Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymchwiliad fewn i gyfarfod gweinidogion 芒 phennaeth g诺yl
Mae ymchwiliad wedi ei lansio wedi i weinidogion o lywodraeth Cymru fynychu "digwyddiad cymdeithasol" gyda phennaeth g诺yl gerddorol ym Mhowys.
Mae llywodraeth Cymru wedi bod yn destun craffu ar 么l gwario 拢4.25m ar fferm i gartrefu G诺yl y Dyn Gwyrdd.
Fis Mai bu i'r gweinidog newid hinsawdd Julie James a'r gweinidog addysg Jeremy Miles gwrdd 芒 phennaeth yr 诺yl.
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi gofyn am ymchwiliad i fewn i amgylchiadau'r cyfarfod.
Gwrthododd perchennog g诺yl y Dyn Gwyrdd, Fiona Stewart, wneud sylw. Mae Ms James a Mr Miles hefyd wedi'i cysylltu am sylw.
'Rhaid gosod esiampl'
Nid oedd angen i'r cyfarfod gael ei ddatgan gan y gweinidogion oherwydd bod y cyfarfod yn cael ei ystyried yn anffurfiol yn hytrach na ffurfiol, ond dywedodd y gwrthbleidiau ei fod yn codi pryderon am benderfyniad y gweinidogion i fwrw 'mlaen gyda'r cyfarfod.
Honnodd llefarydd Plaid Cymru ar amaethyddiaeth, Mabon ap Gwynfor, y gallai'r digwyddiad cymdeithasol dorri'r cod gweinidogol, sy'n datgan na ddylai gweinidogion dderbyn rhoddion neu letygarwch y gellid eu gweld fel cyfaddawdu eu barn, neu eu gosod o dan rwymedigaeth amhriodol.
Ychwanegodd Mr ap Gwynfor: "Cynhaliwyd y cinio cyfrinachol hwn ym mis Mai, gyda dau uwch Weinidogion y Llywodraeth, ac mae gan un ohonynt ddiddordeb uniongyrchol yn y prosiect, fis cyn i'r cwmni gyflwyno eu cynllun busnes i gyfiawnhau prynu'r fferm gan y Llywodraeth. Dylai hyn ganu clychau larwm, a chodi cwestiynau difrifol am farn y Gweinidogion dan sylw.
"Os yw'r adroddiadau hyn yn gywir, ni all fod yn iawn fod gan Weinidogion y Llywodraeth gyfarfodydd llechwraidd gyda phobl sydd 芒 buddiant breintiedig ar adeg mor dyngedfennol. Mae angen datgelu unrhyw nodiadau a gymerwyd yn y cyfarfod hwnnw yn llawn, a thryloywder llwyr ynghylch cynnwys y trafodaethau hynny.
"Bydd hyn yn effeithio ar hyder y cyhoedd yn y llywodraeth. Mae'n rhaid i Brif Weinidog Cymru dderbyn fod hyn yn doriad na fydd yn cael ei oddef, a gosod esiampl."
'Drewi i'r entrychion'
Mae g诺yl y Dyn Gwyrdd yn un o bum g诺yl annibynnol awyr agored mawr yn y DU.
Fis Mai fe ddaeth i'r amlwg fod llywodraeth Cymru wedi gwario 拢4.25m ar brynu Fferm Gilestone ym Mhowys, a dywedwyd y byddai hynny'n sicrhau y byddai gan yr 诺yl gartref parhaol yng Nghymru.
Mae'r 诺yl, sy'n eiddo i Fiona Stewart ac yn cael ei rhedeg ganddi, wedi bod ar ei safle presennol ger Crucywel ers 20 mlynedd, ac nid oes disgwyl iddi symud i'r safle newydd.
Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, fod y cytundeb fferm "yn drewi i'r entrychion" ac yn rhannu "holl nodweddion sgandal draddodiadol".
"Mae'r syniad bod y cyfarfod hwn yn un cymdeithasol yn ymestyn crediniaeth," meddai.
"Mae'n bryd i'r cyfrinachedd ddod i ben. Mae'n bryd i weinidogion Llafur ddod yn l芒n ac egluro beth maen nhw wedi'i wneud gyda 拢4.25m o arian trethdalwyr."
Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Tra bod gweinidogion wedi mynychu'r digwyddiad cymdeithasol hwn yn bersonol, mae'r prif weinidog wedi gofyn i'r ysgrifennydd parhaol ymchwilio i'r amgylchiadau sy'n ymwneud 芒'u presenoldeb.
"Mae'r prif weinidog hefyd wedi gofyn i'r ysgrifennydd parhaol ystyried a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i'r cod gweinidogol er mwyn sicrhau bod yr holl ryngweithio gyda lob茂wyr yn cael ei gofnodi'n briodol."