Morfydd Clark: Siarad Cymraeg yn help i chwarae Galadriel
- Cyhoeddwyd
"Ar 么l 10 mlynedd o fod yn Llundain, dwi wedi siarad mwy o Gymraeg yn Seland Newydd!"
Dyma brofiad Morfydd Clark wedi iddi fod yn ffilmio cyfres newydd Amazon, The Lord of the Rings: The Rings of Power yn Seland Newydd gyda chast sy'n cynnwys sawl un o Gymru.
Mae ei r么l fel yr arwres Galadriel yn y gyfres wedi gwneud yr actores o Benarth yn seren ryngwladol. Mae'r llwyddiant yn dilyn dipyn o waith theatr i'r actores ifanc gan gynnwys chwarae rhan Blodeuwedd mewn cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru ac hefyd ennill gwobr BAFTA Cymru am ei r么l fel Maud yn y ffilm arswyd Saint Maud.
Bu'r seren sgrin yn siarad gyda Aled Hughes ar Radio Cymru am sut mae chwarae rhan Galadriel wedi newid ei bywyd ac am y profiad o weithio gyda nifer o actorion Cymreig yn Seland Newydd.
Mae pethau bach wedi newid [ers i'r gyfres gael ei darlledu] ond mae bywyd fi wedi mynd mlaen fel oedd e o'r blaen.
Mae wedi bod yn hyfryd bod pobl yn dechrau gweld The Lord of the Rings: The Rings of Power oherwydd ni wedi ffilmio fe dros dwy flynedd yn 么l - felly oedd e'n amser i bobl gweld e.
Chwarae arwres
Mae'n anhygoel ac mae hefyd wedi bod yn bwerus o ran teimlo'n bwerus yn fy hun i chwarae rhywun fel 'na. Roedd yr un peth efo Blodeuwedd.
Llwyddo i gael rhan Galadriel
O'n i 'di bod yn trio am y rhan am tua pum mis felly 'oedd e'n amser o just meddwl am y rhan a bod yn eitha' anxious am y peth. Wedyn o'n i 'di darganfod bod fi wedi ennill y rhan pan yng ng诺yl ffilm Toronto. O'n i ar y llwyfan yn neud Q&A am The Personol History of David Copperfield.
Ac 'oedd e gyd wedi curo fi ar unwaith, yn edrych mas ar gyd o'r pobl oedd yna. O'n i just wedi cael offstage a llewygu a 'nath security guard dal fi.
O'n i 'di cael dau gyfweliad yn Llundain, wedyn mynd i LA - roedd yn teimlo fel bod ar blaned arall - wedyn cael cyfweliad arall yn Llundain efo Charlie Vickers sy'n chware Halbrand yn y sioe. Wedyn 'oedd rhaid i'r ddau o ni fynd i Barcelona i gael cyfweliad ola' ni efo J. A. Bayona sef cyfarwyddwr y ddwy raglen gyntaf.
Felly lot o wledydd!
C芒n Galadriel
Dwi'n caru cerddoriaeth, rhywbeth sy'n dod o fynd i ysgol iaith Gymraeg. A hefyd just yn gwylio'r ffilmiau Lord of the Rings - 'oedd y gerddoriaeth mor anhygoel. O'n i mor hapus i glywed fod Bear McCreary yn gwneud y gerddoriaeth - o'n i'n ffan yn barod ac wedyn 'oedd e wedi ysgrifennu Galadriel's Theme. Ac mae mor brydferth.
Miliynau'n gwylio'r gyfres ar draws y byd
Ni ar fin dechrau ffilmio season 2. Ac ni'n bles i fod n么l efo'r cast oherwydd ni wedi bod trwy rhywbeth eitha' od gyda'n gilydd yn ffilmio rhywbeth fel hyn yng nghanol Covid ar ochr arall y byd felly mae bod yn 么l efo'r pobl 'na i gyd yn mynd i deimlo fel bod gartref.
Hefyd mae lot o bobl Cymraeg yn y cast - ni efo Trystan Gravelle, Owain Arthur ond hefyd Lloyd Owen - mae ei dad e'n Gymraeg. Ac mae Megan Richards [sy'n actio'r Harfoot, Poppy Proudfellow] efo tad Cymraeg. Felly mae'n rili hyfryd.
Dwi'n meddwl fod 'na lot o bobl sy' 'di mynd i ysgol iaith Gymraeg yn actio oherwydd y cyfleodd sydd gennym ni yn yr ysgol. 'Oedd hwnna'n rhywbeth o'n i heb sylweddoli cyn symud i Lundain.
O'n i just ddim yn gwybod - 'oedd pawb arall ddim yn rhan o g么r, 'oedd pawb arall ddim yn neud yr eisteddfod.
O ran Lord of the Rings, pan o'n i 'di darllen The Hobbit, 'oedd mam fi mor browd o'r ffaith fod Tolkien yn caru'r iaith Gymraeg.
Hefyd roedd rhywbeth yn y wybodaeth am yr elves pan o'n i 'di cael fy ngofyn i auditionio amdano yn dweud fod cael pobl oedd 'di neud bach o Shakespeare (yn dda) - dwi hefyd yn meddwl fod siarad Cymraeg a'r ffordd mae'r Gymraeg yn gweithio a gwneud rhywbeth fel Blodeuwedd yn mynd mewn efo Shakespeare yn rili dda ac hefyd mynd mewn efo middle earth.
Siarad Cymraeg ar y set
'Oedd hwnna'n hyfryd i fi - o'n i heb dyfu lan yn siarad Cymraeg gartref a dwi o hyd wedi teimlo bach yn swil bod Cymraeg fi ddim digon da. 'Oedd bod yn ran o hwn efo dau berson oedd yn siarad Cymraeg trwy'r amser gyda'i gilydd (Owain Arthur a Trystan Gravelle) - o'n i'n meddwl fod Cymraeg fi yn well na mae wedi bod erioed. Ar 么l 10 mlynedd o fod yn Llundain, dwi wedi siarad mwy o Gymraeg yn Seland Newydd!
Ffilmio'r gyfres nesaf
Mae gyda ni tua 10 mis felly mae hwnna'n rili neis, mae gynnon ni amser a s'dim brys sy'n hyfryd. Ti'n creu relationships mor dynn pan ti'n gweithio dros amser fel hwn gyda cast a chriw. Fi'n rili edrych mlaen - ni'n ffilmio ym Mhrydain a dwi'n edrych mlaen i gwrdd a'r criw newydd.