大象传媒

Mislif trwm: 'Fi'n cael trafferth gadael y gwely'

  • Cyhoeddwyd
Francesca Dimech
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Francesca Dimech, 38 o Gaerdydd, yn aros i glywed os yw'r cyflwr endometriosis ganddi

"Dwi mewn shwt gyment o boen weithiau, fi'n cael trafferth gadael y gwely.

"Mae poen yn fy stumog, mae'r cyhyrau i gyd yn brifo, hefyd dwi'n gorfod mynd i'r t欧 bach drwy'r amser, pen tost, weithiau'n teimlo'n s芒l."

Dyma rai o symptomau Francesca Dimech. Mae ganddi ffibroidau, mae'n gwaedu'n drwm ac yn gorfod newid ei chynnyrch mislif yn aml iawn.

Yn ogystal, ers yn 15 oed, mae'n aros i glywed os yw'r cyflwr endometriosis ganddi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Francesca yn dweud ei bod wedi gorfod rhedeg o'r llwyfan i newid ei chynnyrch mislif

Mae'n dweud nad yw doctoriaid yn ei "chymryd hi o ddifrif".

"Hefyd ma' rhai cyflogwyr ddim yn cymryd fi o ddifrif, yn enwedig dynion. Dyw pobl ddim yn deall faint o effaith ma' mislif trwm a'r boen yn gallu cael arno ti," meddai.

Yn berfformwraig, mae Francesca yn dweud ei bod wedi gorfod rhedeg o'r llwyfan i newid ei chynnyrch mislif.

'Angen mwy o gyfathrebu'

Nid yw profiad Francesca yn anghyffredin yn 么l Dr Nia Williams, darlithydd seicoleg ym Mhrifysgol Bangor.

Mae hi'n dweud bod angen mwy o gyfathrebu ymhlith cyflogwyr ac mewn ysgolion.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr Nia Williams: "Mae cael mislif trwm yn gallu cael effaith seicolegol ar bobl"

"Mae cael mislif trwm, yn enwedig mewn merched yn eu harddegau, yn gallu cael effaith seicolegol arnyn nhw. Ma' nhw'n bryderus o fis i fis oherwydd y sgil effeithiau," meddai.

"Tydi hwn ddim yn bwnc 'da ni'n drafod yn aml iawn ym Mhrydain. Maen nhw'n trafod mewn gwledydd eraill - maen nhw'n fwy ar yr wyneb... [ym Mhrydain] mae hwn yn rhywbeth mwy personol ac yn dueddol o fod yn bwnc tab诺."

'Mae tab诺 am y math yma o bwnc'

Mae angen i gyflogwyr fod yn fwy meddylgar wrth gofnodi absenoldeb, meddai Lisa Dafydd, sy'n gyfreithwraig cyflogaeth yng nghwmni Lewis Silkin.

Mae cael mislif trwm yn gallu cael effaith gorfforol a seicolegol ar fenywod ac yn gallu amharu ar eu perfformiad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Lisa Dafydd bod rhai cyflogwyr rhyngwladol yn fwy blaengar

Mae yna deimlad o gywilydd hefyd, meddai, ac mae hynny'n atal menywod rhag bod yn agored am broblemau.

"Mae tab诺 am y math yma o bwnc - mae'n rhan o'r broblem hefyd," meddai Ms Dafydd.

"Os yw rhywun bant am bum diwrnod, yn aml mae'r cyflogwr yn gofyn iddyn nhw hunan dystio a dweud pam bo' nhw wedi bod bant.

"Ma' lot o fenywod yn teimlo'n embarrassed a bydde nhw'n dweud bo' nhw wedi cael annwyd."

Ychwanegodd bod rhai cyflogwyr rhyngwladol yn fwy blaengar. Yn nwyrain Asia, meddai, mae menywod yn cael cynnig diwrnod neu ddau i ffwrdd bob mis yn ddi-d芒l.

Yn Sbaen dywed bod deddfwriaeth newydd ar y gweill sy'n cynnig tridiau i ffwrdd i fenywod gyda th芒l.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Sian Gwenllian AS mae "diffyg proffil hanesyddol" yn y maes

Mae Sian Gwenllian, aelod Plaid Cymru dros Arfon yn y Senedd wedi ymgyrchu dros hawliau iechyd menywod.

Dywedodd bod angen codi ymwybyddiaeth am y maes.

"Mae diffyg proffil hanesyddol yn y maes - ry'n angen symud i ffwrdd a thrafod y materion pwysig yma," meddai.

Mae disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun iechyd menywod yn ystod yr hydref.

Mae yna ddarogan y bydd cronfa ymchwil menywod Cymru yn cael ei chreu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau.