大象传媒

Yr enwau mwyaf poblogaidd ar fabis Cymru

  • Cyhoeddwyd
babiFfynhonnell y llun, NurPhoto

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi cyhoeddi rhestrau o'r 100 enw mwyaf poblogaidd i ferched a bechgyn yng Nghymru a Lloegr yn 2021.

Dyma restrau Cymru Fyw o'r enwau Cymreig mwyaf poblogaidd ar fabis a anwyd yng Nghymru'r llynedd:

Enwau merched (a'r nifer)

1. Erin (87)

2. Alys (59)

3. Ffion (59)

4. Seren (57)

5. Mali (56)

6. Eira (53)

7. Nansi (41)

8. Megan (38)

9. Efa (37)

10. Cadi (36)

Erin oedd yr ugeinfed enw ar y rhestr o 100. Enwau Cymraeg eraill sy'n ymddangos ar y rhestr tu hwnt i'r 10 uchaf yw Lili, Nia ac Eleri.

gyda 173 Olivia wedi eu geni, yna Amelia (164), Isla (126), Freya (114) ac Ivy a Rosie (112).

Yn cwblhau y rhestr o'r 10 enw merched mwya' poblogaidd yng Nghymru oedd Ava (110), Grace (109), Lily (107) ac Evie (106).

Ffynhonnell y llun, BSIP
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Noah ac Oliva yw'r enwau mwyaf poblogaidd i blant Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf

Enwau bechgyn (a'r nifer)

1. Arthur (186)

2. Jacob (119)

3. Osian (115)

4. Isaac (87)

5. Elis (87)

6. Harri (85)

7. Tomos (73)

8. Jac (65)

9. Macsen (60)

10. Caleb (59)

Allan o'r holl enwau, Arthur oedd y trydydd enw mwyaf poblogaidd i fechgyn yng Nghymru llynedd. Hefyd yn ymddangos ar y rhestr o 100 mae'r enwau Cymraeg yma: Ioan, Cai, Tomi, Daniel, Morgan, Hari a Rhys.

O'r holl enwau i fechgyn yng Nghymru yn 2021,

Yn ail ar y rhestr mae Oliver (213), yna Arthur (186) a Theo (170). Yn bumed ar y rhestr mae Leo (168), yna Charlie (156), Archie (154), George (152), Jack (136) ac Oscar (135).

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig