Cwymp bychan i 9.9% yn y gyfradd chwyddiant
- Cyhoeddwyd
Mae cyfradd chwyddiant y DU wedi lleddfu ychydig, er bod prisiau'n dal i godi ar eu cyfradd gyflymaf ers bron i 40 mlynedd.
Bu gostyniad mewn chwyddiant - y mesur o godiadau pris - i 9.9% yn y 12 mis hyd at fis Awst, i lawr o 10.1% yng Ngorffennaf, meddai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae costau byw cynyddol yn cael effaith ar gyllidebau cartrefi, gyda phrisiau'n codi'n gyflymach na chyflogau, ac mae Banc Lloegr wedi dweud y gall chwyddiant gyrraedd hyd at 13% eleni.
Cwymp ym mhrisiau petrol a diesel oedd y prif reswm dros leddfu'r raddfa chwyddiant, wedi i bris cyfartalog petrol syrthio o 14.3c y litr rhwng Gorffennaf ac Awst.
Mae prisiau tanwydd wedi bod yn cynyddu oherwydd y rhyfel yn Wcr谩in, a'r dyhead i leihau dibyniaeth Ewrop ar olew Rwsia.
Ond mae costau cyfanwerthu wedi gostwng, ar 么l i ofnau am ddirwasgiad yn yr Unol Daleithiau gilio oherwydd y galw am olew.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2022