Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Oriel: Delweddau trawiadol o Gymru
Cyn ymddeol yn 2017 roedd Harri Williams o Bontyberem yn brif ddylunydd i Bwrdd Croeso Cymru ac yna'n ffotograffydd llawrydd. Mae wedi tynnu lluniau enwogion fel Syr Anthony Hopkins a Jimmy Carter, a nifer fawr o ardaloedd hyfrytaf Cymru.
Yn 么l ym mis Ebrill 2021 fe gipiodd y wobr gyntaf yng nghategori 'Bwyd yn y Maes' yng nghystadleuaeth y Pink Lady Food Photography Awards gyda'r llun uchod o ffermwr gyda'i wartheg ger Castell Carreg Cennen.
Dyma ei ddetholiad o'i hoff ffotograffau dros y blynyddoedd a'i reswm dros ei ddewis.
"Ffordd dawel yn Bannau Brycheiniog sydd yn dangos graddfa'r mynyddoedd a'r ffordd. Llun syml iawn sydd yn dangos fel mae golau diwedd y dydd yn chwarae ar y mynyddoedd."
"Enghraifft o'r tawelwch a heddwch ar lan y gronfa dd诺r yn Bannau Brycheiniog, gyda'r niwl yn codi gyda machlud yr haul."
"Tywydd dramatig dros Gastell Carreg Cennen. Cefais fy nghomisiynu i saethu'r ddelwedd hon ar gyfer poster mawr oedd yn cael ei arddangos ger Twnnel y Sianel. Roeddwn yn cymudo rhwng Castell Dolbadarn yn Llanberis a fan yma cyn i mi benderfynu mynd allan ar brynhawn Sul gwlyb a stormus. Cefais ychydig funudau i ddal y llun yma!"
"Un syrffiwr mewn cildraeth tawel ym Mae Ceredigion - mae'r syrffiwr yn rhoi ymdeimlad o raddfa a theimlad o ddihangfa i'r olygfa."
"T欧 Cychod Dylan Thomas, Talacharn. Roeddwn wedi trefnu ymlaen llaw i gael mynediad i'r t欧 am dri o'r gloch y bore, yn ystod y llanw uchel. Roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n bwysig rhoi golau yn y ffenestr i bwysleisio'r unigedd a'r heddwch sy'n dod gyda byw mewn lle mor rhyfeddol."
"Taith gerdded gynnar yn yr hydref mewn coedwig niwlog. Yr unig synau yw'r cerddwyr yn tarfu ar y carped o ddail, a ch芒n yr adar. Hudolus."
"Castell Llansteffan o'r awyr. Mae'r ddelwedd hon yn dangos pwysigrwydd strategol y safle gan y byddai wedi rheoli'r fynedfa i Afon Tywi. Gellid ei gyflenwi o'r m么r hefyd."
"Eglwys Mwnt gydag Ynys Ceredigion ar fachlud haul. Hoffais y ddelwedd hon oherwydd ei symlrwydd a'i hymdeimlad o unigedd."
"Niwl y bore bach dros Llyn Gwynant. Mae'r coed yn rhoi ymdeimlad o raddfa a mawredd i'r olygfa gyfan."
"Y Point ar Gwrs Golff Nefyn. Roedd yn ddiwrnod gwyntog iawn gyda hyrddiau cryf. Gan fy mod yn saethu o hofrennydd gyda'r drws yn llydan agored, roeddwn yn cael fy nharo gan y gwynt a'r downdraft o'r rotor. Bad hair day!"
"Cwrs Golff Pennard, un o'r cyrsiau gorau yng Nghymru. Mae'r ddelwedd hon yn dangos un o'r tees dramatig ar ochr clogwyni'r Gw欧r sy'n plymio i'r m么r."
"Portmeirion ac Aber Dwyryd - llun sy'n dangos beth sydd gan arfordir hyfryd ac amrywiol Cymru i'w gynnig. Mae nifer o bobl wedi dweud wrthyf na fyddent wedi credu mai Cymru ydi fan yma."
"Mae terasau Cwm Rhondda wedi'u gosod yn erbyn cefndir o domennydd slag sy'n cael eu hadennill yn araf gan natur. Nodyn i'ch atgoffa o amseroedd caled!"
"Cerddwyr crag yn Eryri. Fe gyrhaeddon ni faes awyr Caernarfon mewn hofrennydd i ddarganfod bod y mynyddoedd o dan flanced o gwmwl. Llwyddon ni i ddod o hyd i fwlch yn y cwmwl a oedd yn caniat谩u inni godi uwch ei ben a darganfod yr olygfa anhygoel hon."
"Golau'r wawr ar Gwrs Golff Cenedlaethol Cymru, un o'r prif gyrsiau parcdir ym Mhrydain."
"Niwl yn gynnar yn y bore yn Nyffryn Afan, gyda'r ffordd droellog yn arwain at bentref Abergwynfi. Rwy'n hoffi'r ddelwedd hon oherwydd ei bod yn cyfleu ymdeimlad o amseroldeb a chymuned yng nghymoedd diwydiannol De Cymru."
"Cwrs Cwpan Ryder 2010 yn Celtic Manor. Roeddwn yn ffodus i gael fy nghomisiynu i greu delweddau hyrwyddo ar gyfer dau Gwpan Ryder - Celtic Manor a Gleneagles yn yr Alban."
Hefyd o ddiddordeb: