Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ynni: 'Llywodraeth yn anghofio ardaloedd tu hwnt i'r grid'
Mae gwneuthurwr caws o Gymru wedi dweud bod y llywodraeth yn "anghofio" ardaloedd nad ydynt wedi'u cysylltu 芒'r prif gyflenwad nwy wrth iddyn nhw frwydro gyda chost gynyddol y tanwyddau amgen maen nhw'n eu defnyddio ar gyfer gwresogi.
Mae eraill yn galw am eglurder ynghylch pryd a sut y byddai cymorth sydd wedi'i gyhoeddi ar gyfer aelwydydd nad ydynt wedi'u cysylltu 芒'r prif gyflenwad nwy yn cael ei dalu.
Nid yw olew a nwy petrolewm hylifedig (LPG) yn dod o dan y cap ar brisiau ynni a ddaeth i rym ar 1 Hydref.
Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd cartrefi oddi ar y grid yn cael 拢100 ychwanegol ar ben taliad o 拢400 i bawb.
Mae disgwyl i fanylion cymorth i fusnesau oddi ar y grid gael eu cyhoeddi'n fuan.
'Mynd trwy'r to'
Dywedodd John Savage-Onstwedder, perchennog Caws Teifi yn Llandysul, fod ei gostau ynni yn "mynd trwy'r to".
Mae'r busnes yn defnyddio nwy petrolewm hylifedig i wresogi ei adeiladau a'r d诺r y mae'n ei ddefnyddio i gynhesu llaeth.
Mae pris LPG wedi mynd o 40c y litr i 82c ac mae ei wariant blynyddol ar danwydd a thrydan wedi cynyddu o 拢20,000 i 拢40,000.
Dywedodd nad yw pecyn cymorth ynni'r llywodraeth yn rhoi chwarae teg i bob busnes.
"Pe bawn i'n gwneud caws gadewch i ni ddweud yn yr ardal drefol, neu yn y ddinas, mi fyddai gen i fantais cap pris y prif gyflenwad nwy a thrydan, ond yn byw mewn ardal wledig rydym dan anfantais."
'Wedi ein hanghofio'
Mae eisoes wedi codi pris caws i helpu i dalu costau cynyddol, ond mae'n ofni gwneud hynny eto oherwydd y rheidrwydd i aros yn gystadleuol.
"Mae'n fy nghadw i'n effro yn y nos," meddai.
"Mae gen i 22 o bobl [gweithwyr], ond mae hefyd eu teuluoedd - dyna tua 40 o bobl sy'n dibynnu am eu bywoliaeth ar yr hyn ry'n ni'n ei wneud yma."
Ni all mwy o fanylion am becyn cymorth y llywodraeth ar gyfer busnesau oddi ar y grid ddod yn ddigon buan iddo.
"Pam sydd rhaid i ni aros mor hir mewn ardaloedd gwledig? Mae eisoes wedi'i gyhoeddi ar gyfer pobl sy'n byw yn y dinasoedd.
"Rydyn ni ar waelod y pentwr, rydyn ni wedi ein hanghofio, a dweud y gwir", ychwanegodd.
Mae'r cyflenwr tanwydd annibynnol Oil 4 Wales wedi cyflwyno cyflenwad untro o 800 litr o olew gwresogi am ddim i gwsmeriaid 80 oed a h欧n sydd wedi bod gyda'r cwmni am o leiaf dwy flynedd.
"Mae'r henoed yn arbennig yn cael trafferthion," meddai'r sylfaenydd Colin Owens.
"Rydyn ni'n ei glywed bob dydd, pobl ar y ff么n sydd wedi colli anwyliaid.
"Maen nhw'n anobeithio, dydyn nhw ddim yn gallu fforddio'r tanwydd y ffordd mae prisiau wedi mynd."
Un sy'n elwa o gynllun Oil 4 Wales yw'r peiriannydd Alan Ellis, 92 oed, o Langain.
Mae'n teimlo'n "ffodus" y gall "fwy neu lai" fforddio ei gostau ynni gyda chefnogaeth a pheth cwtogi.
"Rwy'n credu'n gryf mewn cadw fy hun yn gynnes, ond y gaeaf yma dwi wedi rhoi persbectif hollol wahanol ar bethau.
"Mae'n rhaid i bawb feddwl ddwywaith cyn iddyn nhw droi'r thermostat i fyny, a dwi'n un o'r rhai fydd yn gwneud hynny," meddai.
"Pa olew sydd gen i, rydw i eisiau gwneud iddo bara cyhyd ag y galla' i."
Dywedodd y gr诺p ymgyrchu, y Gynghrair Cefn Gwlad, fod taliad ychwanegol y llywodraeth o 拢100 ar gyfer cartrefi oddi ar y grid yn "ddiferyn yn y m么r".
"Mae cymunedau gwledig ar eu colled oherwydd nad yw'r polisi wedi'i brofi o safbwynt gwledig," meddai Rachel Evans, cyfarwyddwr y sefydliad dros Gymru.
Mae ASau mewn ardaloedd gwledig hefyd wedi codi pryderon am y sefyllfa.
Mae AS Plaid Cymru Ceredigion, Ben Lake, wedi galw am gyflwyno cynllun talebau.
Tra bod AS Ceidwadol Dyffryn Clwyd, Dr James Davies wedi dweud ei fod wedi siarad gyda gweinidogion yr wythnos hon i'w hatgoffa o bryderon am y mater.
Dywedodd un o swyddogion Llywodraeth y DU: "Rydym yn cydnabod bod pobl yn cael trafferth gyda chostau byw cynyddol, gan gynnwys y rhai sy'n defnyddio olew gwresogi i wresogi eu cartrefi.
"Dyna pam, yn ogystal 芒 thaliad o 拢400 o fis Hydref i fis Mawrth a Gwarant Pris Ynn dwy flynedd ar gyfer eu costau trydan, byddwn yn darparu taliad pellach o 拢100 i aelwydydd sydd oddi ar y grid nwy."