´óÏó´«Ã½

Pum munud gyda Ed Holden

  • Cyhoeddwyd
Mr Phormula

Mae Ed Holden, neu Mr Phormula, yn wyneb ac yn lais adnabyddus iawn o fewn y sin cerddorol yng Nghymru a thu hwnt. Yn enedigol o gyffiniau Amlwch, Ynys Môn, mae'r rapiwr wedi cynrychioli Cymru ar lwyfannau ar draws y byd yn rapio ac yn perfformio 'live looping.'

Mi wnaeth Cymru Fyw ddal i fyny gydag Ed cyn iddo orfod ei heglu hi nôl i berfeddion ei stiwdio.

O ble ddaeth y diddordeb mewn rapio a cherddoriaeth hip-hop?

Dwi'n cofio chwarae gyda fy nheganau pan o'n i'n chwech oed a chlywais i Rahzel yn beat boxioar sianel New MTV. Ro'n i'n hooked! Do'n ni ddim yn medru stopio gwneud synau i rythm curiadau rap o'r diwrnod hynny ymlaen. Dwi hefyd yn cofio gwrando ar CD's Mam, yn enwedig yr un, The Best of the 80's gyda Sugar Hill Gang.

Ar fy niwrnod ola' yn yr ysgol gynradd mi wnes i helpu Mr Hughes i glirio a des i o hyd i dâp ar y llawr. Albwm RUN DMC - Raising Hell oedd o. Nes i ddim stopio chwara'r albwm.

Nôl yn 2013 fe wnes i gwrdd efo Rahzel yn Efrog Newydd a chael y cyfle i ddiolch iddo fo. Am ddyn neis a sownd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Run DMC o Efrog Newydd, un o'r grwpiau hip-hop mwyaf dylanwadol erioed

Sut es ti ati i ddechrau perfformio?

Roedd gen i gylch o ffrindia yn ysgol uwchradd Syr Thomas Jones oedd mewn i dj's. Dyna ble ddysgais i sut i gymysgu cerddoriaeth. Ar ôl gadael yr ysgol mi es i i Goleg Parc Menai er mwyn astudio cyfryngau a chwrdd ag Aron Elias, o'r band Pep Le Pew. Do'n i ddim rili mewn i gerddoriaeth a phethau Cymraeg tan hynny. Ar y dechrau ro'n i'n cuddio tu ôl i'r decs yn y cefn ond nes i dyfu mewn hyder a dechrau dod allan fel ail MC. Dysgais i gymaint am berfformio yn ystod y cyfnod hynny a ro'n i'n gwybod mod i eisiau gwneud hyn fel job.

Sut daeth y band, Genod Droog, i fodolaeth?

Ddes i'n ffrindia efo Dyl Mei, a bydden i'n aros efo fo yng Ngarndolbenmaen. Ro'n ni'n trafod cerddoriaeth ac mi es i ati i neud cwpl o brosiectau solo. Bob blwyddyn yn ystod wythnos y Steddfod bydden i'n eistedd o gwmpas y tân yn Maes B ac yn cael sgwrs efo Aneirin Karadog. Dyna sut ddechreuon ni Y Genod Droog, efo Carwyn Jones a Gethin Evans yn ogystal. Ro'n ni'n rapio i gerddoriaeth hip hop.

Disgrifiad o’r llun,

Pwy sy'n ddrwg? Genod Genod Droog!

Mae modd dy weld di ar YouTube yn perfformio 'live looping,' yn Berlin, 2019. Sut ddechreuais ti ar berfformio fel hyn?

Pan ddechreuais i beat boxio doedd na'm llawer yn gwneud yng Nghymru, sef gwneud synau o bethau gwahanol i guriad. Ro'n i hefyd yn gneud stwff solo efo peiriannau a llais, live looping, ble ti'n creu cân yn fyw efo beats, synau a llais ar dy ben dy hun efo peiriant. Ro'n i'n gneud hyn yn Gymraeg a Saesneg felly ro'n i'n swnio'n wahanol i bobl eraill.

