大象传媒

Mark Lewis Jones: 'Y foment wnaeth newid fy mywyd i'n llwyr'

  • Cyhoeddwyd
Mark Lewis JonesFfynhonnell y llun, S4C

Mae Mark Lewis Jones yn un o actorion mwya' adnabyddus Cymru wedi iddo ymddangos mewn ffilmiau a chyfresi fel Game of Thrones, Gangs of London, Un Bore Mercher a nawr y gyfres newydd ar S4C, Dal y Mellt.

Ac mae'r actor yn taeru taw ei fagwraeth yn Rhos a'r athrawes wnaeth roi cyfle cyntaf iddo sy'n gyfrifol am ei lwyddiant.

Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw, meddai'r seren sgrin am y gwytnwch sy' wedi ei yrru yn ei yrfa disglair: "Mewn ffordd mae dod o Rhos ac o gefndir sy' ddim yn rhan o'r byd celfyddydau wedi bod yn gryfder i fi ac wedi pwshio fi mlaen.

"Dwi'n mynd i neud o beth bynnag 'di nghefndir i.

"Dwi'n falch iawn bod fi ddim wedi cael o ar bl芒t - un o'r pethau mwyaf hanfodol i fi yw ddim jyst y talent i actio ond bod yn resilient.

"Hwnna ydy un o'r pethau mwya' - os dwi'n mynd i goleg i siarad efo myfyrwyr drama, un o'r pethau sy' angen i nhw gael yw'r resilience 'ma i gymryd y knocks a'r rejections a chario ymlaen."

Ffynhonnell y llun, S4C

Ysbrydoliaeth

Yn ogystal a'i gefndir, mae Mark yn rhoi'r diolch am ei yrfa i un athrawes yn Ysgol Morgan Llwyd wnaeth newid ei fyd: "'Nath Gwawr Dafis newid fy mywyd i yn llwyr.

"Oherwydd hynny mi fydda'i yn ddiolchgar iddi am byth. Mae Rhos ei hun yn le lle mae 'na ddiwylliant Gymraeg a diwylliant tuag at corau a theatr. Mi oedd 'na o'n cwmpas i ddiwylliant tuag at y celfyddydau ond doedden ni fel teulu ddim (yn ran ohono).

"Dwi'n dod o gefndir yn y 60au a 70au oedd yn classic dosbarth gweithiol - mae 'nhad i yn saer.

"Doedd 'na ddim s么n am y fath beth ag actio felly bydde fe ddim 'di dod i'n meddwl i i neud unrhyw beth o'r fath. Ond pan o'n i yn Ysgol Morgan Llwyd roedd yr athrawes ddrama yma, sef Gwawr, yn dechrau yr un flwyddyn 'nes i ddechrau sef 1975.

"Un diwrnod 'nath Gwawr gofyn i fi fod yn sioe Culhwch ac Olwen a 'nes i gytuno.

"Roedd y foment 'na wedi newid fy mywyd i'n llwyr.

"Buaswn i ddim yn actor r诺an os bydde Gwawr ddim wedi dod i Ysgol Morgan Llwyd.

"Hwn sy'n bwysig i fi - roedd hi'n cadw llygad ar blant oedd yn dod o gefndiroedd lle doedd 'na ddim y celfyddydau yn y teulu ac 'oedd ganddi rhyw ddiddordeb yn dod a plant mewn i sioeau heb dim profiad o gwbl.

Actio am y tro cyntaf

"Am y tro cynta' erioed o'n i'n teimlo'n llygad fy lle ac yn gyfforddus fy nghroen yng nghwmni y bobl 'ma.

"Mwy na dim roedd hi'n un oedd eisiau rhoi cyfle i bawb - mi oedd hi'n dipyn o gymeriad ac 'nath hi gael dylanwad masif ar yr ysgol, ddim jyst fi. A dwi wedi clywed ers hynny, lle bynnag oedd hi wedi mynd, bod y dylanwad 'ma oedd hi wedi cael ar blant yn anferth ac yn bositif.

"'Nath hi basio yn y cyfnod clo - oherwydd hynny doedd 'na ddim posib i ni fynd i'r angladd.

