Cairns yn gwneud tro pedol i gefnogi Truss fel arweinydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r AS Ceidwadol Alun Cairns wedi datgan ei fod bellach yn cefnogi Liz Truss yn hytrach na Rishi Sunak yn ras arweinyddol y blaid.
AS Bro Morgannwg yw'r cyntaf o blith ASau Ceidwadol Cymru i wneud cyhoeddiad o'r fath, ond mae'r Ysgrifennydd Cymru presennol, Robert Buckland eisoes wedi gwneud tro pedol tebyg.
Dywedodd Mr Cairns, fu'n Ysgrifennydd Cymru rhwng 2016 a 2019, mai'r bygythiad i "undeb" y Deyrnas Unedig oedd y rheswm dros newid ei feddwl.
Bydd enillydd yr ornest i arwain y blaid Geidwadol, a dod yn Brif Weinidog y DU, yn cael ei gyhoeddi ar 5 Medi.
'Gwarchod yr undeb'
Mr Sunak enillodd pob rownd o bleidleisio ymhlith ASau Ceidwadol i sicrhau lle fel un o'r ddau ymgeisydd terfynol, ond ers hynny mae polau wedi awgrymu bod Ms Truss ar y blaen o ran cefnogaeth ymhlith aelodau'r blaid.
Mae'r ddau ymgeisydd yn teithio o amgylch y DU ar hyn o bryd mewn cyfres o hystings - digwyddiadau lle maen nhw'n ateb cwestiynau ac yn rhannu eu cynigion ag aelodau.
Bydd eu digwyddiad nesaf nhw ddydd Mawrth yn Perth, Yr Alban, cyn iddyn nhw deithio i Belfast yng Ngogledd Iwerddon ddydd Mercher.
Dywedodd Mr Cairns ei fod wedi trafod dyfodol y Deyrnas Unedig gyda Mr Sunak ar ddechrau'r ymgyrch a'i fod yn "hapus gyda'i ymatebion".
"Fe ddewisais i ei gefnogi," meddai Mr Cairns wrth ysgrifennu yn The Mail+.
"Fodd bynnag, wrth i'r ymgyrch ddatblygu, mae'r risg i'r Undeb wedi dod yn fwyfwy amlwg. Mae angen torri'n rhydd o'r meddylfryd presennol. Mae dyfodol yr Undeb yn dibynnu ar hyn.
"Am y rheswm yma, rwyf wedi dod i'r casgliad - gyda'i huchelgais bositif dros ein gwlad a'r dychymyg sydd ganddi, yn ogystal 芒'i record o ddiwygio - mai Liz Truss sydd yn y lle gorau i sicrhau ein Undeb."
Ychwanegodd ei fod hefyd yn teimlo bod Ms Truss wedi "creu argraff" wrth ddiwygio adrannau llywodraeth yn Whitehall, ac y byddai mwy o hynny'n "gwella canlyniadau ym mhob cenedl" o'r DU.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2022
- Cyhoeddwyd4 Awst 2022