Medalau aur i Gymru ond siom i Geraint Thomas

Disgrifiad o'r fideo, Ioan Croft yn gwireddu 'breuddwyd' gyda medal aur

Mae Cymru wedi sicrhau rhagor o fedalau aur yng Ngemau'r Gymanwlad ond bu'n ddiwrnod siomedig i'r beiciwr Geraint Thomas.

Fe enillodd Ioan Croft o Grymych fedal aur yn y bocsio nos Sul yn rownd derfynol y categori pwysau welter 63.5-67kg.

Fe wnaeth y chwaraewr tennis bwrdd Joshua Stacey a'r focswraig Rosie Eccles sicrhau dwy fedal aur wrth i'r Gemau ddod i derfyn.

I Geraint Thomas, fe ddaeth y cyfan i ben am byth iddo wrth gyhoeddi na fydd yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad eto. Daeth ei sylwadau wedi iddo golli allan ar fedal yn y ras 160km.

Ffynhonnell y llun, 大象传媒 Sport

Disgrifiad o'r llun, Mae Ioan (chwith) wedi ennill medal aur a'i frawd Garan (ar y dde) wedi sicrhau medal efydd i Gymru

Fe gurodd Ioan Croft y bocsiwr o Zambia, Stephen Zimba, yn rownd derfynol y categori pwysau welter 63.5-67kg.

Cafodd ei frawd, Garan, lwyddiant ddydd Sadwrn pan enillodd fedal aur.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Joshua Stacey ac Rosie Eccles wedi sicrhau medalau aur i Gymru ar ddiwrnod olaf y gemau

Trechodd Stacey Lin Ma o Awstralia yn rownd derfynol dosbarth 8-10 y dynion.

Stacey, sy'n hannu o Gaerdydd, yw'r Cymro cyntaf erioed i fod yn bencampwr para tennis bwrdd.

Llwyddodd Eccles, sy'n 26 oed, hefyd i sicrhau'r aur yn dilyn buddugoliaeth dros Kaye Scott o Awstralia yn y categori 66kg-70kg.

Roedd yn berfformiad gwych gan Eccles, gan sicrhau'r fedal aur yn ail rownd yr ornest derfynol.

Hefyd yn y sgw芒r bocsio fe enillodd Taylor Bevan fedal arian wedi iddo golli yn erbyn Sean Lazzerini o'r Alban.

Ond roedd hi'n agos, gyda thynged medal aur y categori 75kg-80kg yn mynd i'r beirniaid er i'r Cymro ennill y rownd gyntaf.

Wythfed i Geraint Thomas

Ond roedd 'na siom i'r seiclwr Geraint Thomas, a oedd wedi gobeithio gwella ar y fedal efydd a enillodd yng Ngemau'r Gymanwlad ddechrau'r wythnos.

Ffynhonnell y llun, Alex Livesey/Getty

Disgrifiad o'r llun, Daeth Geraint Thomas yn agos at fuddugoliaeth ddramatig yn y ras feicio drwy ymosod gyda 1.7km i fynd, ond cafodd ei ddal gyda'r llinell derfyn mewn golwg

Roedd Thomas, ynghyd 芒'r Cymry eraill Luke Rowe, Owain Doull a William Roberts, yn cystadlu yn y ras 160km.

Er gwaethaf ymdrech ddewr am y llinell, wedi cael ei dal yn 么l gan garfan o seiclwyr o Loegr yn ystod y ras, wythfed yr orffennodd wrth i Aaron Gate o Seland Newydd gipio'r fedal aur.

Wedi'r ras cadarnhaodd Thomas, sy'n 36 oed, na fyddai'n cystadlu yn y Gemau'r Gymanwlad nesaf yn Awstralia.

"Efallai wna i wisgo [crys Cymru] o gwmpas Caerdydd, ond dwi ddim yn mynd i gyrraedd Gemau Gymanwlad arall," dywedodd.

"Mae'n braf gorffen, wel gorffen yn waglaw. Fe roddais i bopeth oedd gen i. Dw i'n falch iawn o wisgo'r crys hwn am y tro olaf."