大象传媒

Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 5-0 Maidstone

  • Cyhoeddwyd
Paul Mullin yn dathlu sgorio yn o'i goliau brynhawn SadwrnFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Paul Mullin sawl cyfle i sgorio llawer mwy na dim ond hat-tric yn erbyn Maidstone

Roedd yna wledd o goliau, gan gynnwys hat-tric i Paul Mullin i wefreiddio'r perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney oedd ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn i weld Wrecsam yn rhoi crasfa i Maidstone yn y Gynghrair Genedlaethol.

5-0 oedd y sg么r terfynol wrth i Wrecsam sicrhau eu hail fuddugoliaeth o'r tymor - y tro cyntaf i McElhenney weld y t卯m yn ennill gyda'i lygaid ei hun yn hytrach nag ar sgrin.

Roedd hi'n 3-0 erbyn diwedd yr hanner cyntaf wedi goliau gan Paul Mullin (9), Jordan Davies (39), a g么l oddi ar un o amddiffynwyr Maidstone, Dominic Odusanya (45+3).

Ond fe allai Wrecsam fod wedi gallu sgorio o leiaf tair yn fwy, ac fe fethodd Mullin gyfleoedd gwell na'r un a ddiweddodd yng nghefn y rhwyd.

Ond fe sgoriodd Mullin am yr eildro wedi'r egwyl - o'r smotyn ( 64) wedi achos o lawio yn y cwrt cosbi - ac yna'r drydedd wedi 82 o funudau.

Mae'r triphwynt yn golygu bod Wrecsam wedi codi i'r pumed safle, ar drothwy lansiad y gyfres ddogfen Welcome to Wrexham sy'n olrhain penderfyniad y ddau actor i brynu'r clwb.