Llofruddiaeth Clydach: Teyrnged i ddynes, 71
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw dynes gafodd ei chanfod yn farw mewn t欧 yng Nghlydach, Abertawe fore Mawrth.
Daeth yr heddlu o hyd i gorff Wendy Buckney, 71, mewn t欧 ar Heol Tanycoed toc ar 么l 08:20.
Mae dyn, 55, yn y ddalfa wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Wrth roi teyrnged ddydd Mercher, dywedodd teulu Ms Buckney: "Fel teulu, mae ein calonnau wedi'u torri gan bod ein chwaer, modryb a'n ffrind cariadus wedi ei chymryd oddi arnom gan amgylchiadau mor drasig.
"Mae ein teulu ni wedi torri, ac fe fyddwn ni'n ei cholli hi am byth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2022