Llywodraeth yn 'siarad wast' am ynni adnewyddadwy heb isadeiledd
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon am ddyfodol prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru oherwydd prinder capasiti o fewn y rhwydwaith trydan.
Mae ffermwyr a pherchnogion tir sydd am osod paneli solar a tyrbeini gwynt wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru nad ydyn nhw'n gallu parhau gyda'u cynlluniau.
Yn 么l undeb NFU Cymru, mae'n "broblem ddifrifol" ac mae un ffermwr o Fannau Brycheiniog wedi cyhuddo'r llywodraeth o "siarad wast" am gynlluniau i gyrraedd sero net.
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar y rhai sy'n gyfrifol am y rhwydwaith trydan yn lleol ac yn genedlaethol i fuddsoddi ar 么l codi pryderon droeon.
Mae'r Grid Cenedlaethol ESO sy'n rhedeg y system drydan yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn dweud eu bod yn gweithio i gefnogi datblygiad cynllun tymor hir ar gyfer y rhwydwaith er mwyn datrys unrhyw broblemau.
Mae Garry Williams yn ffermio gwartheg a defaid ar ochr orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Fel sawl un yn y diwydiant amaeth, mae taclo costau cynyddol yn her ddiddiwedd.
Ond, mae cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn cynnig cyfleoedd, nid yn unig o ran delio 芒'r costau hynny, ond i sicrhau bod ffermwyr yn lleihau eu hallyriadau carbon.
"Ma' gyda ni 3.9kw o baneli solar ar y fferm yn barod a ni'n edrych ar y posibilrwydd o gael mwyn o ynni adnewyddadwy fel ffordd o arallgyfeirio.
"Ond y broblem fwya' yw'r isadeiledd sydd gyda ni... mae llawer o le gyda ni i roi lot mwy o baneli solar yma, ond ni ddim yn gallu rhoi mwy o drydan lawr y llinell - dyna'r broblem. Does dim isadeiledd."
Ychwanegodd Garry Williams mai "siarad wast" yw'r s么n am ynni adnewyddadwy "heb yr isadeiledd".
"S'mo ni'n disgwyl bydd isadeiledd mewn lle dros y misoedd, neu'r blynyddoedd nesa'. Ma' gr诺p o ni - 10 o ni gyda'n gilydd - yn benderfynol o weld hyn yn digwydd, ond ar hyn o bryd does dim gobaith.
"Ma' angen i Lywodraeth Cymru 'neud rhywbeth. Ma' nhw'n siarad am net sero a phethau tebyg, ond heb yr isadeiledd, siarad wast yw e."
'Mae hyn yn ddifrifol'
Dyw sefyllfa Garry Williams ddim yn unigryw, gyda ffermwyr a thirfeddianwyr ledled Cymru a'r DU yn wynebu'r un rhwystr yn 么l Aled Jones, Llywydd NFU Cymru.
"Mae llawer o'n haelodau wedi bod yn dymuno cael buddsoddi mewn prosiectau arallgyfeirio i gynhyrchu ynni adnewyddol, a llawer iawn ohonyn nhw ddim wedi gallu cario mlaen achos dydi'r capasiti yn y grid ddim yno ac hefyd mae'r costau o gael three-phase connection y tu hwnt o ddrud.
"'Dan ni'n wynebu argyfwng newid hinsawdd. Ni'n dweud bod angen i ni chwilio am ynni adnewyddol, ynni gwyrdd, ac mae gynnon ni'r adnoddau yma yng Nghymru, boed o'n wynt, d诺r neu solar. Mae'n bwysig bod ni'n gallu gyrru 'mlaen gyda phrosiectau fel hyn.
"Os nad yw'r llywodraeth gyda ni, a capasiti'r grid ddim yno, mae'n rhwystro buddsoddiad. Mae hyn yn ddifrifol, mae 'na botensial enfawr yng Nghymru."
Pryder am brosiectau ynni mawr
Nid prosiectau bach yn unig allai gael eu heffeithio. Mae 'na bryder y bydd diffyg buddsoddiad yn isadeiledd y rhwydwaith trydan yn effeithio ar brosiectau ynni mawr hefyd.
Mae 'na gynlluniau i gynhyrchu trydan drwy ffermydd gwynt sy'n arnofio ar wyneb y d诺r oddi ar arfordir de-orllewin Cymru.
Ond, mae problemau isadeiledd yn codi cwestiynau yngl欧n 芒 sut yn union y bydd y prosiectau yn cael eu cysylltu i'r rhwydwaith trydan.
