大象传媒

Sychder: Gallai glaw gael ei ystyried yn 'olew Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Cronfa Craig GochFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe godwyd cronfa Craig Goch i gyflenwi d诺r ar gyfer dinas Birmingham

Gallai glaw gael ei ystyried yn "olew Cymru" yn y dyfodol os bydd cynlluniau i gludo d诺r i rannau o Loegr sy'n dioddef o sychder yn cael eu gwireddu, mae arbenigwr wedi awgrymu.

Dywedodd yr Athro Roger Falconer o Brifysgol Caerdydd y dylid "talu am y d诺r", gyda'r refeniw yn cael ei fuddsoddi yn 么l mewn cymunedau lleol.

Mae manteisio ar gronfa dd诺r canolbarth Cymru yn un opsiwn sy'n cael ei ystyried gan gwmni Thames Water wrth iddo gynllunio ar gyfer newid yn yr hinsawdd.

Ond dywedodd un o weinidogion y DU fod y syniad y dylai Cymru fanteisio ar ei d诺r yn broblematig ac y byddai'n "creu rhaniadau".

Esboniodd gweinidog Swyddfa Cymru, David TC Davies fod "problem mewn un rhan o'r Deyrnas Unedig yn broblem i ni gyd".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae rheoli adnoddau d诺r yn fater datganoledig. Os bydd unrhyw opsiynau masnachu d诺r yn cael eu hystyried, byddwn yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r cwmn茂au d诺r perthnasol i sicrhau bod adnoddau d诺r yn cael eu rheoli a'u defnyddio'n gynaliadwy ac nad ydynt yn cael unrhyw effaith andwyol ar gyflenwadau d诺r na'r amgylchedd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llyn Efyrnwy oedd y gronfa dd诺r artiffisial fwyaf yn Ewrop pan ddechreuodd y gwaith ar yr argae ym 1881

Dywedodd yr Athro Falconer fod pobl wedi bod yn edrych ar y syniad o drosglwyddo d诺r o Gymru ers dechrau'r 1980au.

Fel arbenigwr mewn rheoli d诺r a pheirianneg, cysylltodd Boris Johnson ag ef i drafod hynny yn 2011 pan oedd yn faer Llundain.

Buont yn trafod y posibilrwydd o godi Argae Craig Goch yng Nghwm Elan, gan drosglwyddo'r d诺r ychwanegol a ddaliwyd yno trwy afonydd Gwy neu Hafren a thrwy gamlesi i'r Tafwys uchaf.

Nawr, gyda chwmn茂au d诺r ar draws de ddwyrain Lloegr yn rhybuddio am "bwysau difrifol" ar adnoddau o ganlyniad i dwf poblogaeth a newid hinsawdd, mae'n credu y bydd "diddordeb cynyddol" mewn ail-ymchwilio i hyn a chynlluniau eraill.

'Cyfle cryf iawn'

Wrth siarad gyda Newyddion S4C dywedodd fod "cyfle cryf iawn mewn sawl ffordd".

"Fe fydden ni'n cyflenwi'n uniongyrchol o dan amodau sychder i dde ddwyrain Lloegr a byddwn ni'n gweld hwn fel olew Cymru ar gyfer y dyfodol o ran refeniw," meddai.

Yn y cyfamser, mae Thames Water wedi cael ei annog gan undeb GMB Llundain i fwrw ymlaen 芒 chynlluniau y mae wedi crybwyll i gael mynediad i dd诺r o gronfa Llyn Efyrnwy ym Mhowys yn ystod cyfnodau o sychder.

Mae'r syniad yn un o nifer o opsiynau sy'n cael eu hystyried gan y cwmni, sydd 芒 dros 15 miliwn o gwsmeriaid yn Llundain a'r cyffiniau, a'r wythnos hon gweithredodd waharddiad ar bibellau d诺r i gadw cyflenwadau.

'Cynllun gwytnwch d诺r rhanbarthol'

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod wedi bod yn "ymgynghori a datblygu cynllun gwytnwch d诺r rhanbarthol sy'n cymryd i ystyriaeth ymarferoldeb gwahanol gynlluniau a sut y byddan nhw'n helpu i ddarparu cyflenwad d诺r fforddiadwy, gwydn a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".

"Un o'r rhain yw'r Severn Thames Transfer, yr ydym yn ei archwilio gydag United Utilities a Severn Trent," meddai.

