Rheithgor achos Ryan Giggs yn ystyried dyfarniad
- Cyhoeddwyd
Bydd y rheithgor yn achos llys cyn-chwaraewr Manchester United a Chymru, Ryan Giggs yn parhau i ystyried eu dyfarniad ddydd Iau.
Mae cyn-reolwr t卯m p锚l-droed Cymru yn gwadu rheoli Kate Greville, 38, drwy orfodaeth, ac o ymosod arni hi a'i chwaer, Emma, 26.
Wedi 12 diwrnod o glywed tystiolaeth yn Llys y Goron Manceinion, fe ddechreuodd y rheithgor ystyried eu dyfarniad brynhawn Mawrth cyn ailddechrau fore Mercher.
Wrth eu hanfon allan, dywedodd y Barnwr, Hilary Manley, nad oedd Mr Giggs, 48, ar brawf am ei anffyddlondeb.
Ddydd Llun dywedodd Peter Wright QC, ar ran yr erlyniad, fod negeseuon a yrrwyd gan Mr Giggs at Ms Greville yn dangos "camdriniaeth emosiynol a chorfforol" a bod "dau fersiwn gwahanol iawn o Ryan Giggs".
Ychwanegodd fod Mr Giggs yn "credu y gallai wneud beth bynnag yr oedd eisiau" i Ms Greville ac na allai gael ei gosbi.
Ond yn ei araith ef i'r llys dywedodd Chris Daw QC, ar ran yr amddiffyniad, fod "dim tystiolaeth" fod Mr Giggs wedi "rheoli unrhyw ran" o fywyd ei gyn-gariad.
Nid oedd anafiadau'r ddwy chwaer, meddai, yn cyd-fynd 芒'r ffordd y maen nhw'n honni y digwyddodd yr ymosodiad.
Apeliodd hefyd ar y rheithgor i ystyried "cymeriad da" Mr Giggs, a'r ffaith nad oedd erioed wedi bod mewn trwbl gyda'r heddlu o'r blaen.
Ddydd Mawrth gofynnodd y barnwr i'r rheithgor ystyried a oedd yn achos, fel y mae'r amddiffyniad wedi awgrymu, o "berthynas gyda hwyliau da a drwg..." a "ddisgynnodd oddi ar y cledrau" oherwydd anallu Ms Greville i dderbyn "mercheta'r" diffynnydd.
Aeth y barnwr ymlaen i ofyn i'r rheithgor ystyried a oedd, fel dywed yr erlyniad, yn "fwy sinistr", ac a wnaeth Mr Giggs "ddal grym" dros Kate Greville ac "ymosod arni hi a'i chwaer yn y pen draw".
Mae Mr Giggs yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2022
- Cyhoeddwyd19 Awst 2022
- Cyhoeddwyd18 Awst 2022