Treth Trafodiadau Tir: Dim treth ar brynu cartrefi am lai na 拢225,000
- Cyhoeddwyd
Ni fydd pobl sy'n prynu cartrefi yng Nghymru am lai na 拢225,000 yn talu unrhyw dreth, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi.
Mae'r trothwy ar gyfer talu Treth Trafodiadau Tir yn cael ei godi o 拢180,000 a bydd y newid yn dod i rym o 10 Hydref.
Bydd cynnydd bychan hefyd yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer tai sy'n costio mwy na 拢345,000.
Dywed Llywodraeth Cymru mai bwriad y newid hwn yw sicrhau bod y trothwy ar gyfer talu treth yn adlewyrchu'r cynnydd ym mhrisiau tai dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Daw hyn ar 么l i newidiadau yn Lloegr weld trothwyon treth stamp yn codi o 拢125,000 i 拢250,000.
Yn wahanol i Loegr, nid oes gan Gymru drothwy arbennig ar gyfer prynwyr tro cyntaf.
Cyfartaledd
Pris t欧 ar gyfartaledd yng Nghymru ym mis Gorffennaf, yn 么l Cymdeithas Adeiladu'r Principality, oedd 拢240,635 - cynnydd o 11.5% yn ail chwarter 2022.
Bydd unrhyw un sy'n prynu t欧 sy'n costio llai na 拢345,000 yn gweld gostyngiad yn y dreth y maen nhw'n ei thalu, hyd at uchafswm o 拢1,575.
Bydd pobl sy'n prynu tai sy'n werth mwy na 拢345,000 yn gweld cynnydd o hyd at 拢550 - mae hyn yn berthnasol i tua 15% o drafodiadau eiddo yng Nghymru.
Bydd pob elfen arall o'r Dreth Trafodiadau Tir yn aros yr un fath, sy'n golygu nad oes gostyngiadau treth i bobl sy'n prynu ail gartrefi yng Nghymru, yn wahanol i dreth dir y dreth stamp yn Lloegr.
'Anghenion unigryw'
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: "Mae hwn yn newid sydd wedi ei deilwra i anghenion unigryw'r farchnad dai yng Nghymru ac mae'n cyfrannu at ein gweledigaeth ehangach o greu system drethi decach.
"Ni fydd 61% o brynwyr tai yn gorfod talu treth. Bydd y newidiadau hyn yn rhoi cymorth i'r bobl sydd ei angen, ac yn helpu ag effaith y cynnydd mewn cyfraddau llog.
"Rydym yn gwybod hefyd y bydd helpu pobl ar ben isaf y farchnad yn helpu'r rhai sy'n prynu am y tro cyntaf, yn enwedig.
"Rydym yn helpu pobl i brynu eu cartref cyntaf mewn nifer o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys perchnogaeth ar y cyd a chynlluniau cymorth i brynu, ac rwy'n falch o allu ymestyn y gefnogaeth honno drwy'r newidiadau hyn i'r Dreth Trafodiadau Tir."
'Dim digon'
Wrth ymateb, dywedodd Peter Fox AS ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, "yr wythnos ddiwethaf cymerodd Llywodraeth Geidwadol y DU gamau beiddgar a phendant i roi dyhead, cyfle a thwf wrth galon yr economi. Fel rhan o hynny bydd y Llywodraeth Lafur yn derbyn 拢70 miliwn yn dilyn newidiadau i dreth stamp yn Lloegr.
"Er bod y toriad treth hwn i brynwyr tai yng Nghymru i'w groesawu - rhywbeth yr ydym wedi bod yn galw amdano ers bron i ddegawd - nid yw'n mynd yn ddigon pell.
"Mae prisiau tai yng Nghymru bellach wedi taro 拢240,000, ac eto mae'r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd yn cau y drws yn gadarn yn wynebau prynwyr tro cyntaf drwy wrthod rhoi cymorth penodol iddyn nhw."
Treth incwm
Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau treth incwm a chadw'r gyfradd sylfaenol ar 20%.
Dywedodd Llyr Gruffydd, llefarydd cyllid y blaid: "Byddai gwneud hyn yn cynnig 拢200m y flwyddyn yn ychwanegol i gyllideb Llywodraeth Cymru y gellir ei ddefnyddio'n uniongyrchol i helpu i leddfu pwysau'r argyfwng costau byw, amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus a gwarchod y bregus rhag creulondeb y Tor茂aid."
Mae llywodraeth y DU wedi torri'r gyfradd sylfaenol o 20% i 19% - cam a gefnogwyd gan arweinydd Llafur y DU, Syr Keir Starmer.
Dywedodd Syr Keir y byddai'r penderfyniad i dorri cyfradd sylfaenol y dreth o 20% i 19% yn "lleihau'r baich treth ar bobl sy'n gweithio".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2022
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd26 Medi 2020
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022