大象传媒

Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymddeol

  • Cyhoeddwyd
Jo WhiteheadFfynhonnell y llun, Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Jo Whitehead wedi bod yn y r么l am lai na dwy flynedd

Bydd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn.

Mae Jo Whitehead yn dweud y bydd yn camu i lawr oherwydd rhesymau teuluol.

Cafodd ei phenodi i'r r么l ym mis Awst 2020 gan ddechrau ar y gwaith ym mis Ionawr 2021.

Bydd yn gadael ei swydd ar 23 Rhagfyr 2022.

'Teulu yn dod gyntaf'

Wrth gyhoeddi ei hymddeoliad, dywedodd: "Mae fy mhenderfyniad i ymddeol ar y pwynt yma yn un personol.

"Mae hwn wedi bod yn benderfyniad hynod o anodd i mi ac nid wyf wedi'i gymryd yn ysgafn.

"Rwy'n gadael yn gynt nag yr oeddwn wedi bwriadu'n wreiddiol ond mae fy nheulu yn hynod o bwysig i mi ac mae'n rhaid iddyn nhw ddod yn gyntaf."

Ychwanegodd bod ymgymryd 芒'r r么l wedi bod yn "fraint enfawr" a'i bod yn "falch" o'r hyn a gyflawnwyd yng ngogledd Cymru yn ei chyfnod wrth y llyw.

"Mae BIPBC yn llawn o'r bobl fwyaf anhygoel a dymunaf yn dda i'r sefydliad," meddai.

Blynyddoedd anodd i'r bwrdd iechyd

Yn 2015 cafodd Betsi Cadwaladr ei gosod dan fesurau arbennig yn dilyn cyfres o drafferthion ariannol, methiannau o ran rheolaeth, rhestrau aros ac adroddiad damniol i ward iechyd meddwl Tawel Fan.

Ond dywedodd y llywodraeth fis Tachwedd 2020 fod "cyngor amlwg" y dylai statws y bwrdd iechyd newid i un o "ymyrraeth wedi'i dargedu", fyddai'n dal angen "gweithredu sylweddol" gan Betsi Cadwaladr.

Fis Chwefror, yn dilyn adroddiad oedd yn feirniadol o'i wasanaethau fasgwlar, rhybuddiodd y gweinidog iechyd fod angen i'r bwrdd iechyd wneud newidiadau ar frys, neu y gallai ei roi yn 么l dan fesurau arbennig.

Ym mis Mai daeth adroddiad beirniadol arall am uned frys Ysbyty Glan Clwyd - sydd 芒'r perfformiad gwaethaf yng Nghymru.

Mae adolygiad yn cael ei gynnal hefyd i'r ffordd mae nyrsys yn Ysbyty Gwynedd yn cael eu trin yn dilyn honiadau o fwlio a gorweithio.

Felly mae bwrdd iechyd y gogledd yn chwilio am ei nawfed pennaeth (yn cynnwys penaethiaid dros dro) yn y 13 mlynedd ers ei sefydlu.

Ac mae pob un o'r penaethiaid hynny wedi wynebu heriau sylweddol.

Cofiwch mai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd y corff iechyd cyntaf yng Nghymru i gael ei osod dan "fesurau arbennig" - sef y lefel uchaf o oruchwyliaeth gan Lywodraeth Cymru ac fe barodd hynny am fwy na phum mlynedd.

Eto i gyd, parhau mae'r problemau - nid yn unig pryderon difrifol ddiweddar am ddiogelwch cleifion yn ysbyty Glan Clwyd Bodelwyddan, ond fe gafodd y ffigyrau perfformiad gwaethaf erioed am uned frys yng Nghymru eu cofnodi'n ddiweddar yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Yn 么l y beirniad mae ymadawiadau cyson y penaethiaid yn awgrymu'n gryf fod y bwrdd ei hun yn rhy fawr ac yn rhy gymhleth i'w reoli.

