大象传媒

'Syfrdanol': Bil ynni cigydd o Gonwy yn 拢800,000

  • Cyhoeddwyd
Ieuan Edwards
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Ieuan Edwards fod yn rhaid i'r prif weinidog newydd ymyrryd yn fuan

Mae perchennog cwmni cig adnabyddus yn y gogledd yn dweud ei fod wedi ei "gwbl syfrdanu" ar 么l derbyn amcan bris o bron i 拢800,000 ar gyfer ynni am flwyddyn.

Fe wnaeth perchennog Edwards o Gonwy, Ieuan Edwards, drydar fod hynny'n cymharu 芒 bil o 拢129,000 y llynedd.

Dywedodd fod y math o filiau mae busnesau bach a chanolig yn eu derbyn yn "game changer", gyda chwmn茂au yn methu gwneud elw ac felly dim yn talu trethi i goffrau'r Trysorlys.

Roedd Mr Edwards wedi troi at Twitter ar 么l iddo glywed Edwina Currie, cyn-weinidog Ceidwadol, yn dweud bod hi'n gor-ddweud i alw'r sefyllfa bresennol yn "catastrophe".

Roedd Ms Currie yn ymateb i sylwadau'r arbenigwr ariannol Martin Lewis.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Edwards of Conwy

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Edwards of Conwy

"O ran Edwina Currie - mae'n rhyfeddol i rywun mor alluog 芒 hi i fod mor anwybodus yngl欧n 芒 beth sy'n digwydd.

"Dyna pam i mi drydar y bil, i ddangos beth yw'r sefyllfa.

"De ni yn ffodus fel busnes da ni'n eithaf cryf - ond bydd yna fusnesau fydd poeni yn arw, beth yw'r dyfodol."

Dywedodd nad oedd yn gallu gweld sut bod modd i fusnesau dalu biliau o'r fath. Ei obaith yw y bydd prif weinidog newydd i olynu Boris Johnson yn cyhoeddi pecynnau cymorth yn fuan.

"De ni am aros am rai dyddiau i weld, gweld be ddaw yn yr wythnosau nesa'."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd busnesau yn "poeni yn arw" am y sefyllfa, meddai Ieuan Edwards

Ychwanegodd fod cwmn茂au yn wynebu heriau gwahanol, a bod yna fantais amlwg gan gwmn茂au sydd 芒 chytundebau pris sefydlog o bosib am y ddwy flynedd nesaf.

"Does gan y llywodraeth ddim dewis ond ymyrryd. Bydd cwmn茂au yn gorfod hawlio treth y gost yn erbyn elw, a bydd hynny'n golygu llai o elw ac felly llai o drethi i'r Trysorlys.

"Dydi o ddim yn gynaliadwy."

Disgrifiad,

Maia o d卯m Cymru Fyw sy'n esbonio'r cap ar brisiau ynni

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud na fydd na unrhyw bolis茂au newydd yn cael eu cyhoeddi tan y bydd arweinydd newydd yn cael ei benodi ar 5 Medi.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Busnes, Ynni a Diwydiant y DU na fyddai "unrhyw lywodraeth" yn gallu rheoli'r "ffactorau byd eang syn cynyddu prisiau ynni a chostau busnes eraill".

"Byddwn yn parhau i gefnogi busnesau yn y misoedd i ddod."

Ychwanegodd fod y llywodraeth eisoes wedi darparu pecyn sy'n golygu y byddi busnesau ond yn talu 50% o drethi busnes.

Mae gweinidog economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi "biliynau o bunnoedd i fusnesau Cymru oherwydd argyfwng costau cynyddol".

Dywedodd Mr Gething fod Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu rhyddhad ardrethi busnes, a bod swyddogion yn edrych ar feysydd eraill i gynnig cefnogaeth.