Croesawu help i deuluoedd sy'n colli plant yn sydyn
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd rhieni sy'n colli plentyn neu berson ifanc hyd at 25 oed yn sydyn yn cael cynnig cymorth o fewn 48 awr o hyn ymlaen.
Mae galw wedi bod ar i'r llywodraeth sefydlu gwasanaeth o'r fath ers 2019.
Yn 2021 roedd yna alw pellach wedi i'r Alban ariannu cynllun peilot a oedd yn rhoi cefnogaeth am ddwy flynedd i deuluoedd plant sy'n marw drwy hunanladdiad.
"Mae'n newyddion hynod o dda - yn rhy hwyr i ni wrth gwrs - ond rwy'n falch y bydd y gwasanaeth ar gael i eraill," meddai Rhian Lewis wrth siarad 芒 大象传媒 Cymru Fyw.
Gwasanaeth i 'newid bywydau'
Bu farw mab Rhian, Kieran Rhys Lewis Mattick, 21, yn annisgwyl yn Aberystwyth ar 17 Ionawr 2021.
"Dwi wedi bod yn hynod o ffodus o gymorth elusen 2 Wish Upon a Star, ond yn teimlo y dylai cymorth arbenigol fod wedi bod ar gael yn syth," meddai.
"Mae'r oriau, y diwrnodau a'r misoedd cyntaf 'na yn ofnadwy, ac mae rhywun angen pob cymorth sydd ar gael."
Yn 2019 cafodd deiseb 芒 5,682 o lofnodion ei chyflwyno i'r Senedd yn gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod teuluoedd sy'n colli plant yn annisgwyl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Rhian Mannings, sefydlydd elusen 2 Wish Upon a Star, oedd wrth wraidd y ddeiseb ac wedi trafodaeth arni yn y Senedd yn Nhachwedd 2021 fe gyhoeddodd y llywodraeth Fframwaith Profedigaeth Cenedlaethol.
Ym mis Chwefror 2012 bu farw mab Ms Mannings, George, mewn uned frys ac o fewn dyddiau bu farw ei g诺r drwy hunanladdiad.
"Ers 2012, rwyf wedi bod yn benderfynol o sicrhau bod teuluoedd yn cael yr un cymorth wrth ffarwelio 芒'u plant ag a g芒nt pan fyddant yn cael eu croesawu i'r byd adeg eu genedigaeth," meddai Ms Mannings.
Fe sefydlodd hi'r elusen yn 2015, ac mae'r cymorth mae'n yn ei roi yn cynnwys creu blychau atgofion, cwnsela a sefydlu llwybr cymorth ar y cyd 芒 byrddau iechyd a heddluoedd.
Mae'r elusen wedi helpu cannoedd o deuluoedd ond roedd Rhian Mannings yn poeni nad oedd pob teulu'n cael eu cyfeirio atynt, ac roedd hi'n teimlo y dylai Llywodraeth Cymru gynnig cymorth mwy ffurfiol.
"Rydyn ni'n gwybod, wrth siarad 芒 staff a theuluoedd, fod ein gwasanaeth yn newid bywydau'r rhai sydd wedi colli plentyn neu berson ifanc yn annisgwyl, ac rydym am i Lywodraeth Cymru wneud yn si诺r bod cymorth ar gael i bob teulu pan fydd ei angen fwyaf," ychwanegodd.
Yn sgil cynlluniau sydd wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru bydd person sydd wedi colli plentyn hyd at 25 oed yn sydyn yn cael galwad ff么n o fewn 48 awr, yna bydd rhywun yn galw yn y cartref ac wedi hynny bydd gwasanaeth cwnsela yn cael ei gynnig.
'Cymorth yn hanfodol'
Un arall sy'n gwerthfawrogi'r newyddion yw Nadine Marshall - mam Conner Marshall, a gafodd ei lofruddio yn 2015.
"Mae cael cefnogaeth mor bwysig pan mae rhywun yn colli plentyn yn sydyn," meddai wrth siarad 芒 大象传媒 Cymru Fyw.
"Ry'n ni wedi cael cefnogaeth y tu hwnt i bob disgwyliad gan 2 Wish - maen nhw wedi trefnu therapi amgen, cwnsela a chyfeillgarwch ond mae'n bwysig bod y cymorth yma ar gael i bawb ac yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru.
"Fe gawson ni gymorth swyddogion arbenigol yr heddlu hefyd - ond roedden ni angen mwy na hynny.
"Fi'n really falch y bydd y cymorth nawr ar gael i bawb sy'n colli plant yn sydyn - mae wedi cymryd amser ond mae cymorth o'r fath yn hanfodol i bobl mewn amgylchiadau mor anodd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ers i'r Fframwaith Profedigaeth Cenedlaethol gael ei gyhoeddi ddiwedd 2021, mae'r Gr诺p Llywio Cenedlaethol ar gyfer Profedigaeth, sy'n dod 芒'r GIG a nifer o elusennau a sefydliadau'r trydydd sector ynghyd, wedi bod yn datblygu llwybrau pwrpasol newydd.
"Bydd y llwybrau yn darparu gwybodaeth a chanllawiau i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i sicrhau dull gweithredu cyson i deuluoedd sy'n cael profedigaeth yng Nghymru."
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle: "Mae profedigaeth yn effeithio arnom ni i gyd mewn ffyrdd gwahanol, ac rydw i wedi ymrwymo i sicrhau bod cymorth a gofal ar gael i bawb ledled Cymru.
"Gan weithio'n agos gyda'r Gr诺p Llywio Profedigaeth, rydyn ni'n gwneud gwelliannau i ofal profedigaeth, ac hynny'n gyflym.
"Rydyn ni am i fyrddau iechyd edrych ar y llwybrau enghreifftiol hyn, ac wrth weithio gydag asiantaethau partner, eu haddasu i anghenion eu cymunedau lleol.
"Mae 2Wish ac elusennau eraill ar draws Cymru yn darparu gwasanaethau hanfodol, ac wrth weithio gyda'n gilydd, gallwn gefnogi pobl drwy eu galar."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd30 Medi 2021