Mae'r gwrthbleidiau yn beio Llywodraeth Cymru.

Tra bod Llywodraeth Cymru yn dweud y byddan nhw'n cynnig cefnogaeth i'r bwrdd wrth chwilio am brif weithredwr newydd, y cwestiwn yw, o ystyried hanes y bwrdd, faint o ymgeiswyr fydd?

Cyfraniad 'ddim bob amser yn amlwg'

Yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Iau, dywedodd Mark Polin, cadeirydd y bwrdd iechyd, fod "arweinyddiaeth Jo wedi bod yn hanfodol ar daith y Bwrdd Iechyd ac mae cynnydd da wedi'i wneud yn ystod ei chyfnod".

Ymhlith ei llwyddiannau, meddai, oedd lansio cynllun gwella, rhaglen frechu Covid-19 a llawer o ddatblygiadau ar draws gwasanaethau i wella gofal cleifion.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Mark Polin fod Jo Whitehead wedi galluogi'r bwrdd "i fwrw ymlaen 芒'n hagenda trawsnewid"

"Nid yw ei chyfraniad i iechyd a lles pobl Gogledd Cymru bob amser yn amlwg o ystyried yr heriau y mae'r Bwrdd Iechyd yn eu hwynebu," meddai, "ond mae ei hymagwedd agored a dymunol wedi ein galluogi i fwrw ymlaen 芒'n hagenda trawsnewid.

"Mae hi wedi canolbwyntio ar rymuso staff i wneud y gwelliannau ac mae ei harweinyddiaeth wedi cael ei pharchu'n fawr gan staff a phartneriaid."

'Daer angen arweinyddiaeth gref hir dymor'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein meddyliau a dymuniadau gorau gyda Jo Whitehead a'i theulu ar y cyfnod anodd yma.

"Hoffwn ni ddiolch i Jo am ei gwaith caled wrth arwain ymateb y bwrdd iechyd i heriau'r pandemig.

"Byddwn yn cefnogi'r bwrdd iechyd wrth iddo chwilio am brif weithredwr newydd a datblygu trefniadau yn y cyfamser."

Mae llefarydd gogledd Cymru y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar wedi diolch i Jo Whitehead am ei gwasanaeth, "yn arbennig yn ystod heriau'r pandemig".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Betsi Cadwaladr yw bwrdd iechyd mwyaf Cymru - ond a yw'n rhy fawr?

Ond fe fynegodd pryder mai ei holynydd fydd "seithfed [prif weithredwr BIPBC] mewn 13 o flynyddoedd", gan ddweud fod GIG y rhanbarth "daer angen arweinyddiaeth gref hir dymor i oresgyn yr heriau y mae'n parhau i'w hwynebu a mynd i'r afael 芒 gwasanaethau diffygiol".

Ychwanegodd fod angen i'r prif weithredwr nesaf "fod 芒'r gallu i sicrhau newid a gwneud y penderfyniadau anodd angenrheidiol heb gael eu rhwystro gan ymyrraeth wleidyddol Gweinidogion ym Mae Caerdydd".

Dywedodd Llyr Gruffydd, AS Gogledd Cymru Plaid Cymru: "Mae pawb yn y Gogledd eisiau gweld y bwrdd iechyd yn llwyddo ond rydyn ni hefyd yn gwybod ei fod o dan bwysau enfawr oherwydd cyfuniad o alw cynyddol, prinder staff, gweithlu dan bwysau ac uwch reolwyr sydd wedi methu 芒 delio 芒'r heriau dros y degawd diwethaf.

"Mae'r amser wedi dod inni ystyried a yw'r bwrdd iechyd presennol yn rhy fawr i ymdrin 芒'r heriau hynny a bod angen newid ehangach i ddarparu'r gwasanaethau y mae cleifion gogledd Cymru yn eu haeddu."

Pynciau cysylltiedig