大象传媒

Coetir llai yn Llangadog i gofio'r rhai fu farw o Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Brownhill
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd yna bryder y byddai fferm Brownhill yn cael ei gorchuddio gan 60,000 o goed ifanc

Mae'r Gynghrair Cefn Gwlad wedi croesawu penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i dorri'n 么l ar gynlluniau i blannu coetir er cof am bobl sydd wedi marw o Covid ar dir ffarm cynhyrchiol yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd yna bryder y byddai fferm Brownhill yn cael ei gorchuddio gan 60,000 o goed ifanc ar 么l i Gyfoeth Naturiol Cymru brynu 94 hectar o dir ar gyrion pentref Llangadog.

Yn dilyn ymgyrch leol, fe gytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James i gwrdd 芒'r Gynghrair Cefn Gwlad ar y fferm ar gyrion Llangadog.

Yn 么l y Gynghrair Cefn Gwlad, fe gytunodd y llywodraeth y dylai unrhyw ddatblygiad ar y safle roi sylw i ddyfodol aderyn prin y gylfinir a'r angen i gyfuno creu coetir a ffermio yn y dyffryn.

Fe fydd 21 hectar felly yn cael ei neilltuo fel tir pori, a rhan o dir oedd yn mynd i fod yn goetir yn cael ei eithrio o'r cynllun.

Bydd yna goedlan goffa arall yn cael ei chreu yn Wrecsam ar ran o stad Erddig, sef safle Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Stad Erddig fydd safle un o'r coedlannau coffa

Mae Cyfarwyddwr y Gynghrair Cefn Gwlad yng Nghymru, Rachel Evans, wedi croesawu'r penderfyniad yn dilyn trafodaethau gyda'r Gweinidog Julie James.

"Pan gyrhaeddodd hi roedd hi'n amlwg yn gefnogol i'r goedwig er cof am y rhai sydd wedi marw o Covid," meddai.

"Ond pan gyrhaeddon ni yr ail bishyn o ddaear, roedd hi'n amlwg bod y Gweinidog wedi sylwi mai tir amaethyddol da sydd gyda ni fan hyn ac roedd hi'n cytuno dylsen ni fynd ati i fagu cig oen Cymraeg a chig eidion yma yn Brownhill."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cyfarwyddwr y Gynghrair Cefn Gwlad yng Nghymru, Rachel Evans, wedi croesawu'r penderfyniad

"Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi newid eu meddwl ar 么l ymgyrch Cynghrair Cefn Gwlad, a gofyn i bobl leol ymuno gyda ni.

"Mae'n rhywbeth i ddathlu i'r gymuned a phawb sydd wedi ymateb i'r ymgyrch. Mae'n llwyddiant mawr."

Lle poblog yn fwy addas

Roedd yna groeso mwy gofalus gan NFU Cymru i'r newyddion. Yn 么l Hefin Jones, Is-Gadeirydd NFU Cymru yn Sir Gaerfyrddin, mae yna gwestiynau o hyd am leoliad y coetir.

"Mae'n gwbl addas bod yna gofeb i bobl a gollwyd yn sgil Covid," meddai.

"Yr hyn ni'n gofyn yw pam nad yw'r llywodraeth yn edrych ar gyfleoedd sydd yn nes at fannau poblog er mwyn i bobl fyfyrio.

"Dyw Llangadog ddim yn agos at unrhyw fan poblog. Mae sicrwydd bwyd hefyd yn gwestiwn real. Mae yna gyni. Pam ddim plannu y coed yma yn nes at fannau poblog?"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y coedlannau'n cynnig lle i deuluoedd gofio am eu hanwyliaid

Mewn datganiad, dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd: "Rwy'n croesawu'r cyfle i ymweld 芒'r safle gyda'r Gynghrair Cefn Gwlad a Chyfoeth Naturiol Cymru.

"Dyma fydd un o'r coetiroedd cyntaf er cof am deulu a ffrindiau a gollwyd yn sgil Covid-19. Ond mae safle fel hwn yn cynnig cyfleoedd i fod yn arloesol ac i arbrofi gyda ffyrdd newydd o weithio.

"Yn sgil ymateb y gymuned leol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi creu cynllun sydd yn cyfuno plannu coed gyda chynhyrchu bwyd, ac mi allai hyn fod yn esiampl i ffermydd ar draws Cymru ar sut i ddelio gyda'r argyfwng newid hinsawdd."

'Lle i fod yn greadigol'

Mae disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi canlyniadau'r ail ymgynghoriad ar ddyfodol y safle yn gynnar ym mis Medi.

Mewn datganiad dywedodd Martyn Evans, Pennaeth Gweithrediadau yn Ne Orllewin Cymru: "Mae ymgysylltu gyda phobl sydd yn byw a gweithio yn yr ardal wedi bod yn rhan allweddol o'r broses ymgynghori ac mae'n hanfodol bod cymunedau a rhanddeiliaid yn cael pob cyfle i rannu eu barn ar ddyfodol Brownhill.

"Mae'r safle yn cynnig cyfleoedd i fod yn greadigol a defnyddio ffyrdd newydd o weithio. Rydym wedi derbyn awgrymiadau arloesol yn barod yn ein hymgynghoriad. Fe fyddwn ni mewn safle i rannu mwy yn y misoedd nesaf."

Doedd Llywodraeth Cymru ddim yn barod i roi unrhyw fanylion pellach am yr hyn fydd yn digwydd yn Brownhill.