Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ceidwadwyr ifanc 'wedi eu hanghofio' yn y ras arweinyddol
- Awdur, Jacob Morris
- Swydd, Newyddion S4C
Mae rhai Ceidwadwyr ifanc yn teimlo eu bod wedi cael eu hanghofio yn ystod ymgyrch etholiadol Rishi Sunak a Liz Truss.
Fe ddywedodd un aelod Ceidwadol ifanc wrth raglen Newyddion S4C ei fod yn bwriadu difetha ei bapur pleidleisio i fynegi ei anfodlonrwydd, a dywed un arall ei fod am ymatal rhag pleidleisio.
Dydy Ethan Harvey, Ceidwadwr ifanc o'r Barri, "ddim yn si诺r" eto pwy fydd yn cael ei bleidlais ef, ond mae'n amheus a yw'r un o'r ddau yn cynnig newid gwirioneddol.
"Dwi ddim wedi clywed unrhyw beth o Liz Truss neu Rishi Sunak sydd really attracts me to vote for them - dydyn nhw ddim wedi dweud unrhyw beth," meddai.
"Dwi ddim yn cefnogi unrhyw un eto, dwi ddim yn gwybod pwy dwi eisiau rhoi croes yn erbyn."
'Mwy i helpu pobl ifanc'
Mae gan tua 160,000 o aelodau'r blaid tan 2 Medi i ddewis arweinydd nesaf y Blaid Geidwadol, a phrif weinidog nesaf y Deyrnas Unedig.
Ymhlith y rheiny mae tua 15,000 o Geidwadwyr ifanc, sef aelodau o dan 25 oed. Mae'r canlyniad i'w gyhoeddi ar 5 Medi.
Yn 么l Harrison Gould, 19, o'r Barri, Liz Truss sy'n mynd 芒'i bleidlais ond mae angen clywed mwy am flaenoriaethau pobl ifanc.
"Dwi'n cefnogi Truss gan ei bod hi'n more down to earth i bobl fel fi ac Ethan," meddai.
"Mae'n gwybod beth ni moyn, efallai mae 'na bits here and there alle hi wneud i gefnogi, helpu pobl ifanc.
"Dwi'n credu gallen nhw 'neud bach fwy o bolis茂au i gael Ceidwadwyr ifanc yn involved.
"Dylse fod fwy o help i bobl ifanc fel prynu tai - yn enwedig pobl yn uni, ma' nhw'n stryglo i weithio a chael addysg ar yr un pryd."
Yn 么l Jude D'Alesio, 21, o Gaerdydd, Rishi Sunak sy'n "uniaethu" fwyaf gyda tho ifanc y blaid.
"Cefais fy magu gan fam sengl, es i ysgol gyfun. Pan es i'r brifysgol ges i fwrsariaethau, ges i grant llawn gan y llywodraeth," meddai.
"Felly, dydw i ddim yn dod o gefndir fel Rishi Sunak ond dwi'n gallu dweud wrthych chi'n glir, dwi dal yn meddwl bod Rishi Sunak yn uniaethu gyda phroblemau mae pobl fel fi wedi delio gyda."
Ond mae'n rhybuddio y dylai'r ddau ymgeisydd wrando ar Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
"Cwpl o flynyddoedd yn 么l o'n i'n meddwl bydd Cymru byth yn gadael y Deyrnas Unedig," meddai.
"O'n i'n meddwl mai fringe issue oedd e. Dydw i ddim yn meddwl hynny nawr, dwi'n meddwl mae 'na deimlad sy'n tyfu o ymwahaniaeth."