大象传媒

Heddlu Gwent: Diswyddo dau uwch swyddog ar 么l ymddygiad mewn parti

  • Cyhoeddwyd
Cafodd Mark Warrender (chwith), Marc Budden (canol) a Paul Staniforth sgwrs amhriodol gyda swyddog iauFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Mark Warrender (chwith), Marc Budden (canol) a Paul Staniforth sgwrs amhriodol gyda swyddog iau

Mae dau o uwch swyddogion Heddlu Gwent wedi cael eu diswyddo yn dilyn honiadau o ymddygiad rhywiol amhriodol.

Daeth panel i'r casgliad bod gweithredoedd y Prif Uwcharolygydd Mark Budden a'r Prif Arolygydd Paul Staniforth - ynghyd 芒 thrydydd swyddog - yn gamymddygiad dybryd.

Fe wnaeth y trydydd swyddog, y Prif Uwcharolygydd Mark Warrender, ymddeol o'r llu ddydd Gwener.

Roedd wedi cael ei gyhuddo o gyffwrdd swyddog iau yn amhriodol yn ystod parti ymddeoliad yn 2019.

Dyfarnodd y panel y byddai wedi cael ei ddiswyddo petai'n dal yn gwasanaethu gyda'r llu.

Dyfarnwyd bod y tri wedi cael sgwrs amhriodol gyda'r swyddog dan sylw.

Cafodd y gwrandawiad ei gynnal ym mhencadlys Heddlu Avon a Somerset ar ddyddiau gwahanol rhwng Ebrill eleni a dydd Mawrth, 6 Medi.

Pynciau cysylltiedig