"Mae e'n bryder, achos ma 'na gyfle da iawn o ran ynni gwynt ar y m么r, ac os mae'r cyfle hwnnw yn mynd i rywle arall, wedyn ry'n ni yn Sir Benfro yn mynd i golli mas," meddai Samuel Kurtz, yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro yn Senedd Cymru.
"Dwi'n poeni fod pobl, o bosib, yn edrych ar leoliadau eraill ar y tir i osod y gwifrau sy'n cario'r trydan.
"Dwi yn credu bod Sir Benfro yn cynnig tipyn i'r prosiectau yma, a dwi wir yn gobeithio bod yr holl sefydliadau yn dod at ei gilydd, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, awdurdodau lleol hefyd, yn ogystal 芒'r Grid Cenedlaethol ESO, er mwyn sicrhau bod ni'n 'neud y mwya' o'r cyfle yma."
Mae Duncan Sinclair yn arbenigwr ar rwydweithiau ynni gyda chwmni ymgynghori Baringa.
Mae'n dweud bod y problemau y mae'r grid yn eu hwynebu wedi datblygu'n rhannol oherwydd bod 'na newid yn y ffordd y mae'n gweithio.
"Yn yr hen ddyddiau roedd 'na orsafoedd p诺er mawr canolog wedi eu cysylltu i'r rhwydwaith trosglwyddo, y trydan yn llifo drwy'r system honno i'r rhwydwaith dosbarthu lleol ac wedyn i'r cwsmer," eglurodd.
"Y broblem yw ein bod ni nawr yn rhoi trydan i mewn i'r grid o'r ymylon, a'r broblem gyda hynny yw os oes 'na ormod o drydan yn cael ei roi i'r rhwydwaith ddosbarthu, a dyw e ddim yn cael ei ddefnyddio'n lleol, wedyn mae angen iddo lifo i lan i'r rhwydwaith drosglwyddo.
"Os nad oes digon o gapasiti yn y grid dyw'r trydan ddim yn gallu cyrraedd cwsmeriaid ymhellach i ffwrdd.
"Mae'r sefyllfa yn un eitha' sylweddol oherwydd mae 'na newid nawr. Ma' rhwydweithiau trydan wedi eu dylunio ar gyfer yr hen ffordd o weithio."
Dywedodd y Grid Cenedlaethol ESO sy'n gofalu am y rhwydwaith trydan yng Nghymru, Lloegr a'r Alban eu bod nhw'n gweithio gyda chwmn茂au dosbarthu, perchnogion y rhwydwaith drosglwyddo, cwsmeriaid a Llywodraeth Cymru i gynorthwyo gyda'r gwaith o ddatblygu cynllun hir dymor.
Dywedodd y corff sy'n rheoleiddio'r diwydiant ynni, Ofgem, mai eu "blaenoriaeth yw cyrraedd sero net ar y gost isaf i ddefnyddwyr a hynny mewn ffordd effeithiol a chynaliadwy" a'u bod wedi gwneud cynnig am fuddsoddiad i uwchraddio gridiau lleol.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw'n gallu gweld yr angen i gynyddu capasiti grid Cymru ac eu bod nhw wedi codi eu pryderon gydag Ofgem a'r Grid Cenedlaethol ESO ar sawl achlysur.
Maen nhw'n dweud bod angen buddsoddiad er mwyn gallu cysylltu prosiectau ynni adnewyddadwy ar draws Cymru.
Mae'r sefyllfa, medd llefarydd Newid Hinsawdd Plaid Cymru, Delyth Jewell yn amlygu "Deyrnas Unedig or-ganoledig" sy'n atal Llywodraeth Cymru rhag "gwireddu'i huchelgeisiau ynni adnewyddadwy" am nad oes hawl penderfynu "sut mae gwario cyfran Cymru o arian trethdalwyr sy'n cyfrannu at y Grid Cenedlaethol".
Mae hi'n galw am orfodi'r Grid Cenedlaethol yn statudol i sicrhau'r "capasiti y mae Llywodraeth Cymru ei angen i wireddu amcanion polisi a chefnogi'r sectorau amaeth, diwydiannol ac ynni adnewyddadwy".
Ychwanegodd bod cwmni ynni Cymreig dan berchnogaeth gyhoeddus, Ynni Cymru, yn cael ei ddatblygu fel rhan o gytundeb cydweithio Plaid Cymru a llywodraeth Lafur Cymru, a bod yn cynlluniau hynny'n "cynnwys ystyried sut y gallai sicrhau bod capasiti'r grid ynni'n cadw'n wastad 芒'r galw."
Mae Western Power Distribution wedi cael cais am sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2021