Beth yw llwybr merched Cymru i Gwpan y Byd?
- Cyhoeddwyd
Ar nos Iau, 6 Hydref mae merched Cymru'n wynebu Bosnia-Herzegovina yng Nghaerdydd yn rownd gynderfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd.
Daw hyn wedi i'r garfan orffen yn ail yn eu gr诺p rhagbrofol, gan golli ond dwy o'u 10 g锚m - ac roedd y ddwy golled yn erbyn un o dimau gorau'r byd, Ffrainc.
Ond dydi'r llwybr i gyrraedd Cwpan y Byd yn Awstralia a Seland Newydd ddim yn un syml i garfan Gemma Grainger, fel esbonia Owain Ll欧r o adran chwaraeon 大象传媒 Cymru.
"Mae Cymru wedi bod yn ffodus i gael g锚m gartref yn erbyn Bosnia & Herzegovina yn y rownd gyn-derfynol," meddai.
"Mae hon yn g锚m y dylse nhw eu hennill gan fod Cymru 33 o safleoedd yn uwch 'na nhw ar restr detholion y byd. Os y bydden nhw'n fuddugol mi fydden nhw wedyn yn wynebu y Swistir oddi cartref, fydd yn dipyn mwy o her."
Os yn fuddugol yn erbyn Bosnia-Herzegovina a'r Swistir, efallai y bydd rhaid i'r cochion fynd gam ymhellach er mwyn cyrraedd Cwpan y Byd.
"Ac wedyn mae pethau'n mynd yn gymleth," meddai Owain Ll欧r, "hyd yn oed os y bydd Cymru yn llwyddo i ennill y ddwy g锚m yn erbyn Bosnia & Herzegovina a'r Swistir, mae'n ymddangos wedyn y bydd yn rhaid iddyn nhw deithio i Seland Newydd ym mis Chwefror i chwarae mewn g锚m ail-gyfle yn erbyn t卯m o gyfandir arall."
Yn y cymal olaf fe all Cymru wynebu timau fel Haiti, Chile, Senegal, Panama neu Gwlad Thai, sydd wedi sicrhau eu safleoedd yno yn barod.
Ond er y bydd y gemau nesaf yma'n brawf mawr i Gymru, mae Owain Ll欧r yn credu bod yna gyfle gwirioneddol i'r garfan greu hanes a chyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed.
"Mae 'na dalcen caled yn eu wynebu nhw os ydyn nhw am sicrhau eu lle yn y rowndiau terfynol - ond tydi hi ddim yn dasg amhosibl o bell ffordd," meddai.
"Mae'r t卯m yma yn barod wedi creu hanes yn ystod yr ymgyrch ragbrofol bresennol. Maen nhw'n gr诺p arbennig o chwaraewyr, a 'swn i'n synnu dim eu gweld nhw'n ennill y dair g锚m nesaf a chreu hyd yn oed mwy o hanes."
Hefyd o ddiddordeb: