Wrecsam: Reynolds a McElhenney'n rhoi 拢20,000 i ferch 芒 thiwmor

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Mae Aria, 4, yn byw gyda thiwmor ar ei hymenydd

Mae mam merch fach sy'n byw 芒 thiwmor ar yr ymenydd yn dweud bod rhodd o 拢20,000 gan s锚r Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn "anhygoel".

Dywedodd Melanie Hodgkiss a'i g诺r Carl, o Wrecsam, bod yn rhaid talu am feddyginiaeth amgen i'w merch, Aria, sy'n bedair oed.

Cafodd eu tudalen GoFundMe dipyn o hwb ar 么l dwy rodd gan berchnogion CPD Wrecsam dros y penwythnos.

Dywedodd Melanie ei bod "mewn sioc lwyr" a'i bod wedi "crio dagrau o lawenydd".

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Rob McElhenney a Ryan Reynolds - y s锚r Hollywood - sy'n berchen ar Glwb P锚l-droed Wrecsam

"Dw i ddim yn berson Twitter a dw i ond yn arfer rhoi ambell beth yno am Aria," dywedodd Melanie.

"Fe wnes i roi llun ohoni ar Twitter yn ei chrys Wrecsam a'u tagio nhw - ac yna welais i tweet gan Rob yn dweud 'Aria, rwyt ti'n edrych yn brydferth!'

"Do'n i'n methu credu ei fod wedi rhoi arian - mae'n anhygoel."

'Dagrau o lawenydd'

Yna, fe sylweddolodd Melanie bod Ryan Reynolds hefyd wedi rhoi 拢10,000.

"Dw i mewn sioc lwyr - dyw meddyginiaeth Aria ddim yn rhad," ychwanegodd Melanie.

"Ro'n i yn fy nagrau - dagrau o lawenydd.

"Ry'n ni'n byw mewn cymuned fechan a dim ond fy ng诺r sy'n gweithio."

Dywedodd Melanie bod Aria'n "teimlo'n enwog".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Mae meddyginiaeth Arian gallu costio rhwng 拢2,000 a 拢3,000 y mis yn 么l ei mam, Melanie

Mae meddyginiaeth Aria - ONC201 - yn cael ei hanfon o'r Almaen ac mae'n gallu costio rhwng 拢2,000 a 拢3,000 y mis.

"Ry'n ni'n siarad ag oncolegydd preifat yn yr Almaen ac yn trafod meddyginiaeth yn gyson - ry'n ni'n talu'r cwmni fferyllol ac yn gorfod talu am dollau.

"Mae'r GIG yn credu mai dim ond radiotherapi sy'n mynd i gadw'r tiwmor i leihau," ychwanegodd.

"Mae'n ganser ofnadwy - does neb yn gwybod beth ddaw 'fory.

"Cyhyd 芒 bod Aria'n deffro yfory'n gwenu - ar hyn o bryd mae hi wedi colli ei gallu i gerdded a defnyddio'i hochr chwith.

"Hi yw fe mhlentyn ac mae'n rhaid i ni drio popeth allwn ni drosti."