"Mae'n syml iawn i fi - buaswn i ddim yn actor heblaw am Gwawr. Gwawr oedd 'di cymryd y step cyntaf tuag ataf i - a diolch i Dduw nes i gytuno."

Camau nesaf

Ar 么l y cyfle cyntaf yna aeth Mark ymlaen i wneud cwrs actio gyda'r Urdd yn Harlech a chwrs efo Theatr Ieuenctid Clwyd cyn mynychu Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Ers hynny mae wedi ymddangos mewn nifer o sioeau llwyfan gan gynnwys gyda'r Royal Shakespeare Company ac mewn amryw o gyfresi teledu a ffilmiau gan gynnwys Master and Commander a The Crown.

Ar hyn o bryd mae Mark i'w weld ar S4C yn chwarae rhan Mici Ffin mewn cyfres newydd, Dal y Mellt.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y cymeriadau Mici a Carbo yn y ddrama Dal y Mellt

Mae'r rhaglen yn seiliedig ar y nofel gyfoes o'r un enw gan Iwan 'Iwcs' Roberts, ac wedi'i lleoli yng nghefn gwlad Meirionnydd, Caerdydd a Soho yn Llundain.

Meddai Mark am y cymeriad Mici Ffin, sy'n rhedeg garej ac yn dioddef o PTSD: "Ar yr wyneb, mae'n gymeriad c诺l dros ben ond o dan y ddelwedd allanol mae yna lawer o broblemau. Mae'n ddyn cymhleth. Mae hynny bob amser yn dda i'w chwarae ac mae'n dwyllwr hoffus sydd bob amser yn hwyl."

Yn debyg i'w gymeriad yn y gyfres Gangs of London mae 'na elfennau tywyll iawn i'r cymeriad, yn 么l Mark: "Mae chwarae cymeriadau fel Kinney Edwards yn Gangs of London a Mici Ffin yn Dan y Mellt - maen nhw'n gymeriadau diddorol iawn ac mae 'na lot o bethau tebyg amdani nhw.

"Mae 'na gariad mawr tuag at y teulu ond hefyd mae byd maen nhw'n byw tu allan i'r teulu lle mae 'na drais yn rhan o'r bywyd normal o ddydd i ddydd."

Ydy chwarae cymeriadau treisgar yn cael effaith arno'n bersonol?

Meddai: "Ddim bod fi'n ymwybodol o hynny ond maen nhw o gwmpas yn fy mhen i tra dwi'n neud y jobs 'ma felly mae'n rhaid bod nhw'n cael rhyw effaith o dan y croen neu dan yr wyneb.

"Dwi wastad wedi bod yn un sy'n gallu jyst gadael y cymeriad yn y lleoliad ac wedyn dod yn 么l ato fo fory.

"Mae rhywun isho chwarae cymeriad efo sawl dimensiwn - mae Mici Ffin yn gangster ar ddiwedd y dydd ond mae'n rhaid dangos bod 'na gymaint o elfennau eraill yn ei gymeriad o.

"Hwnna ydy'r her i fi - bod o'n cario rhyw awyrgylch amdano fo, bod o'n gallu neud y trais eithafol 'ma os oes angen heb orwneud na actio hwnna, jyst 'bod' yn hytrach na actio.

"Mae'n bwysig iawn bod ti ddim yn chwarae cartoon gangster - bod o'n berson sy' efo lot o gariad tuag at ei met Les yn yr achos yma (cymeriad Graham Land) a bod 'na gariad mawr tuag at y teulu a'r pobl sy'n gweithio efo fo.

Cydymdeimlo gyda chymeriad

"Dwi'n trio ffeindio rhyw allwedd i fewn i'r cymeriad. Ar rhyw lefel chi'n gallu uniaethu - bod o ddim jyst yn rhwbeth dwi'n rhoi mlaen fel cot.

"Mae ganddo fo morals ond bod o'n byw mewn byd sy'n anghyffredin i ni. Mae'r un her yn chwarae Tedi Millward (yn The Crown) neu Rob Morgan (yn y gyfres Stella) neu pwy bynnag.

"Amrywiaeth 'di'r ffordd ymlaen i fi."

Pynciau cysylltiedig