'Dim ond ffermydd sy'n gwarchod natur ddylai gael grant'
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru yn bwrw ati 芒 diwygiadau pellgyrhaeddol i amaethyddiaeth fydd yn talu ffermwyr am warchod natur a brwydro newid hinsawdd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ei Bil Amaeth yn nodi moment "hanesyddol".
Cytunodd arweinwyr y diwydiant y byddai'r ddeddfwriaeth newydd yn "diffinio ffermio yng Nghymru am genhedlaeth i ddod".
Ond daw wrth i Lywodraeth San Steffan daflu amheuaeth dros gynlluniau tebyg yn Lloegr.
Gwobrwyo gwaith amgylcheddol
Mae'r Bil Amaeth cynta' erioed i Gymru wedi bod yn cael ei ddatblygu ers pleidlais Brexit yn 2016, a hynny'n dilyn degawdau pan oedd penderfyniadau dros bolisi ffermio a chymhorthdaliadau yn cael eu gyrru gan yr UE.
Cafodd ei osod ger bron y Senedd ddydd Llun wrth ddechrau ei daith tuag at ddod yn ddeddfwriaeth.
Mae'r bil yn sefydlu'r gallu i weinidogion Cymreig sefydlu a gweithredu system cymhorthdaliadau newydd sbon i ffermwyr - gyda ffocws llawer gwyrddach.
Mae ffermydd yng Nghymru'n rhannu cyfanswm o dros 拢300m yn flynyddol mewn cyllid cyhoeddus ar hyn o bryd, gyda'r rhan helaeth o hwnnw'n cael ei dalu ar sail faint o dir sydd dan eu gofal.
Ond yn y dyfodol, fe fyddan nhw'n cael eu gwobrwyo am waith amgylcheddol megis plannu coed, adfer mawndiroedd a chynefinoedd bywyd gwyllt, yn ogystal 芒 mabwysiadu dulliau cynaliadwy o gynhyrchu bwyd.
Mae'r bil hefyd yn sefydlu'r fframwaith ar gyfer monitro ac asesu cyrhaeddiad - gyda gofyn ar i weinidogion osod targedau, ac adrodd i'r Senedd yn gyson o ran cyrhaeddiad.
Am y tro cyntaf yn y DU, mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn cynnwys cyflwyno gwaharddiad llwyr ar ddefnydd maglau a thrapiau glud, a gafodd eu disgrifio gan y gweinidog materion gwledig Lesley Griffiths fel dyfeisiadau nad oedd "yn gydnaws 芒'r safonau lles anifeiliaid uchel yr ydym yn ymdrechu drostynt yma yng Nghymru".
Ychwanegodd bod y "bil Amaeth Cymreig hanesyddol" yn amlinellu "sut y gallwn gadw ffermwyr ar y tir, cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a mynd i'r afael 芒'r argyfwng hinsawdd".
"Rwy'n hynod falch o'n ffermwyr a'r sector amaeth yma yng Nghymru," meddai.
"Drwy'r darpariaethau yn y Bil, rwyf am sicrhau y gallwn barhau i gefnogi ac annog ein ffermwyr a'n cynhyrchwyr i greu a chynnal sector amaethyddol ffyniannus."
Cefnogaeth yng nghefn gwlad?
Yn y cyfamser yn Lloegr - a oedd ar y blaen o ran cyflwyno system newydd o gymhorthdaliadau gwyrddach - mae'r newyddion bod y llywodraeth newydd yn adolygu'r ddarpariaeth wedi arwain at feirniadaeth chwyrn gan gyrff amgylcheddol a rhai amaethwyr, er i undeb yr NFU alw am oedi.
Disgrifiodd Aled Jones, llywydd NFU Cymru, y bil amaeth Cymreig fel yr un y mwyaf arwyddocaol i'r diwydiant ers Deddf Amaeth 1947, a basiwyd gan Senedd San Steffan wedi'r Ail Ryfel Byd i roi hwb i'r gwaith o gynhyrchu bwyd.
"Mae'n dod ar adeg allweddol i gymdeithas gydag effaith y rhyfel arswydus yn Wcr谩in yn rhoi ffocws ar ba mor fregus a phwysig yw sicrhau cyflenwad diogel o fwyd fforddiadwy," meddai.
"Dyna pam bod yn rhaid i'r bil yma, fel prif nod, atgyfnerthu'r gwaith o gynhyrchu cyflenwad o fwyd diogel, fforddiadwy o ansawdd uchel yng Nghymru."
Dywedodd elusen bywyd gwyllt WWF Cymru bod arolwg ar eu rhan wedi awgrymu bod pobl yng nghefn gwlad Cymru yn gefnogol o'r syniad o newid cymhorthdaliadau amaeth er lles natur.
Yn 么l arolwg barn o 1,000 o drigolion, roedd 60% o'r farn mai ond ffermydd sy'n gwarchod bywyd gwyllt ddylai elwa o grantiau yn y dyfodol.
Roedd 96% yn cytuno bod gan ffermwyr Cymru r么l bwysig i'w chwarae wrth warchod natur, tra bod 88% yn credu eu bod yn bwysig ar gyfer taclo newid hinsawdd.
Ond dim ond traean (34%) oedd yn credu bod ffermydd yn gwneud digon yn barod.
'Angen newidiadau uchelgeisiol'
Mae ffermydd Cymru'n rhannu cyfanswm o dros 拢300m mewn cymorthdaliadau yn flynyddol ar hyn o bryd, gyda'r rhan helaeth o hwnnw'n cael ei ddosbarthu ar sail faint o dir sy' dan eu gofal.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweld ffermwyr yn ganolog i'w chynlluniau ar gyfer helpu taclo newid hinsawdd a'r colledion ym myd natur, o gofio eu bod yn rheoli dros 80% o dirwedd y wlad.
Ond mae'r newidiadau arfaethedig ymysg y mwyaf pellgyrhaeddol i'r diwydiant mewn cenhedlaeth ac wedi arwain at lot o drafod a dadlau - yn enwedig o ystyried pwysigrwydd amaeth i economi a diwylliant cefn gwlad.
Wrth wraidd y fframwaith mae pedwar amcan Rheoli Tir yn Gynaliadwy:
cynhyrchu bwydydd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy;
lliniaru'r newid hinsawdd ac addasu iddo;
cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a gwarchod;
gwella cefn gwlad a diwylliant Cymru, cynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso'r defnydd ohoni.
Dywedodd Rhian Brewster, pennaeth cyfathrebu WWF Cymru bod canlyniadau'r arolwg a wnaethon nhw yn dod "yn ystod moment allweddol i Gymru" ac yn cynnig cipolwg o'r farn mewn cymunedau gwledig.
"Mae'r Bil Amaeth yn rhoi cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ni osod Cymru ar lwybr tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy," meddai.
"Ry'n ni - ynghyd 芒'r mwyafrif o Gymru wledig - yn awyddus i weld ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am fabwysiadu arferion adfywiol sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd a natur.
"Gall y trawsnewidiad hollbwysig yma ond ddigwydd gyda newidiadau uchelgeisiol i daliadau amaethyddol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2022
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2022