大象传媒

Dyn Gwyrdd: Pennaeth 'wedi synnu' 芒'r ymateb i bryniant fferm

  • Cyhoeddwyd
Green ManFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r 诺yl yn cael ei chynnal ym Mannau Brycheiniog

Mae pennaeth G诺yl y Dyn Gwyrdd yn dweud ei bod wedi ei "synnu" gan rywfaint o'r ymateb wedi i Lywodraeth Cymru wario 拢4.25m ar fferm i'r 诺yl.

Aeth Fiona Stewart ymlaen i ddweud mai digwyddiad cymdeithasol yn unig oedd cyfarfod 芒 dau weinidog yng nghartref lob茂wr gwleidyddol.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles - un o'r gweinidogion a fynychodd y cyfarfod cymdeithasol - nad oedd yn credu bod y digwyddiad hwnnw wedi bod yn "gamgymeriad".

Mae cwestiynau wedi codi ynghylch tryloywder pryniant Fferm Gilestone ers i'r w欧l ond gyflwyno cynllun busnes llawn ar gyfer y safle ym mis Mehefin - ar 么l y pryniant.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod am "sicrhau bod yr 诺yl yn parhau i gael cartref parhaol yng Nghymru".

'Syniad llwyddiannus'

Mae disgwyl 25,000 o bobl ar Stad Glan Wysg yng Nghrughywel y penwythnos yma wrth i'r 诺yl flynyddol gael ei chynnal unwaith eto.

Yn 么l y trefnwyr mae'r 诺yl yn cynhyrchu 拢15m i economi Cymru, ac eleni bydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Doeddwn i ddim yn deall yn iawn y byddai ymateb o'r fath," medd Fiona Stewart

Dywedodd Fiona Stewart eu bod wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ers blynyddoedd lawer.

"Mae'n syniad llwyddiannus y mae llawer o bobl, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, eisiau manteisio arno," meddai.

"Ond hefyd mae'r ffordd rydyn ni'n gwneud hynny - rydyn ni'n gwrthod nawdd er mwyn gallu hyrwyddo cwrw Cymreig er enghraifft - yn rhywbeth maen nhw'n ei hoffi'n fawr."

Dywedodd Ms Stewart, er ei bod yn derbyn y byddai cwestiynau am y cytundeb, nad oedd wedi rhagweld yr ymateb.

"Rwy'n synnu - rhai o'r pethau sydd wedi cael eu dweud. Doeddwn i ddim yn deall yn iawn y byddai ymateb o'r fath, yn enwedig oherwydd ein bod wedi bod o gwmpas ers peth amser.

"Rydym wedi bod ym Mhowys ers 20 mlynedd ac mae cryn dipyn o gefnogaeth boblogaidd i'r digwyddiad yma."

Pan ofynnwyd iddi pam na gafodd cynllun busnes llawn ei gyflwyno cyn prynu'r fferm, dywedodd Ms Stewart: "Roedd dogfen weledigaeth helaeth [wedi'i chyflwyno] a oedd yn enfawr, felly yn portreadu llawer o'r targedau a'r hyn yr hoffem ei wneud a sut roedden ni'n mynd i wneud pethau."

'Cyfarfod fel ffrindiau'

Mae cwestiynau wedi codi hefyd am ddigwyddiad cymdeithasol a fynychwyd gan Fiona Stewart yng nghartref lob茂wr gwleidyddol blaenllaw, ynghyd 芒'r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James a'r Gweinidog Addysg Jeremy Miles.

Fe wnaeth ymchwiliad a gafodd ei orchymyn gan y prif weinidog ganfod nad oedd unrhyw reolau gweinidogol wedi'u torri.

Ffynhonnell y llun, G诺yl y Dyn Gwyrdd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae G诺yl y Dyn Gwyrdd yn cyfrannu 拢15m i economi Cymru bob blwyddyn, meddai'r trefnwyr

Ond oherwydd y "risg o wrthdaro canfyddedig", mae Mark Drakeford wedi penderfynu na fydd y ddau weinidog yn rhan o unrhyw benderfyniadau yn ymwneud 芒 Fferm Gilestone yn y dyfodol.

Bydd gweinidogion hefyd yn cael canllawiau newydd ar gysylltiadau personol 芒 lob茂wyr.

Dywedodd Ms Stewart fod y gr诺p yn cyfarfod fel ffrindiau: "Roedden ni yno'n gymdeithasol a dim ond yn siarad am faterion cymdeithasol yr oedden ni. Dyna ni."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jeremy Miles oedd un o'r gweinidogion i fynychu'r 'digwyddiad cymdeithasol'

Dywedodd Jeremy Miles hefyd ei fod yn "achlysur cymdeithasol ac ni chafodd unrhyw fusnes gweinidogol ei drafod".

Ychwanegodd: "Yn amlwg, ni fyddwn i'n disgwyl fel gweinidog addysg i gael unrhyw r么l yn y broses o wneud penderfyniadau ynghylch fferm beth bynnag, ond petai hynny'n codi yn y dyfodol, yna fel y byddwch wedi gweld o ddatganiad y prif weinidog, ni fyddwn i na'r gweinidog newid hinsawdd yn cymryd rhan ynddo."

Pan ofynnwyd iddo a oedd y digwyddiad cymdeithasol yn gamgymeriad, atebodd Mr Miles nad oedd yn credu hynny.

"Rwy'n meddwl ei fod wedi bod yn iawn. Mae wedi bod yn amlwg ei fod yn achlysur cymdeithasol ymhlith pobl oedd yn adnabod ei gilydd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y dorf yn mwynhau'r w欧l yn 2021

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi prynu'r safle "i gefnogi twf G诺yl y Dyn Gwyrdd".

"Mae'r Dyn Gwyrdd yn un o bum g诺yl annibynnol fawr sy'n dal i redeg yn y DU, ac yn ddigwyddiad blynyddol sy'n gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru.

"Rydym eisiau rhannu cyfraniad cadarnhaol ychwanegol yr 诺yl i fusnesau lleol, y gymuned ac economi Cymru, a sicrhau bod yr 诺yl yn parhau i fod 芒 chartref parhaol yng Nghymru."

Ychwanegodd eu bod wedi derbyn cynllun busnes llawn, a bod hwnnw'n destun craffu manwl ac ymgynghori 芒'r gymuned leol.

"Ni fydd unrhyw benderfyniad terfynol ar ddyfodol Fferm Gilestone yn cael ei wneud nes bod y broses wedi'i chwblhau," meddai.