Nantlle'n nodi 32 mlynedd ers 'Brwydr Fawr Maes Dulyn'

Disgrifiad o'r fideo, A wnaethoch chi wylio 'Brwydr Fawr Maes Dulyn' ym 1990?
  • Awdur, Gareth Wyn Williams
  • Swydd, ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw

Yng Ngwanwyn 1990 fe gynhaliwyd gêm bêl-droed mor gofiadwy fe ysbrydolodd gân gan un o artistiaid blaenllaw Cymru.

Ond 32 mlynedd ers chwarae 'Brwydr Fawr Maes Dulyn' - fel yr adnabyddir yng nghân Sobin a'r Smaeliaid - mae cymuned Penygroes yn gobeithio ail-greu'r bwrlwm.

Gyda Nantlle yn cynnal Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn honno, denwyd un o'r torfeydd mwyaf erioed i Faes Dulyn wrth i sêr y sgrin fach herio'i gilydd o flaen ymhell dros 3,000.

Tîm Bryncoch aeth â hi drwy drechu pentrefwyr Cwmderi, wrth i sêr C'mon Midffîld a Phobol y Cwm sicrhau gêm fythgofiadwy gyda Wali Tomos - y diweddar Mei Jones - yn serennu.

Bwriad Nantlle Vale yw nodi'r gêm enwog honno wrth groesawu rhai o wynebau cyfarwydd heddiw i Faes Dulyn, a hefyd dathlu canmlwyddiant y clwb.

Yr ymgais fydd hel arian tuag at gynnal Eisteddfod Genedlaethol flwyddyn nesaf yn LlÅ·n ac Eifionydd.

Edrych ymlaen yn lleol

Gyda disgwyl torf fawr arall i'r gêm ddydd Llun, rhai o gyn-chwaraewyr Nantlle Vale fydd yn wynebu tîm o sêr Cymru - gan gynnwys ambell un o wynebau cyfarwydd Bryncoch a Chwmderi.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Mae disgwyl mawr wedi bod am yr olynydd, sef 'Brwydr Fawr Maes Dulyn 2', gyda channoedd o docynnau eisoes wedi eu gwerthu.

Dywedodd Neil Perkins, sydd wedi chwarae a helpu hyfforddi'r clwb ac sy'n rhan o drefnu'r digwyddiad, bod brwdfrydedd mawr yng nghymuned Dyffryn Nantlle wrth edrych ymlaen i'r gêm.

"Mae Bryn Fôn a Dewi Rhys, oedd yn chwarae 'Breian Fawr', wedi cytuno i ddod felly mi fydd rhai wynebau o'r gêm wreiddiol yna ar y diwrnod.

"Yn anffodus mae Mei Jones a rhai arall wedi'n gadael erbyn hyn, ond mae'r gêm yna'n 1990 yn dal yn cael ei siarad amdan yn y pentref hyd heddiw.

"Mae gynnon ni ddipyn o hogia' o Pobol y Cwm a Rownd a Rownd, Yws Gwynedd a Osian o'r Candelas wedi cytuno i gymryd rhan a fydd yn chwara'n erbyn lot o hen hogia Nantlle Vale, sy'n amrywio mewn oed o 35 i 60.

Disgrifiad o'r fideo, Adroddiad rhaglen Heddiw o Benygroes yn 1968 yn gofyn os mai tîm caled neu fudur oedd Nantlle Vale

"Mi oedd canmlwyddiant y clwb ddwy flynedd yn ôl ond oherwydd Covid doeddan ni methu ei ddathlu adeg honno, felly oeddan ni'n gweld hyn yn gyfle da i gyfuno bob dim a hel pres i'r Eisteddfod Genedlaethol hefyd.

"Mae 'na lot o bobl yn sôn am y gêm, ac mae gwerthiant y tocynnau yn mynd yn dda iawn hefyd. Ti wastad yn poeni os ydy pethau am droi allan yn dda ond 'dan ni wedi'n synnu i'r ochr orau."

Atgofion 1990

Roedd Alun Ffred Jones yn rhan annatod o drefniant y gêm wreiddiol yn ogystal â'i olynydd.

Yn edrych yn ôl ar yr achlysur honno yn 1990 dywedodd ar raglen Aled Hughes ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru: "Oeddan ni'n disgwyl 'chydig o gannoedd i droi i fyny gobeithio, ond pan gerddais draw o Lanllyfni oedd 'na geir wedi parcio ymhob twll a chornel.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Alun Ffred Jones yn rhan o'r criw drefnodd y gêm yn 1990 rhwng timau C'mon Midffîld a Phobol y Cwm

"Roedd y cae yn orlawn a chafwyd gêm gofiadwy, ella fod y rhan fwya' yn cofio i Mei Jones, neu Wali Tomos, ddod ar y cae a llwyddodd i sgorio'r gôl fuddugol ar ôl taro'r bar ddwywaith a methu cic o'r smotyn hefyd.

"Roedd hi'n achlysur mawr a hwyliog a wnaeth y ddau dîm chwarae'i rhan yn ardderchog, roedd hi'n ddiwrnod mawr yn hanes y clwb.

"Ond mae 'na gannoedd o docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer y gêm dydd Llun nesa', felly 'dan ni'n edrych ymlaen yn fawr i groesawu pobl yna i ddathlu.

"Mae clwb Nantlle Vale yn enwocach yn be' ydy o na be' mae o wedi ennill dros y blynyddoedd!

"Mae'n debyg fod llawer iawn o'r aura yn deillio o gyfnod El Bandito, Orig Williams yn reolwr y clwb yn y 60au, pan doedd ddim yn enwog am ennill gwobrau ond yn hytrach am be' oedd yn digwydd oddi ar y cae a'r chwarae caled ar y cae!

Disgrifiad o'r llun, Bydd Maes Dulyn - neu 'Cae Fêl' - yn cynnal gêm fawr arall ar Awst 29

"Fydd tîm y sêr yn cael ei reoli gan neb llai na Bryn Fôn, oedd yn ran o dîm 1990, a bydd Maldwyn John yna hefyd, ond mae 'na ddigon o sêr newydd.

"Bydd hi'n achlysur hwyliog gobeithio ac yn gyfle i ddathlu pêl-droed yn y dyffryn. Mi fydd 'na le tro yma i barcio hefyd gobeithio!"

Bydd cic gyntaf y gêm rhwng timau 'Lejands Nantlle Vale' a 'Sêr Cymru' am 14:00 dydd Llun, 29 Awst ar Faes Dulyn, Penygroes.