddiogel'

Fe ddechreuodd y Pwyllgor Deisebau ymchwilio i'r maes ar 么l derbyn deiseb ag 11,000 o enwau arni yn gynharach eleni gafodd ei threfnu gan Leeanne Bartley o Ruthun, a gollodd ei mab Mark Allen wedi iddo foddi mewn cronfa dd诺r yn Lloegr yn 2018.

Ers hynny mae hi wedi bod yn ceisio codi ymwybyddiaeth o beryglon d诺r agored.

"Mae nofio mewn d诺r agored yn gallu bod yn dda," medd Leeanne, "ond mae angen i bobl wybod sut i wneud hynny'n ddiogel.

"Dwi ddim yn meddwl bod Mark yn gwybod. Dwi ddim yn meddwl am eiliad petai Mark yn gwybod bod ei fywyd yn mynd i ddod ben y diwrnod hwnnw, y byddai wedi neidio i mewn.

"Dwi'n gobeithio y bydd argymhellion y pwyllgor yn cael eu derbyn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddenodd deiseb Leeanne Bartley 11,000 o lofnodion, a hynny arweiniodd at y Pwyllgor Deisebau i ystyried y mater

Yn ystod y saith mis y bu'r pwyllgor yn ymchwilio, bu farw tri pherson ar 么l boddi yn nyfroedd Cymru, yn 么l yr aelodau.

Mae eu hadroddiad terfynol yn casglu bod mesurau atal boddi yn cael eu llesteirio gan ddiffyg gwaith cydlynu gan Lywodraeth Cymru.

Nid oes un adran benodol yn gyfrifol am y maes, ac mae'r adroddiad yn galw am i hynny newid.

'Angen mynd ymhellach'

Dywedodd Luke Fletcher AS, sy'n aelod o'r Pwyllgor Deisebau: "Mae 'na wahaniaeth rhwng sut mae Llywodraeth Cymru yn delio gyda mudiadau fel Diogelwch D诺r Cymru a sut mae Llywodraeth y DU yn delio gyda mudiadau tebyg.

"Mae 'na fwy o arian, er enghraifft, yn mynd tuag at fudiadau yn Lloegr i ddelio efo'r broblem yn fan yna.

"Mae'n iawn i ddweud bod Llywodraeth Cymru'n gweithio ar strategaeth.

"Mae'n glir i bawb - y mudiadau, y teuluoedd sydd wedi cael profiad o rywun yn boddi - bod angen i ni fynd ymhellach nawr."

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae'n glir i bawb... bod angen i ni fynd ymhellach nawr," meddai Luke Fletcher

Mae Diogelwch D诺r Cymru yn cynrychioli nifer o gyrff a mudiadau sy'n ceisio gwella diogelwch d诺r ac atal achosion o foddi.

Yn ddiweddar maen nhw wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Atal Boddi Cymru 2020-2026, gyda'r nod o leihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig 芒 d诺r yng Nghymru i sero.

'Tua 50 yn marw pob blwyddyn'

Dywedodd eu cadeirydd Chris Cousens tra'n rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Deisebau: "Mae tua 50 o bobl yn colli eu bywydau mewn marwolaethau sy'n gysylltiedig 芒 d诺r yng Nghymru bob blwyddyn.

"Mae'r gyfradd sy'n boddi'n ddamweiniol fesul pen o'r boblogaeth yma yng Nghymru oddeutu dwbl y gyfradd ar gyfer y DU gyfan.

"Mae nifer y marwolaethau damweiniol o ganlyniad i foddi, yn anffodus, hefyd yn uwch na nifer y marwolaethau mewn tanau, er enghraifft, damweiniau beiciau modur a seiclo - tri achos blaenllaw iawn arall o farwolaethau damweiniol."

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu'r adroddiad a byddwn yn ystyried yr argymhellion cyn ymateb yn llawn.

"Rydym yn llwyr gefnogi'r Strategaeth Atal Boddi a gwaith Diogelwch D诺r Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio'n agos i fynd i'r afael 芒'r materion sy'n cael eu codi."

Ffynhonnell y llun, Gerald England | Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Mark Allen yn y gronfa yma ger Parc Debdale ym Manceinion

Mae Sioned Thomas yn Swyddog Diogelwch D诺r gydag elusen yr RNLI ac yn rhoi'r cyngor yma i unrhyw un sy'n disgyn i dd诺r.

"Y peth mwyaf pwysig i wneud yw peidio panico, nofio ar y cefn ac aros yna nes bod rhywun yn dod i achub chi.

"Ni ddim eisiau stopio neb i fynd i mewn i'r d诺r.

"Yma yng Nghymru mae digonedd o lefydd i bobl fynd i'r d诺r yn ddiogel fel cronfeydd, afonydd, llynnoedd, m么r a does neb eisiau stopio pobl rhag mynd i mewn i'r d诺r.

"Ond falle chwilio am lefydd gydag aelodau o staff i roi cyngor neu draethau gyda swyddogion RNLI yn ystod gwyliau'r haf."