Gohirio a chanslo digwyddiadau yn sgil marwolaeth y Frenhines
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o ddigwyddiadau ledled y DU wedi'u canslo neu eu gohirio er cof am y Frenhines Elizabeth II a fu farw yn dawel yn Balmoral ddydd Iau yn 96 oed.
Mae undebau llafur wedi gohirio gweithredu diwydiannol fel arwydd o barch.
Roedd streic bost ddeuddydd i fod i ddechrau ddydd Gwener ac roedd gweithwyr rheilffyrdd wedi bwriadu streicio ddiwedd yr wythnos nesaf.
Daeth cadarnhad gan y 大象传媒 bod noson olaf y Proms, oedd i fod i ddigwydd yn Llundain nos Sadwrn, wedi cael ei chanslo.
Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud na fydd ysgolion a cholegau'n cau am y tro.
Mewn datganiad, dywedodd y llywodraeth y dylai ysgolion barhau i agor fel arfer, ond y byddai cyngor pellach unwaith y bydd manylion yr angladd wedi eu cadarnhau.
Mae sawl cyngor sir wedi cyhoeddi bod cyfarfodydd yn cael eu gohirio am gyfnod fel arwydd o barch.
Ym myd y campau, mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru bellach wedi cadarnhau na fydd gemau domestig yn mynd yn eu blaen y penwythnos hwn.
Roedd Cynghrair B锚l-droed Lloegr eisoes wedi cadarnhau bod yr holl gemau p锚l-droed oedd i fod i ddigwydd dros y penwythnos wedi eu gohirio.
Cafodd g锚m griced Lloegr yn erbyn De Affrica, pencampwriaeth golff y PGA yn Wentworth, a chweched cymal ras seiclo Taith Prydain eu gohirio hefyd.
Fe fydd y criced a'r golff yn ailddechrau ddydd Sadwrn.
Bydd dim rasio ceffylau yn digwydd yn y DU chwaith, a bydd yna ddim ornestau bocsio dros y penwythnos, gan gynnwys gornest Lauren Price yn erbyn Timea Belik yn arena 02 Llundain nos Sadwrn.
Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru brynhawn Gwener na fyddai gemau oedolion yn digwydd dros y penwythnos.
Dywedodd yr Undeb bod gan "gemau plant bach, iau a dan 18 sydd eisoes wedi eu trefnu ganiat芒d i barhau er mwyn osgoi unrhyw amharu i blant a theuluoedd".
Ond mae "gofyn i glybiau oedi am ddwy funud o dawelwch cyn bob g锚m", ychwanegodd y datganiad.
Roedd gemau cyfeillgar rhwng y Scarlets a'r Gweilch, a Rygbi Caerdydd a Zebre nos Wener eisoes wedi'u canslo.
Ni fydd ras Ironman Cymru i blant - Ironkids - yn digwydd ddydd Sadwrn, ond fe fydd ras yr oedolion yn cael ei chynnal ddydd Sul.
Pwy sy'n penderfynu?
Roedd canllawiau galaru cenedlaethol Llywodraeth y DU yn cynghori nad oedd canslo gemau neu ddigwyddiadau yn orfodol, gan adael y penderfyniad i'r campau eu hunain.
Mae'r cyngor hefyd yn datgan nad oes gorfodaeth i ganslo ar ddiwrnod yr angladd chwaith.
Ond mae'n awgrymu y gellir aildrefnu gemau neu ddigwyddiadau fel nad ydyn nhw'n digwydd ar adeg y gwasanaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2022
- Cyhoeddwyd9 Medi 2022
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022