大象传媒

Gemau'r Gymanwlad 2022: Medal arian i Gymru yn y bowlio lawnt

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Julie ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu'n rhaid i Julie Thomas setlo am fedal arian ddydd Gwener

Mae Cymru wedi ennill medal arian yn y para-bowlio lawnt i barau cymysg B2/B3.

Fe gollodd Gordon Llewellyn a Julie Thomas yn y rownd derfynol i George Miller a Melanie Innes o'r Alban yn Birmingham.

Yn 75 oed, Miller ydy'r person hynaf erioed i ennill medal aur yn y Gemau Gymanwlad - er mai dim ond pum mis yn iau ydy'r Cymro Llewellyn.

Y Cymro Cymraeg o Ystradgynlais felly yw'r hynaf o Gymru i ennill medal yn y Gemau erioed.

Mae Cymru wedi ennill 19 medal yng ngemau Birmingham hyd yma - pedair medal aur, pump arian a 10 efydd.

Mae saith o fedalau pellach yn sicr o ddod i d卯m Cymru yn y bocsio a'r tenis bwrdd.

Ymhlith y bocswyr sydd yn si诺r o ennill medal o ryw fath mae'r efeilliaid 20 oed o Sir Benfro, Ioan a Garan Croft.

Yn y tenis bwrdd, mae Joshua Stacey wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth i ddynion, dosbarth 8-10, ac fe fydd yn herio Ma Lin o Awstralia ddydd Sul.

Disgrifiad,

Ioan a Garan Crofft o Grymych sy'n trafod cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham

Pynciau cysylltiedig