大象传媒

Gemau'r Gymanwlad: Aled Sion Davies yn sicrhau aur i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Aled Sion Davies: 'Dwi 'di ennill popeth'

Mae'r athletwr Aled Sion Davies wedi sicrhau pedwerydd medal aur Cymru o Gemau'r Gymanwlad.

Llwyddodd i ennill y cystadleuaeth taflu disgen F42-44/61-64 i ddynion gyda thafliad o 51.39m, gyda'i gyd-Gymro Harrison Walsh hefyd yn sicrhau'r fedal efydd.

Mae llwyddiant y ddau yn golygu fod Cymru bellach wedi ennill 17 medal, wedi i Joel Makin sicrhau arian yn y sboncen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llwyddodd Joel Makin i sicrhau pedwerydd medal arian Cymru o'r gemau

Collodd Makin yn y g锚m derfynol i Paul Coll o Seland Newydd yng nghystadleuaeth unigol y dynion.

Yn gynharach yn y dydd llwyddodd Natalie Powell hefyd i ennill arian yn y jiwdo wedi iddi gael ei threchu gan Emma Reid o Loegr yn rownd derfynol y categori -78kg.

Dyma'r eildro iddi ennill medal yn y gystadleuaeth yng Ngemau'r Gymanwlad, wedi iddi ennill yr aur wyth mlynedd yn 么l yn Glasgow.

Mae Cymru wedi ennill 17 medal yng ngemau Birmingham hyd yma - pedair medal aur, pedair arian a naw efydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma'r eildro i Natalie Powell ennill medal yng Ngemau'r Gymanwlad

Pynciau cysylltiedig