Galw am fwy o wirfoddolwyr i gynllun Gig Buddies
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryder fod oedolion ag anableddau dysgu yn colli allan ar fywyd cymdeithasol oherwydd prinder gwirfoddolwyr 芒 chynllun Gig Buddies.
Cafodd Ffrindiau Gigiau Cymru, neu Gig Buddies, ei sefydlu gan elusen Anabledd Dysgu Cymru yng Nghaerdydd yn 2018 er mwyn ceisio lleihau unigrwydd ymhlith y rhai sy'n wynebu heriau wrth fynd allan.
Mae'r cynllun yn paru gwirfoddolwyr 芒 phobl er mwyn mynd i ddigwyddiadau fel cyngherddau, dram芒u a gemau p锚l-droed.
Mae wedi dyblu mewn maint yng Nghymru ers 2019, ond o ganlyniad maen nhw angen mwy o wirfoddolwyr i ateb y galw.
Ar hyn o bryd dim ond 50% o'r 129 aelod sydd 芒 gwirfoddolwr, ac mae 39 unigolyn arall ar restr aros.
'Rhwystredig'
"Mae 'na alw mawr am ragor o wirfoddolwyr," meddai llysgennad Gig Buddies Cymru, Heather Graham.
"Mae'n rhwystredig na allwn ni ddarparu ein gwasanaeth i bawb sy'n awyddus bod yn rhan ohono."
Bwriad y cynllun, meddai, yw datblygu "perthynas" a galluogi rhai sydd ag anableddau dysgu i fynd allan a chael amser da.
"Mae'n arferol i bobl aros fyny ar 么l 21:00 ac mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud hi'n normal i bobl ag anableddau dysgu i wneud yr un fath.
"Yn aml does dim cyfle i wneud hyn gan bo'n rhaid i staff cefnogi adael."
Yn 么l gwaith ymchwil gan elusen Stay Up Late roedd 69% o bobl ag anableddau dysgu un ai yn y gwely neu'n paratoi i fynd i'r gwely am 20:30 ar nos Wener arferol. Dim ond 7% oedd allan.
Mae cynlluniau fel Gig Buddies yn "allweddol" felly, yn 么l cyfarwyddwr Mencap Cymru - elusen sy'n darparu cefnogaeth bersonol i bobl ag anableddau dysgu a'u teuluoedd.
Yn 么l Wayne Crocker mae cyfleon i gymdeithasu wedi lleihau ers y pandemig.
"Wrth i ni ddod allan o Covid mae naw o bob 10 rhiant yn dweud wrthym ni bod eu plant yn llai cymdeithasol," meddai.
'Mae'n neis iddi fod yn annibynnol'
Mae gan Sian Fouladi o Gaerdydd Syndrom Down. Does gyda hi ddim ffrind gig ac mae hi'n hoff iawn o gymdeithasu.
Dywed ei chwaer Elin, sy'n perfformio dan yr enw Parisa Fouladi, ei bod hi'n gallu bod yn anodd i Sian fynd i'w gweld.
"Dyw Sian ddim wastad eisiau mynd i gigs 'efo Mam o hyd a weithiau dyw hi ddim isho mynd hefo fi chwaith felly mae'n neis iddi fod yn annibynnol a mynd 'efo gr诺p o ffrindiau.
"Mae'n gallu bod yn rhwystredig os ydy hi really ishe mynd i rhywbeth a bod ni ddim ar gael - dyw hi ddim yn gallu mynd wedyn."
Mae Elin yn cytuno bod cynllun yn bwysicach nag erioed yn dilyn dwy flynedd anodd i bawb yn sgil Covid, ac "yn enwedig os ydy pobl yn teimlo'n unig i ddechrau".
"Mae Gig Buddies yna i helpu, sy'n beth gwych. Tasen nhw just yn gallu cael mwy o wirfoddolwyr byddan nhw'n gallu helpu mwy o bobl - cael nhw allan o'r t欧 i fwynhau be' maen nhw'n mwynhau 'neud."
'Fel cael ffrind gorau newydd'
Mae Gareth Pahl o Bowys a Sophie Scheeres o Gaerdydd, sydd 芒 Syndrom Down, yn rhan o'r cynllun ers tair blynedd.
Maen nhw'n dweud ei fod yn wych ac yn annog unrhyw un i ymuno. Maen nhw'n mwynhau mynd i'r dafarn ac i sioeau reslo a drag.
"Dwi'n cwrdd 芒 mwy o bobl ac yn datblygu'n berson fwy hyderus," meddai Sophie.
Ychwanegodd Gareth: "Dyw e ddim fel cael dy fatcho gyda pherson - mae fel cael ffrind gorau newydd.
"Fy mhrif ofn oedd yngl欧n ag amser, ond un noson y mis ydy o, ac wrth i'n perthynas ni dyfu ry'n ni'n dueddol o 'neud popeth gyda'n gilydd r诺an."
Mae Gareth Jones o Gaerdydd wedi bod yn gwirfoddoli gyda Nick ers tua pedair blynedd.
Maen nhw'n mynd i wylio gemau rygbi, mynd i gyngherddau neu i'r dafarn am beint.
"Dwi wrth fy modd yn mynd i gigs a dwi'n meddwl bod rhywbeth sy'n rhwystro pobl rhag bod yn gaeth yn t欧 yn hytrach nag allan gyda ffrindiau yn wych i bawb," meddai.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod ni'n gallu helpu a di o ddim yn costio dim byd i ni, just bach o amser ar gyfer rhywbeth 'dan ni'n mwynhau 'neud beth bynnag."
Yn 么l Gareth Jones does dim angen i bobl boeni am wirfoddoli. Bydd y trefnwyr yn sicrhau bod unigolion yn cael eu paru gyda pherson addas.
"Dydy Nick ddim yn siarad rhyw lawer, 'di o ddim yn 'neud penderfyniadau. Mae o'n hapus i fynd lle bynnag dwi'n mynd.
"Mae 'na bobl 'efo anableddau gwahanol ond mae Gig Buddies yn gwneud yn si诺r bod y gwirfoddolwr yn gallu ymdopi 'efo'r sefyllfa."
Mae angen geirda ar y rhai sydd am ymuno a bydd angen i'r gwirfoddolwr gael archwiliadau gan yr heddlu a hyfforddiant.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022