Dewis Rhun ap Iorwerth fel ymgeisydd am San Steffan
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Senedd Cymru ar gyfer Ynys M么n, Rhun ap Iorwerth, wedi cael ei ddewis gan gangen leol Plaid Cymru i fod yn ymgeisydd yr etholaeth ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.
Bydd yn ceisio cipio'r sedd yn San Steffan oddi ar y Ceidwadwyr, wedi i Virgina Crosbie ei hennill yn yr etholiad diwethaf yn 2019.
Mae Mr ap Iorwerth, cyn-newyddiadurwr gyda 大象传媒 Cymru, wedi cynrychioli'r etholaeth ym Mae Caerdydd ers 2013.
Fe gyhoeddodd fis Gorffennaf ei fod yn bwriadu ymgeisio am enwebiad Plaid Cymru ar gyfer y sedd yn San Steffan.
Yn 么l rheolau'r Senedd, byddai'n rhaid iddo ymddiswyddo fel Aelod o'r Senedd pe bai'n cael ei ethol i San Steffan.
'Llais M么n a Chymru yn San Steffan'
"Mae cynrychioli Ynys M么n yn y Senedd yn anrhydedd enfawr, ond wrth i'n Senedd ein hunain barhau i dyfu a chryfhau, mae'n allweddol i sicrhau bod llais M么n a Chymru yn cael ei glywed yn San Steffan," meddai.
Dyw Plaid Cymru heb ennill sedd Ynys M么n yn San Steffan ers i Albert Owen ei chipio i'r blaid Lafur yn 2001.
Ni wnaeth Mr Owen sefyll yn yr etholiad diwethaf, wrth i Ms Crosbie gipio'r sedd i'r Ceidwadwyr gyda mwyafrif o 1,968.
Llafur a ddaeth yn ail bryd hynny, gyda Phlaid Cymru yn drydydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2019