Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y blaid Geidwadol yn 'llanast' wedi'r ras arweinyddiaeth
- Awdur, Catrin Haf Jones
- Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 大象传媒 Cymru
Mae'r blaid Geidwadol yn "llanast" a bydd gwaith adfer ffydd y cyhoedd ynddi, yn 么l rhai o aelodau Cymreig y blaid.
Daw'r sylwadau wedi i'r ddau ymgeisydd i olynu Boris Johnson fel prif weinidog wynebu ei gilydd am y tro olaf mewn dadl yn Llundain nos Fercher.
Mae Rishi Sunak yn addo rheoli chwyddiant a chreu swyddi, tra bod Liz Truss yn dweud y bydd hi'n torri trethi ar unwaith er mwyn rhoi hwb i'r economi.
Ond mae aelodau Cymreig wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru bod y dadlau rhwng y ddwy garfan wedi "dangos gwendidau mawr y blaid".
Mae Ms Truss a Mr Sunak wedi bod yn cymryd rhan mewn hystings gerbron aelodau Ceidwadol ers diwedd mis Gorffennaf, yn dilyn cyhoeddiad Boris Johnson yn gynharach y mis hwnnw y byddai'n camu lawr fel prif weinidog ac arweinydd y Ceidwadwyr.
Mae gan yr oddeutu 160,000 o aelodau hyd at ddiwedd yr wythnos hon - 2 Medi - i fwrw'u pleidlais, a rhyw 5% o'r rheiny yng Nghymru.
Mae Dafydd Llyr Ellis o Drawsfynydd yn cefnogi Rishi Sunak, y cyn-Ganghellor wnaeth ymddiswyddo o'r cabinet ddyddiau cyn i Boris Johnson gyhoeddi ei fod am gamu lawr.
"Y prif reswm dwi'n cefnogi Rishi Sunak ydy dwi'n meddwl mai fo ydy'r unig ymgeisydd sydd efo'r gobaith o adfer ffydd yn y ddelwedd Geidwadol," meddai.
"Mae o'n realistig yn ei agwedd, mae ei syniadau o yn fwy arloesol na rhai Liz Truss a dwi'n meddwl fod o'n fwy poblogaidd efo'r bobl yn gyffredinol.
"Yn bersonol dwi ddim yn teimlo fel galla'i gefnogi Liz Truss oherwydd mae hi wedi newid ei stance ar gymaint o bethau. Roedd hi'n Liberal Democrat a wedyn daeth hi'n Geidwadwr.
"Roedd hi'n erbyn y frenhiniaeth a wedyn o'i blaid o. Roedd hi o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, r诺an mae'n Brexiteer. Beth fydd y newid nesa' mae Liz Truss isio'i wneud?"
Er hynny, awgrym yr arolygon barn yw mai Liz Truss yw'r ceffyl blaen o bell ffordd ymhlith aelodau Ceidwadol.
Yn 么l un, Llyr Powell o Gaerdydd, yr Ysgrifennydd Tramor yw'r person cywir i arwain Prydain drwy heriau'r blynyddoedd nesaf.
"Yn fy marn i mae polis茂au Liz Truss yn gywir ar gyfer y dyfodol a mae'r profiad yna mewn pethe fel foreign policy, yn y Treasury, ac mae hi wedi bod yn gweithio yn y llywodraeth am sbel - mae track record yna fi'n cytuno gydag e."
Ond mae beirniadaeth wedi bod o addewidion Ms Truss i dorri trethi helaeth petai hi'n brif weinidog, gyda Paul Johnson o'r Institute for Fiscal Studies yn rhybuddio y gallai ei haddewidion chwalu coffrau'r wlad.
Dyw Llyr Powell ddim yn cytuno: "Yr unig wlad yn Ewrop sydd codi trethi fel wnaeth Rishi Sunak yw Prydain ac yn fy marn i, ni ddim yn edrych yn gryf iawn ar y funud - ni'n gweld lot o fusnesau'n cau."
'Gwendidau mawr yn y blaid'
Ond mae'r ddau Llyr yn cytuno ar un peth - bod y misoedd diwethaf o ddadlau cyhoeddus rhwng carfannau gwahanol o'r blaid wedi bod yn niweidiol iawn i'r Ceidwadwyr.
Yn 么l Llyr Ellis mae'r blaid mewn "llanast ar 么l y ras etholiadol yma".
"Mae pawb yn ffraeo efo'i gilydd. Mae o'n dangos y gwendidau mawr yn y blaid. Dwi'n meddwl bydd yna lot o waith adfer ffydd pobl yn y blaid Geidwadol."
Mae Llyr Powell yn dweud ei fod yntau "wedi gweld lot o bethe fi ddim wedi licio gweld a chlywed".
"Fi'n jyst gobeithio ar 么l yr etholiad hyn mae pawb yn gallu dod at ei gilydd, mynd ymlaen, trio 'neud ein gorau i Brydain ac edrych ar yr etholiad nesa', sy'n mynd i fod yn galed iawn."
Ond nid uno'r blaid Geidwadol fydd unig her yr enillydd. Ar y llwyfan rhyngwladol bydd yn rhaid delio gyda rhyfel Rwsia ar Wcr谩in a thaclo'r berthynas anodd 芒'r Undeb Ewropeaidd ar 么l Brexit.
Yn nes at adre mae'r heriau hefyd yn pentyrru - o chwyddiant a chostau ynni, i streiciau a straen ar y pwrs cyhoeddus.
Yn 么l y sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis, mae her eithriadol yn disgwyl pwy bynnag fydd yn ennill allweddi 10 Downing Street.
"Mae'n rhaid mynd 'n么l degawdau i edrych am rywbeth sy'n gallu cymharu gyda'r sefyllfa ni'n wynebu," meddai.
"Fydd Liz Truss neu Rishi Sunak yn dod mewn i Stryd Downing fel arweinydd plaid sydd tu 么l i'r blaid Lafur yn y polau, sydd ddim gyda hyder y cyhoedd ac sydd wedi colli momentwm.
"Pwy bynnag sy'n ennill bydd gyda nhw heriau ar y ffrynt polis茂au a'r ffrynt gwleidyddol, a hefyd ar y ffrynt ideolegol yngl欧n 芒 beth yw'r blaid Geidwadol a beth maen nhw'n sefyll amdano."
Bydd yr enillydd - y prif weinidog newydd ac arweinydd nesaf y Ceidwadwyr - yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, 5 Medi.