大象传媒

Miloedd o weithwyr y Post Brenhinol ar streic

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Dydy telerau'r Post Brenhinol ddim yn foddhaol', medd Paul Jones ar ran ei gyd-bicedwyr yn Llanbedr Pont Steffan

Mae tua 115,000 o weithwyr post ar draws y DU yn gweithredu'n ddiwydiannol am 24 awr yn sgil anghydfod ynghylch cyflogau a newidiadau posib i amodau gwaith.

Dyma'r streic gyntaf o bedair, gyda rhagor wedi eu trefnu ar gyfer 31 Awst, 8 a 9 Medi, wrth i undeb y gweithwyr bwyso am godiad cyflog sy'n nes at raddfa bresennol chwyddiant.

Mae'r Post Brenhinol wedi rhybuddio na fydd llythyron yn cael eu dosbarthu ar y dyddiau hynny a bydd yna oedi cyn derbyn rhai parseli.

Mae rheolwyr wedi ymddiheuro i gwsmeriaid, gan ddweud bod yna gynlluniau wrth gefn er mwyn osgoi amharu yn ormodol ar wasanaethau.

Maen nhw hefyd yn annog y cyhoedd i bostio eitemau mor fuan 芒 phosib i gynyddu'r siawns iddyn nhw gyrraedd yn brydlon.

'Dydy'r cynnig ddim yn ddigon da'

Roedd dros 20 o weithwyr ar linell biced ger is-swyddfa ddosbarthu'r Post Brenhinol yn Llanbedr Pont Steffan fore Gwener.

Dywedodd Paul Jones ar raglen Dros Frecwast 大象传媒 Radio Cymru mai rhwng 2% a "3.5% ar y gore" yw'r codiad cyflog sydd ar gynnig i weithwyr fel yntau.

"Ni'n gw'bod beth yw coste byw pawb ar hyn o bryd, so ni'm yn gweld o'n ddigon da beth maen nhw 'di cynnig i ni," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o'r picedwyr ger is-swyddfa ddosbarthu'r Post Brenhinol yn Llanbedr Pont Steffan ben bore Gwener

Dywedodd hefyd bod yna wrthwynebiad i'r newidiadau y mae'r Post Brenhinol yn mynnu sy'n angenrheidiol os am gystadlu gyda chwmn茂au eraill sy'n didoli a dosbarthu parseli.

"Maen nhw mo'yn dechre ni'n hwyrach... os y'ch chi'n s芒l ma' nhw'n stopio taliade," meddai.

Mae yna hefyd bryder y byddai gorfod dechrau gweithio ar ddyddiau Sul yn "mynd i fwrw ar fywyde personol".

Awgrymodd bod y Post Brenhinol wedi gwneud "dros 拢500m" o elw yn ystod y pandemig "a ma' nhw'n trial gweud wrthon ni bod dim arian i gael 'da nhw ar 么l".

Ychwanegodd mai cyfranddalwyr "sy'n cael y taliade a ni ddim yn ca'l beth ni'n haeddu am y ddwy flynedd ddwytha".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywed y Post Brenhinol bod Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) wedi gwrthod cynnig o godiad cyflog "gwerth hyd at 5.5%" wedi tri mis o drafodaethau.

Mae'r undeb yn galw am godiad sy'n "cyfateb i'r costau byw presennol".

Mae chwyddiant ar hyn o bryd yn 10.1% - ei lefel uchaf mewn 40 mlynedd - ac mae disgwyl iddo fod dros 13% cyn diwedd y flwyddyn.

Mae'r Post Brenhinol yn dweud eu bod yn barod i gynnal mwy o drafodaethau mewn ymgais i atal rhagor o streiciau ond bod angen trafod moderneiddio arferion gwaith yn ogystal 芒 th芒l.

Yn 么l y Cadeirydd, Keith Williams, mae'r cwmni'n colli 拢1m y diwrnod wrth iddyn nhw ddelio 芒 llai o barseli.

Pynciau cysylltiedig