大象传媒

Costau byw: Y 'cyfnod anoddaf erioed' i fusnesau

  • Cyhoeddwyd
Rali
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth tua 200 o bobl i rali yn Aberd芒r ddydd Sadwrn i alw ar Lywodraeth y DU i weithredu yngl欧n 芒 chostau byw

Mae perchennog siop sydd wedi bod yn gwerthu dillad babis yn Aberd芒r ers dros ddegawd yn dweud mai dyma'r cyfnod anoddaf iddi ei brofi wrth i'r argyfwng costau byw daro.

Yn 么l Hayley Howells o Siop Babi Bach, yr hyn sy'n cadw'r busnes yn fyw yw'r ffaith ei bod hi hefyd yn gwerthu cynnyrch ar-lein

"Mae'n godsend," meddai. "Ni'n anfon 10 parsel y dydd trwy'r wythnos ledled y DU.

"Os o'n ni jyst yn dibynnu ar bobl yn dod mewn i'r siop, fydden ni ddim yma."

Mae rali wedi cael ei chynnal yn Aberd芒r ddydd Sadwrn, wedi'i drefnu gan yr Aelod Seneddol lleol Beth Winter, i alw ar y llywodraeth yn San Steffan i weithredu

Mae Llywodraeth y DU yn dweud ei bod yn "cefnogi teuluoedd a busnesau trwy'r misoedd anodd sydd o'n blaenau".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae gweld pethe fel hyn yn mynd ymlaen, mae'n ddiflas," meddai Hayley Howells

Cafodd Siop Babi Bach ei sefydlu yn yr hen swyddfa bost yn Nhrecynon ger Aberd芒r dros 10 mlynedd yn 么l.

Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn dawel, yn 么l Ms Howells.

"Mae'r newyddion am y cost of living - pobl ddim yn gwario arian fel o'n nhw arfer, a dyw pobl ddim yn mynd i lefydd nawr. S'neb yn prynu."

Yr un yw'r neges ar hyd a lled y dref, meddai.

"Mae pawb yn dweud yr un peth - mae mor dawel. Y pubs a'r restaurants... dyw pobl jyst ddim yn gwario arian fel oedden nhw cyn Covid a chyn Brexit."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr AS lleol, Beth Winter, fu'n arwain y rali yn Aberd芒r ddydd Sadwrn

Daeth tua 200 o bobl i'r rali yn Aberd芒r ddydd Sadwrn gyda'r bwriad, meddai AS Llafur Cwm Cynon, Beth Winter, i roi cyfle i bobl yr ardal ddod ynghyd i rannu profiadau.

"Dros yr haf, rwy' wedi bod mas o gwmpas y cwm yn siarad gyda phobl leol a busnesau, ac maen nhw wir yn pryderu am y dyfodol - dewis rhwng prynu bwyd neu dalu am drydan, methu fforddio mynd mas, methu fforddio gwneud pethau gyda'r plant, ac mae busnesau lleol wir yn becso am y dyfodol," meddai.

"Mae 'da ni draddodiad yn y cwm ble mae pobl yn tynnu at ei gilydd, a phwrpas y rali yw i alluogi pobl i ddod at ei gilydd, cefnogi ei gilydd, ond hefyd i ddweud wrth y llywodraeth yn San Steffan: 'Does dim rhaid i'r argyfwng 'ma ddigwydd, mae 'na ffordd arall'."

'Golau'n dechrau mynd bant'

Gyda disgwyl cynnydd mawr ym mhris trydan dros y misoedd nesaf, mae Hayley Howells yn poeni am yr hyn sydd o'i blaen.

"Mae trydan yn worry mawr - mae'r golau yn dechrau mynd bant gyda fi yma," meddai.

"Dwi ddim yn si诺r be' sy'n mynd i ddigwydd pan mae'r dyddiau yn dechrau yn mynd yn fyrrach.

"Mae angen trydan ar gyfer y laptop a phethe fel 'na i werthu ar-lein."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Siop Babi Bach ei sefydlu yn yr hen swyddfa bost yn Nhrecynon ger Aberd芒r dros 10 mlynedd yn 么l

Mae'n gobeithio y bydd 'na gefnogaeth i fusnesau - yn enwedig i ddelio 芒'r cynnydd ym mhris trydan dros y misoedd nesa', ac os na ddaw hynny, mae'n poeni am ddyfodol y busnes.

Efallai bydd yn rhaid cyflogi'r ddau aelod o staff rhan amser am lai o oriau, a'r penderfyniad olaf fyddai gwerthu ar-lein yn unig.

Ond dyw hi ddim eisiau gwneud hynny, meddai.

"Dwi wedi bod yma dros 10 mlynedd a dwi'n caru'r siop, ac mae gweld pethe fel hyn yn mynd ymlaen, mae'n ddiflas."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bwriad y rali yn Aberd芒r oedd rhoi cyfle i bobl yr ardal ddod ynghyd i rannu profiadau

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydyn ni'n deall bod pobl yng Nghymru ac ar draws y DU yn ei chael hi'n anodd gyda phrisiau'n codi, ac er nad yw'n bosib i ni warchod pawb rhag yr heriau byd-eang rydyn ni'n eu hwynebu, rydyn ni'n cefnogi teuluoedd a busnesau trwy'r misoedd anodd sydd o'n blaenau.

"Rydyn ni'n cynnig 拢37bn o gefnogaeth i aelwydydd, sy'n cynnwys 拢1,200 o gefnogaeth uniongyrchol i wyth miliwn o'r aelwydydd mwyaf bregus, a 拢400 o ostyngiad ar filiau ynni pawb y gaeaf hwn.

"Rydyn ni eisoes wedi cymryd nifer o gamau i gefnogi cwmn茂au, torri trethi i gannoedd o filoedd o fusnesau ledled y DU gan dorri'r dreth ar danwydd a lleihau faint o yswiriant gwladol mae cyflogwyr yn ei dalu trwy godi'r Lwfans Cyflogaeth.

"Rydyn ni'n cyflwyno'r paratoadau angenrheidiol i sicrhau bydd gan lywodraeth newydd y cyfle i gynnig cefnogaeth ychwanegol cyn gynted 芒 phosib."