Yn 2012 ges i wahoddiad i berfformio yn Lerpwl ar gyfer UK Beatbox. Dwi wedi perfformio yn Efrog Newydd, yn cynrychioli Cymru yn yr American Beatbox Championships fel gwestai. Yn 2013 ro'n i'n Vice Champ yn yr UK, enillais i gystadleuaeth 2018 Flowcase yng Nghaerdydd a dwi wedi ennill teitl Cymru yn 2017 a 2019.

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Dyw'r ´óÏó´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan BEATBOX BATTLE®

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r ´óÏó´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan BEATBOX BATTLE®

Mi rwyt ti'n perfformio gweithdai 'beat boxing' yn gyhoeddus ac o fewn ysgolion. Sut wnest ti fwrw ati gyda'r prosiectau yma?

Mi wnes i gwrs busnes ychydig o flynyddoedd yn ôl er mwyn dysgu beat boxing a rapio. Doedd y cwrs ddim yn un da ond roedd y buffet yn neis. Mi wnes i ddysgu sut i greu model busnes felly gadewais i ngwaith ar y pryd a gneud hyn yn llawn-amser.

Pan o'n i'n ddisgybl yn yr ysgol uwchradd doedd dim modd gneud beat boxing fel rhan o bwnc cerddoriaeth. Dim ond stwff clasurol roedd ar gael ac mi wnaeth hyn fi'n fwy penderfynol. Mi es i ati greu modiwl beat boxing a rap gyda help CBAC.

Ffynhonnell y llun, Ed Holden
Disgrifiad o’r llun,

Ed Holden

Mae perfformio mewn digwyddiadau cyhoeddus a theithio o gwmpas ysgolion yn dysgu'r sgiliau yma'n golygu mod i'n gneud bywoliaeth o'r hyn dwi'n ei garu.

Ro'n i'n ffan o beatboxero'r enw Gavin Tyte. Roedd o'n dysgu pobl hefyd ac erbyn hyn rydan ni'n adnabod ein gilydd. Wnaeth o 'ngwahodd i i berfformio mewn sioe yn yr Albert Hall nôl yn 2018. Am brofiad anhygoel.

Oes gen ti unrhyw gynlluniau eraill tu hwnt i'r dysgu a'r perfformio byw?

Oes. Mae gen i fy stiwdio fy hun erbyn hyn. Dwi newydd ryddhau sengl gydag Eadyth Crawford o'r enw Rhyddid. Dwi hefyd wrthi'n gweithio ar brosiect hip hop gydag artist o'r enw Lord Willin o Rhode Island yn yr Unol Daleithiau. Enw'r albwm fydd Hel Clecs. Mae'n caru'r enw Cymraeg a'i ystyr.

Dwi'n saethu fideos yng Nghymru ac mae o'n gwneud yr un peth yn America ac mae Hedydd Ioan o gwmni Trac 42 yn golygu'r cyfan.

Dwi hefyd wedi arwyddo gyda label o Gaerdydd o'r enw Bard Picasso ar ôl iddyn nhw fy ngweld i'n perfformio yn ystod Gŵyl Y Llais yng Nghaerdydd yn 2021

Ffynhonnell y llun, Ed Holden
Disgrifiad o’r llun,

Ed Holden yn gweithio ar drac yn ei stiwdio

Mi rwyt ti wedi cyflawni cryn dipyn yn dy yrfa hyd yn hyn. Oes un peth yn sefyll allan?

Dwi wedi gweld y sin beat boxing yn datblygu yng Nghymru ac erbyn hyn mae'n anhygoel. Dwi'n falch fy mod i wedi medru helpu i'w ddatblygu a'i adeiladu.

Mi fydd EP o waith Ed a Lord Willin yn cael ei rhyddhau ar Awst 19 eleni.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig