大象传媒

Newid hinsawdd yn her i'r syniad o 'wlad wlyb, werdd'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae'r ffermwr Rhodri Davies yn disgwyl colli hanner y tatws oherwydd sychder eleni

Mae'r syniad bod Cymru yn "wlad wlyb, werdd" yn cael ei herio gan effeithiau newid hinsawdd ac mae angen mwy o weithredu er mwyn addasu i wres eithafol, yn 么l arbenigwr.

Mae'r Athro Andrew Flynn o Brifysgol Caerdydd yn dweud y gallai'r wlad wynebu cyfnodau cyson o dywydd poeth ac amodau hir sych, fel yr haf yma.

Mae ffermwyr wedi rhybuddio bod "storm berffaith" yn bosib wrth i gnydau wywo ar adeg costau cynhyrchu uchel, tra mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud eu bod yn monitro'r sefyllfa'n "agos iawn".

Daw hyn wrth iddyn nhw ystyried a ddylid datgan sychder swyddogol mewn rhai ardaloedd.

Effeithio ar gnydau

Yn ogystal 芒 gweld y tymheredd yn torri record, mae hi wedi bod yn un o'r blynyddoedd sychaf ers canrif yng Nghymru, gyda dim ond 61% o'r glaw cyfartalog o fis Mawrth i fis Gorffennaf.

Yn 么l Rhodri Davies, o fferm Rosedew ym Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg, mae'r tywydd sych wedi effeithio ar rhai o'i gnydau. Mae'n tyfu tatws ar 50 erw o'i dir.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Parc Pen y Clogwyn ym Mhenarth yn dangos arwyddion o sychder

Dywedodd ei fod yn disgwyl y bydd yn colli hanner y cyfanswm y byddai'n ei dderbyn mewn blynyddoedd blaenorol.

"Yn y deg mlynedd ddiwetha' ni wedi bod yn tyfu tato, fase' ni'n gweud hwn yw'r flwyddyn waetha' fi'n credu o ran cnwd y tato achos y tywydd sych," meddai.

"Beth sy'n digwydd - os nad ydyn nhw'n cael d诺r - mae maint y tato yn llai. Maen nhw i gyd yma, ni'n cael rhyw saith, wyth taten i bob planhigyn ond 'dyn ni ddim yn cael y tato mwyaf."

Cyfnod pryderus

Ar Fferm Clearwell ar gyrion Caerdydd mae hi wedi bod yn "gyfnod pryderus iawn" i David Phillips.

Wrth sefyll mewn cae o haidd dywedodd y dylai'r planhigion fod ymhell dros ei ganol ond maen nhw prin yn cyrraedd ei liniau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

David Phillips o Fferm Clearwell yn Llanfihangel-y-fedw

Ychwanegodd fod gwanwyn oer, sych wedi cael ei waethygu gan drafferthion cael gafael ar wrtaith oherwydd argyfwng Wcr谩in.

Mae Cymru yn mynd yn boethach, gyda chynnydd yn nifer yr oriau heulwen hefyd, yn 么l asesiad mawr o risgiau hinsawdd yn 2021.

Mae disgwyl i law yn yr haf ostwng tua 15% erbyn y 2050au a rhwng 18% a 26% erbyn y 2080au, gyda'r arbenigwyr yn rhybuddio y gallai cyfnodau o brinder d诺r fod yn llawer mwy cyffredin.

Mae'r Athro Andrew Flynn yn arbenigo mewn ffyrdd o addasu er mwyn delio 芒 newid hinsawdd, maes sydd yn draddodiadol wedi cael "llai o sylw" nag ymdrechion i dorri allyriadau, meddai.

"Ond gan ein bod yn dechrau gweld effaith newid hinsawdd yn ein cymunedau ry'n ni'n cydnabod bod angen gwneud llawer mwy i feddwl am sut rydyn ni'n addasu," meddai.

Ar hyn o bryd mae'n cyd-redeg prosiect gyda Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol gyda chymunedau yn y Rhyl ac Abertawe i geisio deall heriau'r dyfodol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr Athro Andrew Flynn: "Rydyn fel arfer yn meddwl amdanom ein hunain fel gwlad wlyb"

"Rydyn fel arfer yn meddwl amdanom ein hunain fel gwlad wlyb, werdd.

"Ond natur newid hinsawdd yw ei fod yn mynd i gynyddu amrywioldeb y ffyrdd yr ydym yn profi ein hamgylcheddau," meddai.

Mae'n edrych ar yr heriau o gadw cartrefi a mannau gwaith yn oer, gan sicrhau y gall systemau trafnidiaeth barhau i redeg yn ogystal 芒 rheoli d诺r.

'Monitro pob afon'

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n dweud ei bod yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa bresennol.

Dywedodd Catrin Hornung o'r corff bod Cymru'n swyddogol mewn cyflwr o "dywydd sych hir" a'i bod yn "anodd dweud" ar hyn o bryd a fyddai sefyllfa o sychder yn cael ei ddatgan mewn rhai ardaloedd.

"Mae gennym ni rhestr o fesuryddion rydyn ni'n eu dilyn fel llif afonydd, ansawdd d诺r ac effeithiau amgylcheddol ac rydyn ni'n monitro pob afon yn erbyn y dangosyddion hynny," esboniodd Catrin.

Ychwanegodd hefyd y dylai'r cyhoedd wrando ar gyngor cwmn茂au d诺r a bod yn gynnil wrth ddefnyddio d诺r.

Pynciau cysylltiedig