Byddai'r cynllun yn golygu trosglwyddo d诺r o'r Hafren i'r Tafwys drwy bibell newydd neu ddefnyddio camlesi wedi'u hadfer yn y Cotswolds.

Gallai cyflenwadau d诺r ychwanegol pan fo angen hefyd ddod o Lyn Efyrnwy, a reolir gan Severn Trent ar ran United Utilities.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r sychder wedi bod yn amlwg ledled Cymru yn ystod yr haf, gan gynnwys yma yng Nghronfa Llwyn-onn ym Mannau Brycheiniog

Dywedodd llefarydd ar ran United Utilities fod trosglwyddiadau d诺r i gynorthwyo rhanbarthau eraill yn cael eu hystyried "i fynd i'r afael 芒'r heriau a achosir gan newid hinsawdd, twf poblogaeth a diogelu'r amgylchedd.

"Ni fyddai unrhyw drosglwyddiadau'n lleihau gwytnwch cyflenwadau i gwsmeriaid presennol," meddai, gan ychwanegu "nad oedd unrhyw gynlluniau i fynd ag unrhyw dd诺r ychwanegol o Lyn Efyrnwy y tu hwnt i'r hyn a ganiateir ar hyn o bryd."

Ond dywedodd arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Powys, Elwyn Vaughan, fod angen i'r cwmni "gael eu t欧 mewn trefn" cyn edrych i drosglwyddo d诺r o Gymru.

"Mae (bron) chwarter d诺r Llundain yn cael ei golli oherwydd bod pibelli wedi torri, sy'n warthus yn ei hun.

"Mae gynnon nhw uned tynnu halen allan o d诺r sydd wedi ei throi i ffwrdd ar hyn o bryd - sy'n hollol hurt.

"Ac ar ben hynny wedyn mae gynnon nhw addewid ers 2006 i sefydlu cronfa dd诺r yn Abingdon i helpu'r sefyllfa - a dydyn nhw ddim wedi gwneud hynny chwaith.

"Felly 'taen nhw'n gwneud y pethe hynna i gyd fydda ddim angen d诺r o Gymru - dyna 'di'r ffaith syml."

Deiseb

Mae mudiad annibyniaeth YesCymru hefyd wedi lansio deiseb yn galw am ddadl lawn ar y mater yn y Senedd.

"Ni yng Nghymru ddyle fod yn rheoli be sy'n digwydd i'n hadnoddau naturiol - a'r Senedd yng Nghaerdydd yn edrych ar 么l ein hadnoddau er mwyn budd i'n cymunedau ni," meddai'r cadeirydd Elfed Williams.

Ffynhonnell y llun, Geograph

"Fydde ni'n hollol fodlon rhannu ein d诺r ond bod ni'n cael budd o'r d诺r - dim bod Llundain yn penderfynu cymryd y d诺r heb unrhyw fudd i ni."

Dywedodd David TC Davies AS ei fod yn teimlo bod yr agwedd honno yn "un gul iawn" a fyddai'n "ysgogi rhaniadau mewn mannau eraill lle byddai pobl yn dweud pam yr ydym yn anfon biliwn o bunnoedd i Gymru ar gyfer cynlluniau twf er enghraifft, neu pam y bydd Cymru'n elwa o drydan sy'n mynd i'r grid o ganlyniad i Hinkley Point C".

Roedd y syniad o godi t芒l am dd诺r "Cymreig" yn broblematig, meddai.

"Pwy fyddai'n cael yr adnodd? Ai y bobl yn yr ardal lle'r oedd y glaw yn disgyn, neu'r bobl sy'n byw uwchben y pibellau?

"A fyddai Llywodraeth Cymru yn dweud 'ein d诺r ni ydyw', neu a yw'r awdurdod lleol yn mynd i ddweud 'arhoswch funud, nid yw'n ddim i'w wneud 芒 Chaerdydd, syrthiodd yn y canolbarth felly ein d诺r ni ydyw mewn gwirionedd'?

"Rwy'n si诺r ei fod yn swnio'n wych yn ystafell gyfarfod cangen o Blaid Cymru yn rhywle - 'gadewch i ni godi t芒l ar y Saeson am ein d诺r'.

"Ond pan fyddwch chi'n dechrau meddwl am oblygiadau hyn nid yw'n gweithio o gwbl, oherwydd byddai pawb arall eisiau codi t芒l [ar Gymru am bethau eraill]... ac yn y pen draw rydyn ni'n un Deyrnas Unedig."